Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai bydd eich incwm yn effeithio faint o Gredyd Pensiwn gallwch ei gael. Darganfyddwch fwy am sut efallai bydd eich incwm yn effeithio Credyd Pensiwn, sut mae Credyd Pensiwn yn cael ei dalu a sut y gallai effeithio eich budd-daliadau eraill.
Mae’r swm o gredyd Pensiwn gallwch ei gael yn dibynnu ar faint o incwm sydd gennych pob wythnos a faint rydych wedi’i gynilo neu fuddsoddi.
Mae’r mathau o incwm canlynol yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo eich Credyd Pensiwn:
Os oes gennych bartner bydd incwm a chyfalaf chi a’ch partner yn cael ei adio at ei gilydd wrth gyfrifo eich Credyd Pensiwn.
Mae’r term ‘partner’ yn cyfeirio at eich gŵr, gwraig neu bartner sifil. Neu'r person rydych yn byw gyda hwy fel petaent yn eich gŵr, gwraig neu bartner sifil.
Os ydych yn dreth dalwr hunanasesiad sy’n hawlio Credyd Pensiwn – mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn faint o Dreth Incwm rydych chi’n disgwyl ei thalu ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y byddwch chi’n cael y swm cywir o Gredyd Pensiwn ac efallai golygir y byddwch chi’n cael mwy. Y rheswm am hyn yw bod Credyd Pensiwn yn ystyried eich incwm net ar ôl treth, gan gynnwys unrhyw dreth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth (mae Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy).
Gallwch ddarganfod mwy am Dreth Incwm drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EM.
Mae incwm nad yw’n cael ei gyfrif tuag at Gredyd Pensiwn yn cynnwys:
Mae gwybodaeth bellach ar gael ar y budd-daliadau:
Efallai y gallwch barhau i gael Credyd Pensiwn os ydych yn byw gyda’ch teulu. Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn edrych ar eich incwm chi yn unig ac nid eu hincwm hwy. Hefyd efallai y gallwch barhau i gael Credyd Pensiwn os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun - nid yw’r cartref rydych yn byw ynddo yn cyfrif tuag at eich ‘cyfalaf’.
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i’r cyfrif o’ch dewis, er enghraifft eich cyfrif banc. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Os bydd eich amgylchiadau yn newid , er enghraifft eich cyfalaf yn codi neu fynd i lawr, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn. Byddant yn gallu edrych ar eich cais eto i sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o Gredyd Pensiwn.
Os gwrthodir Credyd Pensiwn i chi neu rydych yn meddwl ei fod wedi cael ei gyfrifo yn anghywir, gofynnwch i’r swyddfa a oedd yn delio â’ch cais i ail ystyried y penderfyniad. Os ydych yn parhau i fod yn anhapus gyda’r canlyniad gallwch apelio gyda Thribiwnlys annibynnol.
Darganfyddwch fwy am y broses apeliadau yn y llyfryn ‘Os ydych yn credu fod ein penderfyniad yn anghywir’.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn efallai gallwch gael budd-daliadau/help ychwanegol fel:
Gall y Gwasanaeth Pensiwn nawr eich helpu i wneud cais am Gredyd Pensiwn, Budd-dal Treth Cyngor a Budd-dal Tai. ar yr un amser dros y ffôn
Am fwy o help ffoniwch linell gymorth Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234 neu ffôn testun 0800 169 0133. Mae llinellau ar agor 8.00pm i 8.00pm dydd Llun i ddydd Gwener.