Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gan eich bod yn ymddiriedolwr, bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau – ffurflen SA900. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd lenwi ambell dudalen ychwanegol, gan ddibynnu ar incwm ac enillion yr ymddiriedolaeth.
Yr ymddiriedolwyr yw perchnogion cyfreithiol yr asedau a roddir mewn ymddiriedolaeth. Fel rheol, nhw sy’n gyfrifol am reoli’r ymddiriedolaeth o ddydd i ddydd, ac am lenwi ffurflenni treth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar incwm ac enillion.
Gall llenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau fod yn anodd. Efallai y byddwch am geisio cyngor proffesiynol gan gynghorydd treth neu dwrnai i'ch helpu i lenwi’r ffurflen a helpu i redeg yr ymddiriedolaeth. Mae aelodau STEP (The Society of Trust and Estate Practitioners) yn arbenigwyr a fydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau sy’n ymwneud ag ymddiriedolaethau.
Pan fyddwch yn dod yn ymddiriedolwr am y tro cyntaf mewn ymddiriedolaeth y mae disgwyl iddi dalu Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf, bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am yr ymddiriedolaeth. Dylech lenwi ffurflen 41G (Ymddiriedolaeth) Manylion yr Ymddiriedolaeth a’i hanfon i Swyddfa Ymddiriedolaethau ac Ystadau Cyllid a Thollau EM.
Mae sawl gwahanol fath o ymddiriedolaeth. Mae’r rheolau treth yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o ymddiriedolaeth rydych chi'n gyfrifol amdani. Er enghraifft, efallai fod eich ymddiriedolaeth wedi cael ei sefydlu:
Ym mis Ebrill bob blwyddyn, bydd Cyllid a Thollau EM fel rheol yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych fod angen i chi lenwi ffurflen dreth. Os byddwch chi’n llenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau (SA 900) fel rheol, ac nad ydych wedi cael llythyr erbyn diwedd mis Ebrill, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM.
Bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau – ffurflen SA900 – ar gyfer pob blwyddyn dreth tra bydd yr ymddiriedolaeth yn bodoli. Gan ddibynnu ar fath o incwm ac enillion yr ymddiriedolaeth, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi lenwi tudalennau ychwanegol hefyd. Er enghraifft:
Gallwch lenwi ac anfon y Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar-lein drwy ddefnyddio meddalwedd fasnachol.
Gall anfon ffurflen dreth ar-lein fod yn fanteisiol mewn nifer o ffyrdd – er enghraifft, mae’r dyddiad cau yn hwyrach, a bydd y dreth yn cael ei chyfrifo'n awtomatig. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM os ydych am gyflwyno'r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau ar-lein.
Bydd yn rhaid i chi gadw cofnod o incwm ac enillion yr ymddiriedolaeth, costau’r ymddiriedolaeth a thaliadau incwm y buddiolwyr er mwyn i chi allu llenwi’r ffurflen dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
Os byddwch chi’n anfon ffurflen dreth bapur, mae’n rhaid iddi gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn hanner nos ar 31 Hydref yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth y mae'n berthnasol iddi.
Os byddwch yn ei hanfon ar-lein, nid yw’r dyddiad cau am dri mis arall, ac nid oes angen i’r ffurflen gyrraedd Cyllid a Thollau EM tan hanner nos ar 31 Ionawr.
Byddwch yn cael cosb ariannol os nad yw'r ffurflen dreth yn cyrraedd mewn pryd.
Ceir rhai eithriadau i’r dyddiadau uchod, er enghraifft, os bydd eich ffurflen dreth yn hwyr yn eich cyrraedd, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM pan fydd holl asedau’r ymddiriedolaeth, megis arian, cyfranddaliadau ac eiddo wedi cael eu talu, a’r ymddiriedolaeth wedi dod i ben. Fel rheol, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystadau o ddiwedd y flwyddyn dreth flaenorol hyd at y dyddiad y daeth yr ymddiriedolaeth i ben. Efallai y bydd angen talu treth ar gyfer y cyfnod hwn, felly bydd angen i chi sicrhau bod digon o arian yn yr ymddiriedolaeth i'w thalu.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs