Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Trefniadau anffurfiol – ffyrdd allan o ddyled

Mae trefniadau anffurfiol yn ffordd o ddelio â'ch dyledion. Byddwch yn cytuno i wneud taliadau rheolaidd i'ch credydwyr (y bobl y mae arnoch chi arian iddynt) dros gyfnod o amser. Yn y fan hon cewch wybod sut mae trefniadau anffurfiol yn gweithio, sut maent yn effeithio arnoch chi a lle i gael cymorth i roi un ar waith.

Sut mae trefniadau anffurfiol yn gweithio?

Mae trefniant anffurfiol yn un ffordd o'ch helpu i ddelio â'ch dyledion. Byddwch yn cysylltu â'ch credydwyr (y bobl y mae arnoch chi arian iddynt) ac yn gofyn iddynt gytuno i dderbyn ad-daliadau is yn rheolaidd er mwyn talu'ch dyledion, naill ai'n llawn neu'n rhannol. Nid oes yn rhaid i'ch credydwyr dderbyn eich trefniant anffurfiol a gallant ei ganslo unrhyw bryd.

Cael cyngor a chymorth di-dâl gyda dyledion

Gallwch gael cyngor di-dâl ac annibynnol am drefniadau anffurfiol, a chael gwybod ai dyma'r ffordd orau i ddelio â'ch problemau dyledion, gan fudiadau megis y Llinell Ddyled Genedlaethol.

Trefniadau anffurfiol – eich cyfrifoldebau

Rydych chi'n gyfrifol am wneud yr holl ad-daliadau y cytunwyd arnynt a dylech hefyd sicrhau bod eich credydwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich sefyllfa ariannol.

Os bydd eich sefyllfa ariannol yn gwaethygu, er enghraifft, os byddwch yn colli eich gwaith, gallwch geisio negodi trefniant arall. Os bydd eich amgylchiadau'n gwella, mae'n bosib y bydd eich credydwyr yn disgwyl i chi dalu rhagor.

Cost trefniant anffurfiol

Nid yw'n costio dim i roi trefniant anffurfiol ar waith, ond mae'n bosib na fydd ad-daliadau bach yn talu'r llogau na'r costau. Os bydd hyn yn digwydd, gall y swm y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu – a'r cyfnod ar gyfer gwneud hynny – gynyddu.

Rhoi trefniant anffurfiol ar waith – y camau

Ewch i gael cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, i’ch helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Gallwch roi trefniant anffurfiol ar waith eich hun, ond dylech wneud yn siŵr mai dyma'r ffordd iawn o ddelio â'ch dyledion. I roi un ar waith, ac i wneud yn siŵr mai dyma'r ffordd iawn i ddelio â'ch dyledion, gallwch gael cyngor a chyngor di-dâl gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a'r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Gall cyrff eraill eich helpu i roi trefniant anffurfiol ar waith hefyd, ond mae'n bosib y byddant yn codi ffi. Dylech gael cadarnhad o'u costau cyn gofyn iddynt eich helpu gyda'r trefniadau anffurfiol.

Cam un: llunio cyllideb. Bydd hyn yn dangos i chi faint allwch chi fforddio ei dalu i'ch credydwyr bob mis, ar ôl i chi dalu'ch costau byw hanfodol (fel eich rhent, eich morgais a biliau'r cartref).

Cam dau: llunio eich trefniant anffurfiol, gan ddangos beth sy'n rhesymol i chi ei ad-dalu a dros faint o amser.

Cam tri: ysgrifennu at eich holl gredydwyr yn egluro eich sefyllfa ac yn gofyn iddynt dderbyn eich trefniant anffurfiol.

Gallwch gael cyngor di-dâl gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a'r Llinell Ddyled Genedlaethol os nad yw'ch credydwyr yn erbyn eich trefniant anffurfiol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU