Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n ‘gyflogai’, yn ‘weithiwr’ ynteu’n ‘hunangyflogedig’, gallwch ddarllen y datganiadau isod i’ch helpu i benderfynu. Os ydych chi’n credu bod y rhan fwyaf o’r datganiadau’n berthnasol i chi, mae’n debyg mai gweithiwr ydych chi.
Os ydych chi’n cytuno â’r rhan fwyaf o’r datganiadau isod, mae’n debyg mai gweithiwr ydych chi.
Mae’n bosib y bydd y ffaith nad oes yn rhaid cynnig na derbyn gwaith yn eich atal rhag bod yn gyflogai. Mae’r ffaith bod yn rhaid i chi wneud y gwaith eich hun yn debyg o’ch rhoi chi yn y categori ‘gweithiwr’ ehangach.
Mae’r datganiadau uchod yn defnyddio'r enghraifft o waith a wneir ar gyfer ‘cwmni’. Fodd bynnag, maent yr un mor berthnasol os ydych chi’n gweithio i fasnachwr unigol, i bartneriaeth neu i unrhyw ffurf arall o sefydliad busnes.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n weithiwr, gallwch ddarllen y sefyllfa enghreifftiol ganlynol. Os yw’n disgrifio rhywbeth sy'n debyg i'ch trefniadau gweithio chi, mae'n debyg mai gweithiwr ydych chi.
Mae Ahmed yn gweithio dan gontract ‘heb oriau penodedig’ i gwmni ymchwil marchnata. Nid yw'n sicr o gael gwaith, a dim ond rhwng chwech a deg gwaith y mis y caiff ei alw i weithio. Mae ganddo swydd ran amser arall mewn warws a dim ond o ddydd Llun i ddydd Mercher y mae ar gael i weithio. Os yw’n cael cynnig gwaith ar ddydd Iau neu ddydd Gwener, mae fel arfer yn ei wrthod.Telir Ahmed dan y system Talu Wrth Ennill (TWE), lle mae'r cwmni'n didynnu treth ac Yswiriant Gwladol o'i gyflog. Mae’r cwmni’n darparu’r holl ddeunyddiau angenrheidiol ar gyfer y swydd ac mae hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut ac ymhle y dylid ymgymryd â’r ymchwil marchnata.
Fel gweithiwr, mae gennych yr hawl i gael hawliau cyflogaeth sylfaenol. I gael crynodeb o’r hawliau hyn, darllenwch yr erthygl ‘Hawliau cyflogaeth sylfaenol’. Fel arall, gallwch ymweld â'r adran gyflogaeth i gael gwybodaeth fanwl am hawliau cyflogaeth penodol.
Os nad yw’r enghraifft na’r datganiadau yn disgrifio eich sefyllfa waith, rhowch gynnig ar ddarllen yr erthyglau eraill yn yr adran hon.
Os ydych chi wedi darllen yr erthyglau eraill ac yn dal i fod yn ansicr, cysylltwch ag Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Bydd Acas yn gallu cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, am bob mater sy’n ymwneud â chyflogaeth, gan gynnwys statws gwaith.