Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael gwybod beth yw eich statws cyflogaeth: deiliad swydd

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debygol eich bod yn ddeiliad swydd.

Deiliaid swyddi

Os ydych yn dal swydd dan un o’r mathau canlynol o benodiadau, mae’n debygol eich bod yn ‘ddeiliad swydd’.

  • penodiad statudol (e.e. cyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni cofrestredig, aelodau bwrdd cyrff statudol, barnwyr neu aelodau tribiwnlys, neu benodiadau'r goron, er enghraifft yr heddlu)
  • penodiad dan gyfansoddiad mewnol sefydliad (e.e. trysorydd clwb neu ysgrifennydd undeb llafur)
  • penodiad a wnaed dan ddogfen ymddiriedolaeth (e.e. ymddiriedolwyr)
  • penodiadau eglwysig (e.e. aelodau’r glerigiaeth)

Mae Eglwys Loegr yn adolygu ei hamodau gwasanaeth ar hyn o bryd. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.

Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debygol iawn eich bod yn ddeiliad swydd:

  • does dim contract na chytundeb gwasanaeth yn gysylltiedig â'ch penodiad
  • nid oes gennych lawer o ddyletswyddau, ar wahân i’r dyletswyddau sy’n ofynnol dan y ddogfen ymddiriedolaeth, y cyfansoddiad neu’r statud perthnasol
  • nid ydych yn cael cyflog nac unrhyw fath arall o daliad rheolaidd am eich gwasanaeth
  • yr unig dâl a gewch yw honorariwm (taliad gwirfoddol) a delir ar gyfer y swydd, heb ystyried y gwaith a wneir – bydd y corff sy’n eich penodi yn tynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’r taliad
  • mewn gwirionedd, mae’n swydd annibynnol, ac nid ydych o dan reolaeth na goruchwyliaeth glòs y corff sy’n eich penodi

Os ydych yn ddeiliad swydd, nid ydych yn gyflogai nac yn weithiwr. Fodd bynnag, nid yw'r ffaith eich bod yn dal swydd yn eich atal rhag bod yn weithiwr neu'n gyflogai. Gallwch fod yn ddeiliad swydd ac yn gyflogai os yw’ch trefniadau gwaith yn cynnwys gweithio dan gontract ac yn bodloni'r prawf ar gyfer statws cyflogai.

Sefyllfa enghreifftiol

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych yn ddeiliad swydd, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol ganlynol. Os yw’n disgrifio sefyllfa sy'n debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debygol eich bod yn ddeiliad swydd.

Mae Aisha yn gyfarwyddwr anweithredol i gwmni dillad, a chafodd ei phenodi'n sgil ei phrofiad helaeth yn y sector adwerthu. Mae’n eistedd ar gyfarfodydd bwrdd bedair gwaith y flwyddyn ac yn cynnig cyngor i gyfarwyddwyr y cwmni (ond nid oes ganddi hawl i bleidleisio yn y cyfarfodydd).

Nid oes ganddi gytundeb gwasanaeth na chontract arall, ac nid yw’n gwneud unrhyw waith arall ar gyfer y cwmni. Nid yw’n cael cyflog ond caiff daliad cyffredin penodol y cytunwyd arno ymlaen llaw am ei chyfraniad.

Hawliau cyflogaeth ar gyfer deiliaid swyddi

Caiff eich hawliau a’ch dyletswyddau eu diffinio’n ôl eich swydd, nid gan gontract. Nid yw hynny’n golygu nad oes gennych ddim hawliau cyflogaeth. Mae rhai hawliau cyflogaeth yn egluro’n glir eu bod hefyd yn amddiffyn deiliaid swyddi, er enghraifft yr hawl i sicrhau na fyddant yn wynebu camwahaniaethu.

Ble i gael cymorth

Os nad yw’r datganiadau na’r enghraifft yn disgrifio eich sefyllfa waith chi, ceisiwch ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.

Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU