Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau sy’n egluro sut y cyfrifir Credyd Pensiwn ar sail oedran ac amgylchiadau. Darllenwch yr enghreifftiau hyn er mwyn deall yn well sut mae Credyd Pensiwn yn berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos faint o Gredyd Pensiwn y gall gwahanol bobl ei gael.
Dyma'r cyfraddau a ddefnyddir yn yr enghreifftiau:
Swm sefydlog – bydd y Credyd Gwarant yn cynyddu'ch incwm i'r swm hwn. Fe allech chi gael mwy os ydych yn ofalwr neu os oes gennych anabledd difrifol neu gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, megis taliadau llog ar eich morgais.
Dyma’r cyfraddau presennol ar gyfer swm sefydlog Credyd Gwarant:
Trothwy’r Credyd Cynilion – dyma pryd byddwch yn dechrau cronni Credyd Cynilion.
Dyma drothwy’r Credyd Cynilion ar hyn o bryd:
Cyfraddau Credyd Cynilion – dyma’r swm uchaf o Gredyd Cynilion.
Dyma gyfraddau cyfredol y Credyd Cynilion:
Mae Jackie yn 62 oed ac yn berchen ar ei thŷ ei hun. Mae’n cael £107.45 o Bensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn cynnwys £4.35 o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yr wythnos, a dyna yw ei hunig incwm. Mae ganddi £5,000 o gynilion.
Bydd Jackie yn cael £35.25 o Gredyd Gwarant yr wythnos, ac felly mae cyfanswm ei hincwm wythnosol yn £142.70. Mae ei £5,000 o gynilion yn cael ei anwybyddu am ei fod yn llai na £10,000.
Gan fod Jackie yn 62 oed, dim ond Credyd Gwarant y mae’n gymwys i’w gael. Pan fydd yn 65 oed, efallai y bydd yn cael Credyd Cynilion hefyd.
Gan fod Jackie’n cael Credyd Gwarant, bydd yn cael y budd-dal Treth Cyngor yn llawn a chymorth gyda chostau eraill, megis ffioedd deintyddol.
Mae Mary a Frank yn 75 oed ac yn cael incwm o £230.08 yr wythnos fel a ganlyn:
Gan fod incwm Mary a Frank yn fwy na £217.90, ni allant gael Credyd Gwarant, ond mae ganddynt hawl i gael £18.86 o Gredyd Cynilion.
Bydd Mary a Frank yn cael £18.86 o Gredyd Pensiwn, sy’n golygu bod ganddynt £248.94 o incwm wythnosol.
Mae Jack yn 63 oed ac wedi rhoi’r gorau i weithio amser llawn wyth mis yn ôl. Mae’n byw ar ei ben ei hun yn ei gartref ei hun ac yn ennill £85 yr wythnos drwy swydd ran-amser.
Dim ond £80 sy’n cael ei gyfri fel incwm at ddibenion Credyd Pensiwn ac anwybyddir £5 o enillion Jack. Does gan Jack dim incwm neu gynilion arall.
Bydd Jack yn cael £62.70 o Gredyd Gwarant, ac felly mae cyfanswm ei incwm wythnosol yn £147.70.
Ni all Jack gael Credyd Cynilion gan mai 63 oed ydyw, ond efallai y bydd ganddo hawl i Gredyd Cynilion pan fydd yn cyrraedd 65 oed.
Mae Louise yn fenyw 75 oed, mae ganddi anabledd difrifol ac mae’n byw ar ei phen ei hun. Mae ganddi £9,000 o gynilion ac yn cael £184.90 drwy'r canlynol:
Anwybyddir cynilion Louise gan eu bod yn llai na £10,000. Anwybyddir ei Lwfans Gweini hefyd wrth gyfrifo ei Chredyd Pensiwn.
Bydd Louise yn cael £93.45 o Gredyd Pensiwn yr wythnos (mae hyn yn cynnwys £58.20 ychwanegol yr wythnos am fod ganddi anabledd difrifol). Felly, mae cyfanswm ei hincwm wythnosol yn £278.35.
Ni all Louise gael Credyd Cynilion gan fod ei hincwm cymhwyso (£107.45) yn is na throthwy’r Credyd Cynilion, sef £111.80 ar gyfer person sengl. Nid yw ei Lwfans Gweini yn cyfrif fel incwm cymwys ar gyfer Credyd Cynilion.
Yr oedd Denis yn 60 oed ar 7 Gorffennaf 2011. Ar hyn o bryd, mae’n cael £71.00 yr wythnos o Gymhorthdal Incwm ac nid oes ganddo incwm arall.
Bydd Denis yn parhau i gael cymhorthdal incwm nes bydd yn cyrraedd yr oedran gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn. Bydd hyn ar 6 Tachwedd 2012 pan fydd yn 61 oed a 4 mis. Ar yr adeg hon bydd ei gyfanswm wythnosol yn codi i £142.70 os bydd ei amgylchiadau'n aros yr un fath.