Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n delio â materion rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi ddatrys ei faterion treth hyd at ddyddiad ei farwolaeth cyn i chi allu dosbarthu ei asedau. Os oedd y sawl a fu farw yn arfer llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, bydd rhaid i chi lenwi un ar ei ran.
Os ydych chi’n gynrychiolydd personol (naill ai ysgutor neu weinyddwr) i rywun sydd wedi marw, dylech ddelio â'i faterion treth cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu ar ran y person sydd wedi marw. Mae hyn yn dibynnu ar ei amgylchiadau pan fu farw. I gael gwybod os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth, bydd angen i chi lenwi ffurflen R27 ‘Adhawlio treth neu dalu treth pan fydd rhywun yn marw’. Bydd adran 5 yn dweud wrthych os bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth neu beidio.
Unwaith eich bod wedi llenwi a dychwelyd y ffurflen R27, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen dreth atoch os oes angen un, ond nid tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Gallwch ofyn am un yn gynt os ydych yn dymuno. Gweler yr adran isod ‘Cael help a chyngor’ am fanylion cyswllt.
Os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu ar gyfer y cyfnod hyd at ddyddiad y farwolaeth, gallwch wneud hwn ar bapur neu ar-lein, unwaith y mae’r flwyddyn dreth wedi dod i ben.
Llenwi ffurflen dreth papur
Bydd angen ffurflen SA100. Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen bydd angen i chi ddarparu manylion y person, megis:
Efallai y bydd angen i chi lenwi rhai tudalennau ychwanegol hefyd (gelwir y rhain yn dudalennau atodol), gan ddibynnu ar amgylchiadau'r ymadawedig pan fu farw. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi lenwi tudalennau ychwanegol os oes Treth Enillion Cyfalaf i'w thalu neu os oedd y sawl a fu farw:
Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod rhagor am sut mae Hunanasesu yn gweithio, sut mae llenwi’r ffurflenni ac i gael gwybodaeth am Dreth Enillion Cyfalaf.
Llenwi ffurflen dreth ar-lein
Gallwch dim ond ag anfon ffurflen dreth ar-lein unwaith y mae’r flwyddyn dreth wedi dod i ben. Ni allwch anfon ffurflen dreth ar-lein am ran o’r flwyddyn dreth (i fyny at ddyddiad y farwolaeth) os nad yw’r flwyddyn dreth wedi dod i ben eto.
I fynd ar-lein, mae’n rhaid i chi yn gyntaf dweud wrth Gyllid a Thollau mai chi yw cynrychiolydd personol y sawl a fu farw. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen R27.
Unwaith y mae Cyllid a Thollau EM wedi diweddaru eu cofnodion i ddangos mai chi yw’r cynrychiolydd personol, byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM. Bydd angen rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) y sawl a fu farw a naill ai ei rif Yswiriant Gwladol neu god post. Gallwch ddod o hyd i’r UTR ar ohebiaeth wrth Gyllid a Thollau EM, er enghraifft Datganiad Hunanasesu neu ffurflen dreth.
Os na allwch ddod o hyd i’r UTR, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Profedigaeth a gofyn iddo gael ei bostio i’ch cyfeiriad cartref. Ni all Gyllid a Thollau EM roi’r wybodaeth hon i chi dros y ffôn.
Os gofynnir i chi lenwi ffurflen dreth, bydd rhaid i chi ei dychwelyd erbyn:
Enghraifft
Bu farw Mr A ar 31 Mai 2011. Rydych chi’n llenwi a dychwelyd ffurflen R27 ym mis Mehefin 2011 ac yn darganfod bod angen ffurflen dreth arnoch.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen dreth atoch ym mis Ebrill 2012.
Bydd y ffurflen yn cynnwys yr adeg rhwng 6 Ebrill 2011 hyd at ddyddiad y farwolaeth ar 31 Mai 2011. Bydd angen i chi anfon y ffurflen bapur yn ôl erbyn 31 Hydref 2012 neu ar-lein erbyn 31 Ionawr 2013.
Efallai y byddwch chi’n dymuno dychwelyd ffurflen dreth cyn y dyddiadau uchod. Er enghraifft, os oes arnoch eisiau cwblhau materion treth y sawl a fu farw hyd at ddyddiad y farwolaeth yn ystod y flwyddyn dreth pan fu farw. Os felly, bydd angen i chi ofyn i Gyllid a Thollau EM anfon ffurflen dreth bapur atoch. Yna, bydd rhaid i chi ei llenwi a’i dychwelyd i’r Swyddfa Dreth a’i hanfonodd atoch chi. Ni fydd modd i chi ei hanfon ar-lein.
Os oes angen help arnoch chi, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Hunanasesu – byddant yn gallu eich cynghori ynghylch llenwi eich ffurflen dreth a rhoi cyngor cyffredinol am Hunanasesu.
Fel rheol, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon datganiad cyfrifon ar gyfer y sawl a fu farw. Bydd hwn yn dangos a oes unrhyw dreth i’w thalu neu ei had-dalu.
Weithiau, bydd Cyllid a Thollau EM yn gwirio ffurflenni treth sydd wedi cael eu cyflwyno. Os ydych chi wedi anfon ffurflen dreth hyd at ddyddiad y farwolaeth yn ystod y flwyddyn y bu'r person farw, bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych a oes angen rhagor o wybodaeth arnynt am y ffurflen dreth.
Os hoffech gael gwybod a fydd Cyllid a Thollau EM yn gwirio ffurflenni treth ar gyfer blynyddoedd blaenorol, gallwch ofyn iddynt gadarnhau hyn hefyd.
Efallai y bydd angen help arnoch i ddelio â materion treth y sawl a fu farw, yn enwedig os oedd y golled yn un bersonol i chi. Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Bydd Cyllid a Thollau EM yn gallu eich helpu drwy drafod gyda chi dros y ffôn yr hyn y mae angen i chi ei wneud ac, os bydd angen, trefnu i chi gael cyfarfod wyneb yn wyneb.
Gall ystadau fod yn gymhleth, felly efallai y byddwch am gael cyngor proffesiynol gan gynghorydd treth neu dwrnai. Gallant eich helpu i:
Darparwyd gan HM Revenue and Customs