Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yswiriant Gwladol

I gael gwybodaeth am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU tra byddwch chi dramor, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM. Gall Cyllid a Thollau EM roi gwybod i chi os bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am gyfnodau pan rydych wedi gweithio y tu allan i'r DU neu pan fyddwch yn bwriadu gwneud hynny.

Cyllid a Thollau EM (HMRC)

Gall y ganolfan wneud y canlynol:

  • darparu datganiad yn nodi faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi eisoes wedi'u talu
  • rhoi gwybod i chi a oes rhaid talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU am unrhyw gyfnod rydych chi wedi'i weithio, neu'n bwriadu ei weithio, y tu allan i'r DU fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig
  • rhoi gwybodaeth elfennol i chi am ofal iechyd os ydych chi'n symud neu'n teithio y tu allan i'r DU
  • anfon Rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol atoch chi cyn belled â'ch bod o fewn pedwar mis i oedran Pensiwn y Wladwriaeth y DU

Fe allwch gael mwy o wybodaeth am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EM neu drwy fwrw golwg ar ei gwefan - ceir y manylion isod.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid tra byddwch dramor

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM gan nodi eich rhif Yswiriant Gwladol a rhoi gwybod beth sydd wedi newid a phryd y digwyddodd hyn.

Er enghraifft, os ydych yn byw dramor ac yn fenyw, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os byddwch yn priodi, yn cael ysgariad neu'n dod yn wraig weddw.

Os byddwch yn symud tŷ tra byddwch dramor, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM pryd y byddwch yn symud ac i le y byddwch yn symud. Oni fyddwch yn rhoi gwybod pryd y byddwch yn symud, ni fydd Cyllid a Thollau EM yn gallu diweddaru eich cofnodion. Golyga hyn na ellir cysylltu â chi os nad yw'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod y flwyddyn dreth yn ddigon i gyfrif at ddibenion budd-daliadau.

Byddai Cyllid a Thollau EM fel arfer yn rhoi gwybod i chi faint y gallech ei dalu mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol er mwyn gwneud i'r flwyddyn honno gyfrif. Pan ydych yn agosáu at oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cynnig i chi hawlio unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol y mae gennych yr hawl iddo. Ni all Cyllid a Thollau EM wneud hyn os nad yw eich cyfeiriad diweddaraf ganddynt.

Fe allwch gael mwy o wybodaeth am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EM neu drwy fwrw golwg ar ei gwefan - ceir y manylion isod.

Cysylltu ag Elusennau, Asedau a Phreswylio Cyllid a Thollau EM

Llinell gymorth Preswylio Cyllid a Thollau EM (y Ganolfan ar gyfer pobl Ddibreswyl gynt)

Galw o'r DU:

Ffôn: 0845 9154811

Ffacs: 0845 9157800

Mae'r galwadau'n costio pris galwadau lleol BT.

Galw o'r tu allan i'r DU:

Deialwch y cod rhyngwladol ac yna:

Ffôn: 44 191 203 7010

Ffacs: 44 191 225 7800

Yn yr adran hon...

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU