Cyfuno dyledion
Cyfuno dyledion yw pan fyddwch yn codi un benthyciad newydd i dalu nifer o ddyledion sydd gennych. Gall hyn fod yn ffordd dda o gael rheolaeth dros eich sefyllfa ariannol ond rhaid i chi fod yn ofalus. Nid benthyciad cyfuno yw'r dewis gorau bob tro o anghenraid.
Cyn ystyried benthyciad cyfuno
Cyn penderfynu ar fenthyciad cyfuno, holwch beth sydd ar gael a pha ddewis arall sydd gennych. Gallai’r rhain gynnwys:
- ceisio gwneud trefniadau newydd gyda'r benthycwyr sydd gennych eisoes
- gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y defnydd gorau o'r opsiynau credyd sydd gennych eisoes - megis gorddrafft, cerdyn credyd neu gerdyn siop, benthyciad personol neu estyniad i'ch morgais
- cael benthyg arian gan berthnasau
Gallech hefyd fanteisio ar y cyngor am ddim sydd ar gael gan wasanaethau cwnsela am ddyled megis y National Debtline. (Gweler 'Ble i gael help a chyngor' isod.)
Os byddwch chi'n penderfynu ar fenthyciad cyfuno, holwch o gwmpas i gael y telerau gorau gan fenthyciwr ag enw da. Fe allai cymdeithasau adeiladu a banciau gynnig benthyciad personol i chi.
Rhesymau dros ystyried benthyciad cyfuno
O'i ddefnyddio'n ofalus, gall benthyciad cyfuno eich helpu i gael rheolaeth dros eich materion ariannol eto.
Dyma rai o'r manteision:
- talu cyfradd llog is – gallai benthyciadau cyfuno dros gyfnod hwy fod yn well na benthyciadau tymor byr
- fe allai eich taliadau misol fod yn is
- byddwch yn gwybod pa bryd y byddwch yn gorffen talu'r ddyled
- dim ond un taliad bob mis y bydd rhaid i chi ei wneud
- dim ond ag un benthyciwr y byddwch chi'n gorfod delio
- fe allech chi osgoi mynd ar ei hôl hi gyda'r taliadau a chael sgôr credyd isel
Anfanteision posibl benthyciadau cyfuno
Cofiwch fod anfanteision mawr hefyd, megis:
- os caiff y benthyciad ei sicrhau ar sail eich eiddo, byddwch yn wynebu risg o adfeddiannu os na allwch chi dalu'r taliadau
- fe allech dalu mwy yn y pen draw a thros gyfnod hwy
- byddwch fel arfer yn talu costau ychwanegol am sefydlu ac ad-dalu'r benthyciad newydd
- os oedd llog y benthyciadau rydych chi'n eu cyfuno wedi'i ychwanegu ar y dechrau, byddwch chi'n talu llog ar y llog hwnnw, yn ogystal ag ar swm y benthyciad
- bydd eich wyau i gyd yn yr un fasged - os cewch chi broblemau, fe allai fod yn fwy anodd cytuno ar drefniant newydd gydag un benthyciwr
- bydd angen bod yn ofalus iawn a gwneud yn siŵr y medrwch fforddio’r taliadau newydd
- os oes gennych sgôr credyd isel, efallai y bydd ond yn bosib i chi gael benthyciad cyfradd llog uchel
- mae’n llawer anoddach cael benthyciad anwarantedig ar gyfradd llog isel yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni
- os na fyddwch yn talu’r dyledion sydd gennych i gyd, gallech ei chael hi’n anodd talu taliadau’r benthyciad newydd yn ychwanegol at hynny
Sut mae dewis benthyciad cyfuno
Holwch o gwmpas am y telerau gorau - bydd yn arbed arian i chi. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn deall holl delerau ac amodau'r benthyciad megis;
- am faint y byddwch chi'n ad-dalu'r benthyciad a faint y byddwch chi'n ei dalu i gyd
- y gyfradd llog ac a oes modd i honno newid
- beth yw'r ad-daliadau misol a beth fydd yn digwydd os collwch chi un
- a fyddant yn codi llog neu daliadau ychwanegol arnoch os byddwch chi’n colli taliad
- unrhyw gosbau neu gostau y bydd rhaid i chi eu talu os byddwch chi am dalu'r benthyciad yn ôl yn fuan
- beth fydd yn digwydd os bydd y benthyciad wedi'i sicrhau ar sail eich cartref ac na allwch chi dalu'r ad-daliadau
Unwaith i chi drefnu benthyciad, ceisiwch gadw'ch sefyllfa ariannol dan reolaeth gadarn - er enghraifft, rhowch siswrn drwy'ch cardiau credyd a pheidiwch â gadael i'r ddyled gronni eto. Cofiwch y gall y benthyciwr roi pwysau arnoch i fenthyg mwy o arian drwy ymestyn y benthyciad.
Fe'ch anogir i godi yswiriant gyda'ch benthyciad. Cofiwch fod yn glir am y telerau, bod gwir angen y benthyciad arnoch ac y byddwch yn gallu hawlio'r yswiriant hwnnw os bydd rhaid.