Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth Stamp: y pethau pwysig

Mae Treth Stamp yn dreth a arferai fod yn berthnasol bob tro y byddai eiddo neu gyfranddaliadau'n cael eu prynu. Ond erbyn hyn, pan fyddwch yn prynu eiddo, Treth Stamp ar Dir fyddwch chi'n ei thalu bron bob amser. Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau byddwch fel arfer yn talu Treth Stamp Wrth Gefn, oni bai ei fod yn drafodyn papur - os felly byddwch yn talu Treth Stamp.

Treth Stamp ar eiddo

Roedd Treth Stamp yn daladwy ar drafodion eiddo a thir dros werth penodol hyd at fis Rhagfyr 2003. Ar ôl 1 Rhagfyr 2003, fe'i disodlwyd gan y Dreth Stamp ar Dir. Gallwch gael gwybod y wahanol gyfraddau o Dreth Stamp ar Dir efallai y bydd yn rhaid i chi eu talu yn y canllaw Treth ar brynu eiddo.

Mae'n dal yn rhaid i chi dalu Treth Stamp os ydych chi'n prynu eiddo a bod y contract wedi'i lunio cyn 10 Gorffennaf 2003 ac nad yw'r dogfennau trosglwyddo wedi cael eu 'stampio' eto. Os yw hyn yn berthnasol i chi, edrychwch ar ganllaw Cyllid a Thollau EM isod i gael mwy o wybodaeth, yn ogystal â manylion ynghylch sut mae stampio dogfennau a'r terfynau amser ar gyfer talu Treth Stamp.

Treth Stamp wrth brynu cyfranddaliadau

Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau byddwch yn talu Treth Stamp os yw'n drafodyn papur neu Dreth Stamp Wrth Gefn os yw'n drafodyn electronig, heb fod ar bapur.

Trosglwyddir y rhan fwyaf o gyfranddaliadau drwy frocer stoc gan ddefnyddio dull electronig, felly yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn talu Treth Stamp Wrth Gefn. Bydd y dreth yn cael ei didynnu'n awtomatig pan fydd y trafodyn yn mynd rhagddo.

Os byddwch yn prynu cyfranddaliadau gan ddefnyddio ffurflen trosglwyddo stoc mae'n cyfrif fel trosglwyddiad papur a rhaid talu Treth Stamp. Cofiwch mai dim ond pan fydd cyfranddaliadau'n cael eu trosglwyddo y byddwch yn talu Treth Stamp - does dim rhaid i chi ei thalu pan fydd cyfranddaliadau'n cael eu cyflwyno am y tro cyntaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU