Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, mae’n bwysig i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu diweddaru eich manylion personol a'ch cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’r erthygl hon yn rhoi enghreifftiau o’r newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt i Gyllid a Thollau EM, ac yn egluro pam mae angen i chi roi gwybod amdanynt.
Mae’n bwysig i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am newidiadau yn eich manylion personol. Byddant yn gallu diweddaru eich cofnod Yswiriant Gwladol a gwneud yn siŵr ei fod yn cyfateb i'r enw cywir, a gallant gysylltu â chi os bydd angen.
Er enghraifft, efallai y bydd angen iddynt wneud y canlynol:
Os byddwch chi’n priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil neu’n newid eich enw am unrhyw reswm arall, mae angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM.
Os byddwch chi’n newid eich cyfeiriad bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM, hyd yn oed os ydych chi'n talu rhywfaint neu'ch holl gyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE) a'ch bod eisoes wedi dweud wrth eich cyflogwr.
Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig cyn gynted ag y bo modd – hyd yn oed os ydych chi eisoes yn llenwi ffurflen dreth bob blwyddyn. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod iddynt, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy.
Os byddwch chi’n rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bo modd.
Os ydych wedi ysgaru, os yw’ch priodas wedi’i diddymu, neu os ydych chi'n wraig weddw a bod gennych dystysgrif dewis y gyfradd is, efallai y byddwch yn colli eich hawl:
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor am ddewis cyfraddau is a sut i roi gwybod bod eich amgylchiadau wedi newid.