Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Talu treth rhywun sydd wedi marw

Os ydych chi’n gynrychiolydd personol (ysgutor neu weinyddwr) i rywun sydd wedi marw, bydd angen i chi setlo ei faterion treth. Os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu, mae’n rhaid i chi ei dychwelyd a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn amser penodol. Fel rheol, byddwch yn cael datganiad i’ch helpu i wneud hyn.

Datganiad Hunanasesu

Bydd y Datganiad Hunanasesu yn dweud wrthych pa dreth sy’n ddyledus gan yr ymadawedig – ac erbyn pryd y mae angen i chi ei thalu. Mae’n bosib y bydd yn dangos y taliadau treth (y taliadau ar gyfrif) yr oedd yr unigolyn eisoes wedi’u gwneud tuag at ei dreth. Os yw treth wedi cael ei thalu'n hwyr yn y gorffennol, bydd y datganiad hefyd yn cynnwys unrhyw log sydd wedi'i godi.

Fel rheol, byddwch yn cael y Datganiad Hunanasesu oddeutu 45 diwrnod cyn bod angen talu treth – edrychwch ar yr adran ‘Dyddiad olaf ar gyfer talu’ isod os nad ydych yn siŵr pryd mae hyn.

Os nad ydych yn cael y Datganiad Hunanasesu mewn pryd, gan mai dim ond yn ddiweddar rydych chi wedi anfon y ffurflen dreth efallai, bydd angen i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus o hyd. Os gwnaethoch chi lenwi’r ffurflen dreth ar-lein, gallwch weld faint sy’n ddyledus ar-lein. Fel arall, bydd angen i chi gyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus eich hun.

Dyddiadau olaf ar gyfer talu

31 January

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw swm sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12 (sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2012), mae'n rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2013. Ceir gwybodaeth isod ynghylch beth i'w wneud os na allwch chi dalu'r bil treth.

Sut mae talu

Gallwch hefyd dalu’r dreth sy’n ddyledus yn electronig drwy ddefnyddio gwasanaeth bancio ar y we neu dros y ffôn. Gallwch hefyd dalu’n ddiogel ar-lein ar wefan Cyllid a Thollau EM. Dyma’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod:

  • y swm y mae angen ei dalu
  • rhif Yswiriant Gwladol y sawl sydd wedi marw
  • Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr deg digid y sawl sydd wedi marw
  • manylion cyfrif banc Cyllid a Thollau EM

Mae’r manylion hyn i gyd i’w gweld ar y Datganiad Hunanasesu.

Gallwch hefyd dalu:

  • yn Swyddfa'r Post ®
  • drwy Giro banc
  • drwy anfon siec yn y post

Os na allwch chi dalu’r bil treth

Erbyn 31 Ionawr, mae’n bosib na fyddwch wedi gorffen cyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus ar gyfer y cyfnod llawn hyd at y dyddiad y bu farw’r unigolyn. Os felly, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM am estyniad i’r dyddiad talu. Ond, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw dreth sy’n hwyr yn cael ei thalu. Cysylltwch â’r Swyddfa Dreth a welir ar y bil treth os ydych chi am wneud hyn.

Efallai y gwyddoch faint o dreth sy’n ddyledus, ond na allwch gael mynediad at ddigon o arian o ystad yr ymadawedig i dalu’r bil treth. Cysylltwch â’r Swyddfa Dreth a anfonodd y bil atoch cyn gynted ag y gallwch. Gall Cyllid a Thollau EM beidio â chasglu’r dreth am y tro. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw dreth sydd heb ei thalu nes bydd wedi cael ei thalu.

Os nad oes gennych chi awdurdod cyfreithiol i setlo’r ystad eto, bydd llog yn cael ei godi ar unrhyw dreth a delir yn hwyr o'r dyddiad hwyraf o blith y canlynol:

  • y dyddiad mae’r taliad yn ddyledus
  • 30 diwrnod o ddyddiad y grant profiant, y llythyrau gweinyddu neu’r cadarnhad

Os yw hyn yn berthnasol, bydd angen i chi ofyn i’r Swyddfa Dreth leihau’r llog.

Os na allwch chi dalu’r holl dreth oherwydd ei bod yn uwch na chyfanswm gwerth nwyddau, eiddo ac arian yr ymadawedig pan fu farw, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.

Does dim rhaid i chi ddefnyddio eich arian eich hun i dalu unrhyw dreth nad oes modd ei thalu gan ystad yr ymadawedig. Cysylltwch â’r Swyddfa Dreth sydd ar y bil treth os ydych chi'n meddwl bod hyn yn berthnasol.

Os yw’r bil treth yn fwy na'r disgwyl, efallai fod camgymeriad yn y cyfrifiad treth. Gofynnwch i’r Swyddfa Dreth ailedrych ar y ffurflen dreth, neu ceisiwch gyngor proffesiynol.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni treth?

Yma cewch wybod am gosbau, beth i’w wneud os nad oedd angen ffurflen dreth arnoch eleni neu os oedd gennych esgus rhesymol am fod yn hwyr

Allweddumynediad llywodraeth y DU