Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bosib y bydd ystad rhywun a fu farw yn derbyn incwm neu’n gwneud enillion cyfalaf yn ystod y cyfnod gweinyddu. Mae’r cyfnod hwn yn para o'r diwrnod ar ôl y farwolaeth nes bydd yr ystad wedi cael ei dosbarthu. Os ydych chi’n delio â’r ystad, efallai y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
Does dim rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau os yw’r ystad yn gymharol syml. Er enghraifft, os yw cyfanswm y Dreth Incwm a’r Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar gyfer y cyfnod gweinyddu i gyd yn llai na £10,000, ni fydd angen i chi lenwi’r ffurflen. Bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Dreth a fu'n delio â materion treth y sawl a fu farw. Byddan nhw'n dweud wrthych sut i dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.
Os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Ymddiriedolaethau yn gyntaf. Gweler yr adran isod ‘Cael help a chyngor’ i gael gwybod sut.
Pan fyddwch chi'n cyfrifo cyfanswm y dreth, cofiwch y bydd rhywfaint o incwm yr ystad wedi cael ei drethu'n barod ac na fydd rhagor o dreth i'w thalu, er enghraifft:
Efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar yr incwm canlynol:
Os ydych chi wedi gwerthu neu wedi cael gwared ar asedau’r ystad mewn ffordd arall, cofiwch y bydd angen i chi gyfrifo a oes rhaid talu Treth Enillion Cyfalaf. Er enghraifft, os mai chi yw cynrychiolydd personol yr ystad, efallai eich bod wedi gwerthu neu wedi cael gwared ar y canlynol:
Os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, gallwch wneud hynny ar-lein, neu gallwch lenwi ffurflen bapur (SA900). Os byddwch chi’n llenwi ffurflen dreth ar bapur, efallai y bydd angen rhai tudalennau ychwanegol arnoch chi, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Dilynwch y ddolen SA900 isod i lwytho'r rhain i lawr.
Os byddwch chi’n anfon y ffurflen ar-lein, mae gennych fwy o amser i gyflwyno’ch ffurflen na phetaech yn anfon ffurflen bapur – mae amryw o fanteision eraill hefyd. Yn gyntaf, bydd angen i chi brynu meddalwedd fasnachol a chofrestru gyda Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM.
Os nad oes gennych chi’r union ffigurau, gallwch ddefnyddio:
Defnyddiwch yr adran ‘Gwybodaeth Ychwanegol’ ar y ffurflen dreth i ddweud sut cawsoch chi’r ffigurau hyn a pham na allwch ddefnyddio'r union ffigurau. Os byddwch yn gwneud newidiadau yn nes ymlaen a chithau heb dalu digon o dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau ariannol.
Gall anfon eich ffurflen dreth ar-lein eich helpu i osgoi gwneud camgymeriadau.
Os ydych yn anfon ffurflen dreth bapur:
Os gofynnir i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar gyfer y cyfnod gweinyddu, bydd rhaid i chi ei dychwelyd erbyn:
Os ydych am ddod â’r cyfnod gweinyddu i ben cyn hyn, gofynnwch i Gyllid a Thollau EM anfon ffurflen dreth bapur atoch. Ni fydd modd i chi ei llenwi ar-lein.
Bydd y cyfnod gweinyddu’n dod i ben pan fydd materion ariannol y sawl a fu farw wedi cael eu setlo. Bydd y Swyddfa Ymddiriedolaethau yn anfon Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau atoch ar gyfer y cyfnod terfynol.
Ni fydd angen i chi barhau i lenwi ffurflenni treth oni bai y sefydlir ymddiriedolaeth gyda’r cyfan neu ran o’r hyn sy’n weddill o’r ystad. Os ydych chi’n ymddiriedolwr i’r ymddiriedolaeth honno, bydd rhaid i chi lenwi Ffurflenni Treth Ymddiriedolaethau ac Ystadau tra bydd yr ymddiriedolaeth yn bodoli os oes angen talu Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf.
Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM cyn gynted â phosib ar ôl i’r person farw. Bydd Cyllid a Thollau EM yn gallu eich helpu drwy drafod â chi yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Materion Treth neu gysylltu â'r Swyddfa Dreth a fu'n delio â materion treth y sawl a fu farw. Os nad ydych chi’n gwybod gyda pha Swyddfa Dreth y dylech chi gysylltu, defnyddiwch y ddolen isod.
Os oes angen gwybodaeth gyffredinol arnoch am faterion Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf sy’n gysylltiedig â’r cyfnod gweinyddu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth ar gyfer Ystadau Pobl sydd wedi Marw. Ond os yw’ch cwestiwn yn ymwneud yn benodol â materion treth y sawl a fu farw, dylech gysylltu â'i Swyddfa Dreth neu'r Llinell Gymorth Materion Treth.
Os oes angen help arnoch chi, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Hunanasesu – byddant yn gallu eich cynghori ynghylch llenwi eich ffurflen dreth a rhoi cyngor cyffredinol am Hunanasesu.
Os byddwch chi'n llenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau, Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM fydd yn delio â’r ffurflen fel rheol yn hytrach na Swyddfa Dreth y sawl a fu farw.
Mae’r Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau hefyd yn delio ag ymholiadau cyffredinol ynghylch Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau.
Defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM.
Gall delio ag ystad rhywun fod yn gymhleth, felly efallai yr hoffech gael cyngor proffesiynol gan gynghorydd treth neu dwrnai.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs