Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ôl os ydych chi wedi talu gormod

Pa un a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig, neu'r ddau, mae terfyn ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y bydd angen i chi eu talu. Os byddwch yn talu gormod, gallwch hawlio'r arian yn ôl, ac os byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn ddiangen, mae'n bosib y bydd modd i chi hawlio'r arian yn ôl mewn amgylchiadau penodol.

Pryd allech chi ordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, 2 neu 4, neu'u talu'n ddiangen?

Mae'n bosib eich bod wedi gordalu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu wedi'u talu'n ddiangen:

  • os oedd gennych fwy nag un swydd a bod cyfanswm eich enillion yn fwy na £817 yr wythnos (blwyddyn dreth 2012-13)
  • os gwnaethoch roi'r gorau i fod yn hunangyflogedig a pharhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
  • os oeddech chi'n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ond bod eich elw yn llai na £5,595 y flwyddyn (blwyddyn dreth 2012-13)
  • os oeddech chi'n gyflogedig ac yn hunangyflogedig yn yr un flwyddyn ac y gwnaethoch chi dalu mwy nag oedd angen i chi ei dalu mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, Dosbarth 2 a Dosbarth 4.
  • os oeddech chi’n dal i weithio ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth a bod eich cyflogwr wedi parhau i dynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o'ch enillion
  • os oeddech chi’n dal i weithio ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod wedi parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar eich enillion o’ch gwaith hunangyflogedig
  • os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar elw ar gyfer blwyddyn dreth ar ôl yr un pan wnaethoch gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth neu ar elw a oedd yn cynnwys incwm y bu i chi ei ennill fel cyflogai ac yr ydych eisoes wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 arno

Sut mae hawlio ad-daliad os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu 2

Fel arfer, bydd Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi os ydych wedi talu £53.50 neu fwy ar ben y 'terfyn blynyddol' ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a/neu Ddosbarth 2.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu gormod ond heb gael eich hysbysu o hynny, wedi i'r flwyddyn dreth ddod i ben, ysgrifennwch at:

Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
Payment Reconciliation
National Insurance Contributions Office
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llofnodi eich llythyr ac yn cynnwys:

  • pam eich bod wedi talu gormod yn eich tyb chi
  • ym mha flynyddoedd treth yr ydych wedi gordalu, ac ym mha ddosbarth(iadau) cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • os ydych chi'n weithiwr cyflogedig – P60 neu ddatganiad gan eich cyflogwr/cyflogwyr yn dangos y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a ddidynnwyd o'ch cyflog yn ystod y flwyddyn dreth (Dosbarth 1)
  • os ydych chi’n hunangyflogedig – copi o’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n cadarnhau’r enillion isel

Os oes arnoch angen cymorth, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Yswiriant Gwladol i Unigolion ar 0845 302 1479. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Sut mae hawlio ad-daliad os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gordalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4

Llenwch ffurflen CA5610, 'Cais am ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4' – dilynwch y ddolen isod – ai hanfon i:

Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
Deferment Services
National Insurance Contributions Office
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Y cynharaf y gallwch wneud cais am ad-daliad yw o 1 Chwefror ymlaen yn dilyn y flwyddyn dreth y credwch fod yr ad-daliad yn ddyledus. Er enghraifft, os taloch ormod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn y flwyddyn dreth 2011-12, y dyddiad cynharaf y gallwch wneud cais yw 1 Chwefror 2013.

Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch Linell Gymorth y Gwasanaethau Gohirio (Deferment Services) ar 0845 915 7141. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.00 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Sut mae hawlio ad-daliad os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn ddiangen

Gwnewch un o'r canlynol:

  • llenwi ffurflen CA8480 'Cais am ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2' – dilynwch y ddolen isod
  • ysgrifennu at:
    Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
    Self Employment Services
    National Insurance Contributions Office
    Benton Park View
    Newcastle upon Tyne
    NE98 1ZZ

Os oes arnoch angen cymorth, ffoniwch y Llinell Gymorth ar gyfer Gweithwyr Hunangyflogedig ar 0845 915 4655. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30 am a 5.00 pm.

Sut mae hawlio ad-daliad os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn ddiangen

Gwnewch un o'r canlynol:

  • cysylltu â'r llinell gymorth ymholiadau Treth Incwm ar gyfer yr hunangyflogedig drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod
  • ffonio'r Llinell Gymorth Hunanasesu drwy ddilyn yr ail ddolen isod

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 yn ddiangen

Efallai y gallwch hawlio ad-daliad os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny
  • os gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol rhwng 25 Mai 2006 a 26 Gorffennaf 2007, neu rhwng 25 Mai 2006 ac 11 Chwefror 2008 os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon – dilynwch y ddolen gyntaf isod i gael rhagor o wybodaeth
  • pan oeddech yn eu talu, nid oeddech yn ymwybodol o fwriad y llywodraeth i ostwng nifer y blynyddoedd cymhwyso sy'n ofynnol er mwyn cael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth i 30 oherwydd nad oedd Cyllid a Thollau EM wedi anfon gwybodaeth i chi ynghylch y bwriad hwnnw

Ceir amgylchiadau eraill pan fydd modd i chi o bosib hawlio ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3. Er enghraifft, efallai eich bod wedi talu cyfraniadau'n ddiangen, neu nad ydych wedi talu digon i wneud i flwyddyn gyfrif fel 'blwyddyn gymhwyso' yn eich cofnod cyfraniadau.

Cyn gwneud cais am ad-daliad, mae Cyllid a Thollau EM yn argymell eich bod yn darllen mwy ynghylch pryd y gallech fod yn gymwys, drwy ddilyn y ddolen isod.

Dylech bwyso a mesur yn ofalus ai gwneud cais am ad-daliad yw'r penderfyniad iawn i chi. Efallai na fydd modd i chi dalu'r cyfraniadau a ad-dalwyd i chi yn ôl yn nes ymlaen os byddwch yn canfod bod eu hangen arnoch ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu fudd-daliadau profedigaeth.

Sut mae hawlio ad-daliad os ydych chi wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 yn ddiangen

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 Gwirfoddol

Gwnewch un o'r canlynol:

  • llenwi ffurflen 'Cais am ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 Gwirfoddol' – gweler y ddolen isod
  • ysgrifennu at:
    Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
    Self Employment Services
    National Insurance Contributions Office
    Benton Park View
    Newcastle upon Tyne
    NE98 1ZZ

Os oes arnoch angen cymorth, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Yswiriant Gwladol i Unigolion ar 0845 302 1479. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 Gwirfoddol

Gwnewch un o'r canlynol:

  • llenwi ffurflen 'Cais am ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 Gwirfoddol' – dilynwch y ddolen isod
  • ysgrifennu at:
    Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
    Payment Reconciliation
    National Insurance Contributions Office
    Benton Park View
    Newcastle upon Tyne
    NE98 1ZZ

Os oes arnoch angen cymorth, ffoniwch y Llinell Ymholiadau Yswiriant Gwladol i Unigolion ar 0845 302 1479. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Sut mae hawlio ad-daliad os ydych chi'n byw dramor ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol yn ddiangen

Llenwi'r ffurflen 'Cais am ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 Gwirfoddol' a'i hanfon i:

Cyllid a Thollau EM / HM Revenue & Customs
International Caseworker
National Insurance Contributions Office
Room BP1301
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE1ZZ

Os oes arnoch angen cymorth, ffoniwch y Llinell Gymorth Yswiriant Gwladol i bobl nad ydynt yn Preswylio yn y DU ar +44 191 230 7010. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Terfynau amser ar gyfer ad-dalu

Nid oes terfyn amser ar gyfer hawlio cyfraniadau yn ôl os ydych wedi talu gormod, er enghraifft, os oedd gennych ddwy swydd neu os oeddech yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd, neu os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau gwirfoddol iddynt gyfrif fel blwyddyn gymhwyso ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych wedi talu gormod neu wedi talu'n ddiangen am unrhyw reswm arall, bydd terfyn amser o chwe blynedd fel arfer ar gyfer hawlio ad-daliad. Felly, er enghraifft, rhaid gwneud yr hawliad ar gyfer blwyddyn dreth 2006-07 erbyn 5 Ebrill 2013.

Fodd bynnag, os ydych yn hawlio ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 oherwydd bod eich enillion hunangyflogedig ar gyfer y flwyddyn dreth yn is na'r terfyn 'eithriad enillion isel', mae'n rhaid i chi wneud cais amdano'n ysgrifenedig rhwng 6 Ebrill a 31 Ionawr ar ôl i'r flwyddyn y gwnaethpwyd y taliadau ynddi ddod i ben, a darparu tystiolaeth o'ch enillion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU