Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Os, am ryw reswm, nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol, mae'n bosibl gwneud cais am un. Bydd rhaid i chi gael rhif dan rai amgylchiadau, i hawlio budd-dal, er enghraifft

Beth yw rhif Yswiriant Gwladol?

Eich rhif cyfrif personol eich hun yw eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae’n unigryw i chi a byddwch chi’n cadw’r un rhif drwy gydol eich oes (e.e. FH123456A).

Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth a dalwch chi yn cael eu cofnodi'n gywir ar eich cyfrif. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel rhif cyfeirnod wrth gyfathrebu â’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Rhaid i chi gadw eich rhif yn ddiogel a pheidio byth â’i ddatgelu i neb nad oes arnynt angen ei weld. Bydd hyn yn helpu i atal twyll manylion personol.

Cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig

Bydd rhif Yswiriant Gwladol yn cael ei anfon atoch chi yn awtomatig cyn eich pen-blwydd yn 16 oed os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig
  • mae eich rhieni neu'ch gwarcheidwaid yn cael Budd-dal Plant ar eich cyfer

Os ydych chi rhwng 16 a 20 oed a heb gael rhif Yswiriant Gwladol, cysylltwch â’r Llinell Gymorth ar gyfer Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006 i ofyn am gyngor. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Pryd i wneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Rhaid i chi wneud cais am rif Yswiriant Gwladol:

  • os oes angen i chi hawlio budd-daliadau a/neu gredydau treth
  • os oes gennych chi hawl i weithio yn y DU
  • os oes gennych chi hawl i gael benthyciad myfyriwr ac os ydych chi wedi gwneud cais am fenthyciad o’r fath a bod angen rhif Yswiriant Gwladol er mwyn ei gael

Hawlio budd-daliadau a/neu gredydau treth

Os bydd angen i chi hawlio budd-dal a/neu gredyd treth (neu os bydd angen i’ch partner hawlio budd-dal / credyd treth ar eich rhan) bydd eich cais am rif Yswiriant Gwladol yn cael ei brosesu fel rhan o’r hawliad am fudd-dal.

Hawl i weithio yn y DU

Os oes gennych chi hawl i weithio yn y DU ac rydych chi’n chwilio am waith, yn dechrau gweithio neu’n dechrau bod yn hunangyflogedig, ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Benthyciadau myfyrwyr a rhifau Yswiriant Gwladol

Os oes gennych chi hawl i gael benthyciad myfyriwr, ac os ydych chi wedi gwneud cais am fenthyciad o’r fath ac mae angen rhif Yswiriant Gwladol, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn trefnu i’r Ganolfan Byd Gwaith gysylltu â chi.

Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu cyfweliad Profi Pwy Ydych Chi neu’n anfon ffurflen gais drwy’r post atoch chi. Byddant yn cadarnhau dyddiad, amser a lleoliad eich cyfweliad. Byddant hefyd yn dweud wrthych chi pa wybodaeth a dogfennau y mae eu hangen i gefnogi eich cais.

Beth i’w ddisgwyl yn y cyfweliad ‘Profi Pwy Ydych chi’

Fel rheol, cyfweliad un i un fydd hwn (oni bai fod angen cyfieithydd arnoch, er enghraifft). Gofynnir cwestiynau i chi ynghylch pwy ydych chi, pam mae arnoch angen rhif Yswiriant Gwladol, eich cefndir a'ch amgylchiadau. Yn ystod y cyfweliad, bydd angen llenwi cais am ffurflen rhif Yswiriant Gwladol a gofynnir i chi lofnodi'r ffurflen hon.

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol, bydd yn dal yn rhaid i chi fynd i'r cyfweliad. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth a ddarparwch chi yn ddigon i brofi pwy ydych chi.

Profi pwy ydych chi

Bydd angen i chi brofi pwy ydych chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau:

  • os ydych chi’n dechrau gweithio neu’n chwilio am waith a bod angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch
  • os oes angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch chi er mwyn hawlio budd-dal, pensiwn neu lwfans

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn amrywiaeth o ddogfennau (rhai gwreiddiol, nid copïau) pan fyddwch chi’n profi pwy ydych chi. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, a dylech chi bob amser ddod â chymaint ag y gallwch chi o ddogfennau sy’n profi pwy ydych chi i’r cyfweliad, er enghraifft:

  • pasport dilys (DU neu dramor)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol (DU neu dramor)
  • trwydded breswylio neu gerdyn preswylio (gan gynnwys dogfennau preswylio biometrig i fewnfudwyr)
  • tystysgrif geni lawn
  • tystysgrif fabwysiadu
  • tystysgrif briodas lawn
  • tystysgrif partneriaeth sifil
  • trwydded yrru (DU neu dramor)

Os nad yw unrhyw rai o’r dogfennau adnabod hyn (neu unrhyw ddogfennau adnabod eraill) gennych chi, gallwch chi ddal i wneud cais am rif Yswiriant Gwladol a bydd yr wybodaeth a rowch chi’n cael ei gwirio. Efallai y bydd hyn yn ddigon i brofi pwy ydych chi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad?

Os gofynnwyd i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol, bydd angen i chi wneud hyn erbyn y dyddiad y cytunwyd arno. Wedyn, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi p’un ai yw eich cais wedi llwyddo ai peidio ac i ddweud wrthych beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol, os yw hynny’n briodol.

Dylech chi ddweud wrth eich cyflogwr beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol yn syth ar ôl i chi ei gael.

Sut bynnag y cewch chi eich rhif Yswiriant Gwladol, byddwch chi fel arfer yn cael cerdyn rhif Yswiriant Gwladol hefyd. Gall hyn gymryd hyd at 12 wythnos ar ôl i chi wneud cais.

Mae’r cerdyn yn ffordd ddefnyddiol o gofio eich rhif Yswiriant Gwladol, ond nid yw’n ffordd o brofi pwy ydych chi ac nid oes angen un arnoch chi i ddechrau gweithio. Eich rhif Yswiriant Gwladol sy’n bwysig, nid y cerdyn.

Ar ôl i chi gael eich cerdyn, os hoffech iddo gael ei argraffu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ffoniwch Linell Gymorth Gymraeg Cyllid a Thollau EM ar 0845 302 1489. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os ydych chi wedi colli eich rhif Yswiriant Gwladol neu’n methu ei gofio

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi rif yn barod, ond nid ydych chi’n gallu ei gofio, mae'n bosibl y gallwch ddod o hyd iddo ar waith papur swyddogol, er enghraifft:

  • eich ffurflen P60 (a roddir i chi gan eich cyflogwr ar ddiwedd pob blwyddyn dreth)
  • papur cyflog
  • copi o'ch ffurflen dreth flynyddol
  • gohebiaeth swyddogol arall

Os byddwch chi’n dal yn methu dod o hyd i’ch rhif, gallwch chi ofyn i Gyllid a Thollau EM ei gadarnhau drwy ddilyn y camau canlynol:

  • llenwi a dychwelyd ffurflen CA5403 Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • cysylltu â’r Llinell Gymorth ar gyfer Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Os ydych chi wedi cael eich rhif Yswiriant gwladol ond:

  • heb gael eich cerdyn Yswiriant Gwladol
  • rydych chi wedi colli'ch cerdyn rhif Yswiriant Gwladol

Nid oes yn rhaid i chi gael cerdyn cyn belled â’ch bod chi’n gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol. Dim ond 1 cerdyn newydd gewch chi.

Dyma sut mae gofyn am gerdyn:

  • llenwi a dychwelyd ffurflen CA5403 Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • ffonio’r Llinell Gymorth ar gyfer Cofrestru Yswiriant Gwladol ar 0845 915 7006 (llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Allweddumynediad llywodraeth y DU