Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Creu cynllun rheoli dyledion

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ad-dalu'r arian sy'n ddyledus gennych chi, gallech chi ystyried creu cynllun rheoli dyledion. Gwnewch yn siŵr ai dyma'r dewis iawn i chi ac ymchwiliwch i ddod o hyd i'r darparwr gorau i greu ac i redeg eich cynllun.

Beth yw cynllun rheoli dyledion?

Rydych chi'n gwneud addewid newydd i ad-dalu eich dyledion yn llawn

Mae cynllun rheoli dyledion yn gytundeb rhyngoch chi â'r busnesau mae arnoch chi arian iddyn nhw (eich 'credydwyr') i wneud taliad misol penodol. Caiff y cynlluniau eu rheoli gan gwmnïau a elwir yn 'weithredwyr' neu 'ddarparwyr' cynlluniau rheoli dyledion, a fydd yn trafod gyda'ch credydwyr ac yn rheoli'r taliadau ar eich rhan.

Mae eich taliad misol yn seiliedig ar faint allwch chi fforddio ei dalu. Caiff y taliad hwn wedyn ei ddosbarthu'n deg rhwng eich holl gredydwyr.

Mae dechrau cynllun rheoli dyledion yn golygu eich bod yn gwneud addewid newydd i ad-dalu eich dyledion yn llawn.

Pan fydd eich cynllun rheoli dyledion yn cael ei greu, weithiau bydd eich credydwyr yn cytuno i rewi unrhyw gostau llog. Ond cofiwch nad oes yn rhaid iddynt gytuno ar hyn.

A does dim rhaid iddynt gytuno ar eich cynllun o gwbl. Os na fyddant yn gwneud hynny, gallant hefyd barhau i gysylltu â chi, gofyn am daliad – neu hyd yn oed mynd â chi i'r llys os byddant yn dewis gwneud hynny.

Gellir ond defnyddio cynlluniau rheoli dyledion i dalu dyledion 'heb eu diogelu' – arian sy'n ddyledus gennych chi nad yw wedi cael ei warantu yn erbyn eich eiddo, er enghraifft.

Bydd rhai cwmnïau yn codi ffi arnoch chi am hyn, ond bydd eraill yn darparu eu gwasanaethau am ddim. Mae'n syniad da iawn cael cyngor cyn creu cynllun gyda darparwr (edrychwch ar yr adran 'Cael cyngor am ddim am eich dyledion' isod).

Manteision cynlluniau rheoli dyledion

Dyma’r manteision:

  • mae gwneud un taliad misol rheolaidd yn rhoi gwell rheolaeth i chi dros eich cyllid
  • efallai bydd eich credydwyr yn cytuno i rewi'r llog a'r costau ar eich dyled ac efallai byddant yn stopio camau eraill megis mynd â chi i'r llys (er nad oes yn rhaid iddynt wneud hyn)
  • tawelwch meddwl – mewn nifer o achosion, ni fydd eich credydwyr na chasglwyr dyledion yn cysylltu â chi mwyach

os byddwch chi'n cwblhau'r cynllun, caiff eich dyledion heb eu diogelu eu clirio

Anfanteision cynlluniau rheoli dyledion

Dylech chi gofio:

  • rhaid ad-dalu eich dyledion yn llawn – ni fyddant yn cael eu dileu
  • does dim rhaid i gredydwyr ymuno â chynllun rheoli dyledion ac efallai byddant yn dal i gysylltu â chi yn gofyn am ad-daliad ar unwaith
  • nid yw morgeisi na dyledion 'wedi'u diogelu' eraill yn dod dan gynllun rheoli dyledion

Allwch chi fforddio cynllun rheoli dyledion?

Gallwch ond gael cynllun rheoli dyledion os oes gennych chi rywfaint o arian dros ben bob mis ar ôl talu eich holl gostau hanfodol.

Mae'n syniad da llunio cyllideb, gan gynnwys eich incwm misol a'ch holl gostau byw misol hanfodol. Mae costau hanfodol yn golygu biliau megis morgais neu rent, biliau'r prif wasanaethau, y Dreth Gyngor a thaliadau hurbwrcasu.

Os oes gennych swm bach iawn dros ben ar ôl talu'r rhain i gyd – neu ddim byd o gwbl – dylech chi ystyried ffyrdd eraill o reoli eich dyledion.

Dewis eich darparwr cynllun rheoli dyledion

Wrth ddewis darparwr cynllun rheoli dyledion, dylech chi wneud yn siŵr:

  • bod y darparwr wedi cael ei drwyddedu dan y Swyddfa Masnach Deg
  • bod y darparwr yn trafod yr holl opsiynau posibl sydd ar gael i chi er mwyn delio â'ch problem dyled
  • eich bod yn cael gwybod yn glir ar y dechrau faint y bydd yn ei gostio i drefnu'r cynllun a phwy fydd yn talu'r gost honno
  • eich bod yn deall beth fydd yn digwydd os bydd y darparwr yn rhoi'r gorau i redeg y cynllun i chi oherwydd eich bod wedi methu taliadau
  • eich bod wedi holi darparwyr eraill i wneud yn siŵr eich bod yn cael bargen dda

Darllen telerau eich cynllun

Cyn dechrau cynllun, dylai'r gweithredwr egluro'r telerau ac amodau i chi, gan gynnwys:

  • faint o arian y bydd disgwyl i chi ei dalu bob mis ac am ba hyd
  • y rhesymau y gallai'r darparwr roi'r gorau i weithredu'r rhaglen i chi – er enghraifft, os nad ydych chi'n gwneud y taliadau misol gofynnol

Cael cyngor am ddim am eich dyledion

Mae creu cynllun rheoli dyledion yn ymrwymiad ariannol pwysig – felly mae'n syniad da cael cyngor i wneud yn siŵr mai dyma'r dewis iawn i chi.

Gallwch gael cyngor diduedd am ddim ar gynlluniau rheoli dyledion – neu unrhyw fath o broblemau dyled – gan nifer o fudiadau.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU