Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ffurflenni treth ar gyfer cynrychiolwyr personol

Pan fydd rhywun yn marw, bydd y cynrychiolydd personol (naill ai ysgutor neu weinyddwr) yn setlo ei faterion ariannol ac yn ymdrin â’i ystad. Os ydych chi’n gynrychiolydd personol, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Byddant yn anfon y ffurflenni priodol atoch i’w llenwi.

Ffurflenni treth y mae’n bosib y bydd angen i chi eu llenwi

Pan fydd rhywun yn marw, dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib mai chi yw’r cynrychiolydd personol. Bydd Cyllid a Thollau EM wedyn yn anfon y ffurflenni angenrheidiol atoch.

Gallwch ffonio Llinell Gymorth Profedigaeth Cyllid a Thollau EM neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM. Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol neu’r rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) y sawl a fu farw pan fyddwch yn cysylltu. Gallwch ddod o hyd i rain ar ohebiaeth gan Gyllid a Thollau EM, megis cod treth neu ffurflen dreth Hunanasesu.

Ffurflen R27

Mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen R27 atoch, ‘Adhawlio treth neu dalu treth pan fydd rhywun yn marw’. Byddwch hefyd yn derbyn rhai nodiadau i’ch helpu chi i lenwi’r ffurflen. Bydd adran 5 y ffurflen yn dweud wrthych pu’nai bod angen i chi lenwi ffurflen dreth neu beidio.

Ffurflen Dreth Hunanasesu

Mae’n bosib y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth ar ran y sawl a fu farw.

I gael gwybod os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth, bydd angen i chi lenwi ffurflen R27 yn gyntaf.

Os oes angen ffurflen dreth arnoch, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon un i chi ar ddiwedd y flwyddyn dreth y bu’r sawl farw. Bydd y ffurflen hon yn cynnwys y cyfnod o 6 Ebrill i ddyddiad y farwolaeth. Gallwch ofyn am ffurflen dreth yn gynt os ydych yn dymuno cwblhau materion treth y sawl a fu farw yn gynt.

Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau

Fel cynrychiolydd personol, rydych chi’n gyfrifol am roi gwybod am unrhyw incwm a dderbyniwyd, ac am unrhyw enillion neu golledion a wnaed yn ystod y cyfnod gweinyddu. Mae’r cyfnod hwn yn dechrau ar y diwrnod y bu farw’r unigolyn ac yn dod i ben pan fydd y gwaith o ymdrin â’i ystad wedi dod i ben. Mae’r sefyllfa dreth ar gyfer y cyfnod hwn yn syml fel rheol, ac ni fydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau. Bydd y Swyddfa Dreth yn dweud wrthych pa wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Ond os byddant yn anfon ffurflen dreth atoch, bydd yn rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd.

Cadw a dod o hyd i gofnodion

Efallai y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol i weld pa gofnodion y bydd eu hangen arnoch er mwyn ymdrin â materion treth yr ymadawedig a’r ystad. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Dyddiadau cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen dreth

Os gofynnir i chi lenwi ffurflen dreth, mae'n rhaid i chi ei dychwelyd erbyn:

  • 31 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth berthnasol os ydych chi’n llenwi’r ffurflen bapur
  • 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn dreth berthnasol os ydych chi’n ffeilio’r ffurflen ar-lein

Os dymunwch chi, gallwch anfon ffurflen dreth yn ôl yn gynharach. Er enghraifft, gan eich bod am gwblhau:

  • manylion treth yr ymadawedig hyd at ddyddiad y farwolaeth yn ystod y flwyddyn dreth pan fu farw
  • y cyfnod gweinyddu yn ystod y flwyddyn dreth pan mae'n dod i ben

Yn yr achosion hyn, bydd angen i chi ofyn i Gyllid a Thollau EM am ffurflen dreth bapur – ni fydd modd i chi ei ffeilio ar-lein.

Cael help a chyngor

Delio â materion treth y sawl a fu farw
Efallai y bydd angen help arnoch i ddelio â materion treth neu ffurflen dreth y sawl a fu farw, yn enwedig os oedd y golled yn un bersonol i chi. Bydd Cyllid a Thollau EM yn gallu eich helpu drwy drafod gyda chi dros y ffôn beth mae angen i chi ei wneud ac, os bydd angen, trefnu i chi gael cyfarfod wyneb yn wyneb.

Gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Materion Treth neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM.

Cael help gyda’r ffurflen dreth

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r ffurflen dreth hyd at ddyddiad y farwolaeth, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Hunanasesu. Byddant yn gallu cynnig arweiniad ar y ffurflen dreth a rhoi cyngor cyffredinol am Hunanasesu i chi.

Delio â’r ystad a’r cyfnod gweinyddu
Os ydych chi’n dymuno cael gwybodaeth gyffredinol am Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf yn ystod y cyfnod gweinyddu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth ar gyfer Ystadau Pobl sydd wedi Marw.

Cysylltu â Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM

Os byddwch chi'n llenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, gan amlaf, Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM fydd yn delio â’r ffurflen yn hytrach na Swyddfa Dreth y sawl a fu farw.

Mae’r Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau hefyd yn delio ag ymholiadau cyffredinol ynghylch Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni treth?

Yma cewch wybod am gosbau, beth i’w wneud os nad oedd angen ffurflen dreth arnoch eleni neu os oedd gennych esgus rhesymol am fod yn hwyr

Allweddumynediad llywodraeth y DU