Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gan eich bod yn gynrychiolydd personol i rywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gael trefn ar ei faterion treth hyd at y dyddiad y bu farw. Efallai y bydd angen i chi hefyd ddelio â chyfrifoldebau treth sy'n berthnasol i weinyddu'r ystad. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i chi gasglu cofnodion ariannol y sawl a fu farw ynghyd.
Mae pa gofnodion y bydd eu hangen arnoch i lenwi ffurflen dreth Hunanasesu ar gyfer rhywun sydd wedi marw yn dibynnu ar amgylchiadau'r person.
Byddwch chi bob amser angen y canlynol:
Cofiwch edrych ar y cyfrifon banc neu gynilion ar-lein.
Os oedd y sawl a fu farw yn gyflogedig neu’n cael pensiwn, chwiliwch am:
Os oedd y sawl a fu farw yn rhedeg ei fusnes ei hun neu'n gosod eiddo, bydd arnoch angen ei gofnodion busnes, gan gynnwys:
Efallai y bydd angen gwybodaeth fanylach arnoch hefyd, megis derbynebau, biliau a datganiadau banc. Bydd y rhain yn eich helpu i lenwi’r ffurflen dreth ac yn ateb unrhyw gwestiynau gan Gyllid a Thollau EM.
Os ydych chi’n gofalu am yr ystad, efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth (y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau) ar gyfer y 'cyfnod gweinyddu'. Mae’r cyfnod hwn yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl i'r person farw hyd at y dyddiad y caiff yr ystad ei setlo.
Yn ystod y cyfnod hwn byddwch chi’n gyfrifol am wneud y canlynol:
Bydd angen i chi gadw cofnodion ar gyfer y cyfnod gweinyddu ar wahân i’r cofnodion hynny sy’n berthnasol i’r cyfnod hyd at ddyddiad y farwolaeth.
Os na allwch chi ddod o hyd i'r dogfennau y mae eu hangen arnoch, gallech geisio gofyn i'w:
Efallai fod ei fanc yn cadw eitemau gwerthfawr fel gemwaith neu weithredoedd eiddo sy'n dangos pwy sy’n berchen ar eiddo.
Os ydych chi’n llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, bydd yn rhaid i chi gadw'r cofnodion sy’n ategu'r ffurflen am gyfnod sylfaenol, fel y disgrifir isod. Mae’r un dyddiadau’n berthnasol ar gyfer ffurflenni treth papur a ffurflenni treth ar-lein. Mae angen y cofnodion arnoch rhag ofn y bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu gwirio’r ffurflen neu’n canfod ei bod yn anghyflawn.
Os oedd yn hunangyflogedig neu os oes ganddo incwm busnes, bydd rhaid i chi gadw'r cofnodion busnes am bum mlynedd yn rhagor ar ôl y dyddiad cau arferol ar gyfer ffurflenni treth (31 Ionawr).
Er enghraifft, ar gyfer ffurflen dreth 2011-12 a anfonwyd ar 31 Ionawr 2013 neu cyn hynny, bydd rhaid i chi gadw’r cofnodion tan 31 Ionawr 2018.
Ond os yw Cyllid a Thollau EM wedi anfon – neu os ydych chi wedi dychwelyd – y ffurflen dreth yn hwyr iawn, bydd angen i chi gadw’r cofnodion am ba un bynnag o’r canlynol fydd hwyraf:
Er enghraifft, ar gyfer ffurflen dreth 2011-12 a anfonwyd ar 1 Chwefror 2017, bydd rhaid i chi gadw’r cofnodion tan 1 Mai 2018.
Ar yr amod y byddwch yn anfon y ffurflen dreth ar y dyddiad cau arferol ar gyfer ffurflenni treth neu cyn hynny – sef 31 Ionawr – dylech gadw’r cofnodion am flwyddyn ar ôl y dyddiad cau hwn.
Er enghraifft, ar gyfer ffurflen dreth 2011-12 a ffeiliwyd ar 31 Ionawr 2013 neu cyn hynny, bydd yn rhaid i chi gadw’r cofnodion tan 31 Ionawr 2014.
Ond os yw Cyllid a Thollau EM wedi anfon – neu os ydych chi wedi dychwelyd – y ffurflen dreth yn hwyr, bydd angen i chi gadw’r cofnodion am 15 mis ar ôl i chi ei hanfon.
Mae’n bosib y bydd angen i chi gadw eich cofnodion am gyfnod hwy na’r dyddiadau uchod os yw Cyllid a Thollau eisoes wedi dechrau gwirio’ch treth. Bydd rhaid i chi gadw’r cofnodion nes bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych eu bod wedi cwblhau’r broses wirio.
Os yw'r cofnodion ar goll neu os ydynt wedi cael eu dinistrio, dylech geisio cael yr wybodaeth sydd ar goll mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gallwch ofyn i fanciau roi ffigurau llog neu gopïau o ddatganiadau banc i chi, ond efallai y byddant yn codi ffi am hyn.
Peidiwch ag oedi cyn anfon y ffurflen dreth tra byddwch chi’n aros am gopïau o gofnodion. Defnyddiwch yr wybodaeth rydych wedi llwyddo i’w chael er mwyn llenwi’r ffurflen dreth. Lle daw’n amlwg na allwch gael gwybodaeth yn lle'r wybodaeth sydd ar goll, bydd angen i chi roi amcangyfrif o’r ffigurau sydd ar goll. Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os yw unrhyw ffigurau:
Gallwch ddiwygio’r ffurflen dreth er mwyn rhoi'r ffigurau cywir o fewn blwyddyn i’r dyddiad terfynol ar gyfer ffeilio’r ffurflen. Os byddwch yn gwneud newidiadau ar ôl hynny a chithau heb dalu digon o dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau ariannol.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs