Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Yswiriant Gwladol – cwynion ac apeliadau

Os nad ydych chi'n fodlon â'r gwasanaeth a gawsoch gan Gyllid a Thollau EM yng nghyswllt eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu os ydych chi'n meddwl bod penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM yn anghywir neu'n afresymol, darllenwch yr erthygl hon i gael gwybod beth mae angen i chi ei wneud i gwyno neu apelio.

Sut mae cwyno

Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fyddwch yn delio â Chyllid a Thollau EM, dylai'r broses fod yn syml ac ni ddylai achosi dim anawsterau nac anhwylustod i chi. Fodd bynnag, gall camgymeriadau ac oedi ddigwydd, neu efallai y byddwch yn anhapus gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch achos. Beth bynnag y bo'r broblem, mae gennych hawl i gwyno am wasanaeth gwael.

Os ydych wedi cael profiad gwael, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bo modd. Bydd Cyllid a Thollau EM yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac i gywiro pethau cyn gynted â phosib.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth mae angen i chi ei wneud a phryd.

Apelio yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EM

Os ydych chi'n meddwl bod penderfyniad y mae Cyllid a Thollau EM wedi'i wneud yn anghywir neu'n afresymol, yn aml iawn, bydd gennych hawl i apelio. Gallwch naill ai wneud hyn eich hun neu awdurdodi cynghorydd proffesiynol i wneud hynny ar eich rhan.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth mae angen i chi ei wneud a phryd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU