Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Trefniadau gwirfoddol unigol (IVAs) – ffyrdd allan o ddyled

Mae trefniadau gwirfoddol unigol yn ffordd o ddelio â'ch dyledion. Mae'n rhaid i drefniadau gwirfoddol unigol gael eu rhoi ar waith gan arbenigwr dyledion sydd wedi'i awdurdodi, ac mae'n rhaid i chi dalu costau. Yn y fan hon, cewch wybod sut maent yn gweithio, sut maent yn effeithio ar eich statws credyd a ble i gael cymorth a chyngor.

Sut mae trefniadau gwirfoddol unigol yn gweithio?

Mae trefniant gwirfoddol unigol yn gytundeb rhyngoch chi a'ch credydwyr (pobl y mae arnoch arian iddynt) ar gyfer talu'ch dyledion yn llawn neu'n rhannol. Byddwch yn gwneud taliadau rheolaidd i arbenigwr dyledion awdurdodedig, a elwir yn 'ymarferydd ansolfedd'. Byddant yn rhannu'r arian hwn ymhlith eich credydwyr, yn ôl yr hyn y cytunir arno yn eich trefniant gwirfoddol unigol.

Nid oes uchafswm nac isafswm dyled ac nid oes uchafswm nac isafswm ar gyfer yr ad-daliadau, dim ond beth sy'n dderbyniol i'ch credydwyr. Fel arfer, bydd eich trefniadau gwirfoddol unigol yn dod i ben pan fydd y swm y cytunwyd arno wedi cael ei dalu'n ôl.

Manteision trefniadau gwirfoddol unigol

Dyma rai o fanteision trefniadau gwirfoddol unigol:

  • gall eich ymarferydd ansolfedd eich helpu i gyfrifo faint allwch chi fforddio ei dalu'n ôl
  • bydd eich ymarferydd ansolfedd yn cysylltu â'ch holl gredydwyr ac yn eu cael i gytuno ar drefniant gwirfoddol unigol i chi
  • ni all eich credydwyr gymryd dim camau yn eich erbyn – er enghraifft, mynd â chi i'r llys neu eich gwneud yn fethdalwr
  • bydd llogau a chostau yn cael eu stopio fel rheol

Tra mae'ch trefniant gwirfoddol unigol yn cael ei roi ar waith, efallai y gall eich ymarferydd ansolfedd gael y llys i roi gorchymyn yn atal eich credydwyr rhag cymryd rhagor o gamau yn eich erbyn.

Cael cyngor a help di-dâl gyda dyledion

Dylech gael cyngor di-dâl ac annibynnol am drefniadau gwirfoddol unigol a chael gwybod ai dyma'r ffordd orau i ddelio â'ch problemau dyledion. Mae llawer o fudiadau'n cynnig cyngor annibynnol di-dâl ynghylch sut i ddelio â dyledion.

Costau trefniadau gwirfoddol unigol

Bydd ymarferydd ansolfedd yn codi ffi am drafod â'ch credydwyr a rheoli eich trefniant gwirfoddol unigol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn talu 'ffi sefydlu' a ffi ychwanegol bob tro y byddwch yn gwneud taliad misol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y costau llawn sy'n gysylltiedig â'ch trefniant gwirfoddol unigol cyn gofyn i ymarferydd ansolfedd weithredu ar eich rhan. Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gael cyngor yn rhad ac am ddim gan gorff megis Cyngor Ar Bopeth neu gan y Llinell Ddyled Genedlaethol.

Sut mae cael trefniant gwirfoddol unigol?

Ewch i gael cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, i’ch helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

Dim ond ymarferydd ansolfedd all sefydlu trefniadau gwirfoddol unigol, ac mae'n rhaid i chi brofi iddynt y gallwch fforddio i wneud taliadau rheolaidd. Rhaid dilyn pum cam er mwyn cael trefniant gwirfoddol unigol.

Cam un: cysylltu â mudiad sy'n rhoi cyngor di-dâl ac annibynnol am ddyledion er mwyn gwneud yn siŵr mai trefniant gwirfoddol unigol yw'r ffordd orau i chi ddelio â'ch dyledion.

Cam dau: cael ymarferydd ansolfedd awdurdodedig i weithredu fel enwebai ar gyfer eich trefniant gwirfoddol unigol. Mae hyn yn golygu y byddant yn eich helpu i baratoi eich trefniant gwirfoddol unigol ac yn ei anfon at eich credydwyr.

Os nad yw ymarferydd ansolfedd yn cytuno i weithredu ar eich rhan, gallwch gael cyngor di-dâl gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a'r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Cam tri: os bydd yr ymarferydd ansolfedd yn cytuno i weithredu fel eich enwebai, byddant yn eich helpu i baratoi eich trefniant gwirfoddol unigol. Bydd yn rhaid i chi ddarparu manylion am y canlynol:

  • eich asedau a’ch incwm y gellir eu defnyddio i dalu eich dyledion
  • eich costau – er enghraifft, biliau bwyd a biliau'r cartref
  • eich dyledion – er enghraifft, faint sy'n ddyledus gennych, gan gynnwys unrhyw log neu gostau
  • eich credydwyr – mae'n rhaid i chi ddarparu rhestr lawn; gall unrhyw gredydwyr y byddwch yn eu gadael allan ofyn i'r llys ganslo eich trefniant gwirfoddol unigol

Cam pedwar: bydd yr ymarferydd ansolfedd yn trefnu cyfarfod gyda'ch credydwyr i dderbyn eich trefniant gwirfoddol unigol. Nid oes yn rhaid i chi ddod i'r cyfarfod hwn, bydd yr ymarferydd ansolfedd yn eich cynrychioli.

Er mwyn i'ch trefniant gwirfoddol unigol gael ei dderbyn, mae'n rhaid i'r credydwyr y mae 75 y cant o'ch dyledion yn ddyledus iddynt gytuno i'r trefniant. Bydd y trefniant gwirfoddol unigol wedyn yn berthnasol i'ch holl gredydwyr, hyd yn oed y rheini a'i gwrthododd.

Gallwch gael cyngor di-dâl gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a'r Llinell Ddyled Genedlaethol os nad yw'ch credydwyr yn derbyn eich trefniant gwirfoddol unigol.

Cam pump: os caiff eich trefniant gwirfoddol unigol ei dderbyn, bydd yr ymarferydd ansolfedd yn gweithredu fel goruchwylydd eich trefniant gwirfoddol unigol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rheoli eich taliadau i'ch credydwyr, gan eu rhannu yn ôl yr hyn a gytunwyd.

Eich cyfrifoldebau pan fydd y trefniant gwirfoddol unigol ar waith

Os na fyddwch yn talu eich taliadau misol, gall eich credydwyr ganslo eich trefniant gwirfoddol unigol. Os caiff ei ganslo, gall eich credydwyr gymryd camau pellach yn eich erbyn. Gall hyn gynnwys mynd â chi i'r llys neu eich gwneud yn fethdalwr.

Rhowch wybod i'ch ymarferydd ansolfedd os bydd eich sefyllfa ariannol yn gwaethygu, er enghraifft, os byddwch yn colli eich gwaith. Efallai y gallant annog eich credydwyr i adael i chi dalu llai bob mis.

Sut bydd trefniant gwirfoddol unigol yn effeithio ar eich statws credyd

Bydd eich trefniant gwirfoddol unigol yn cael ei restru ar y Gofrestr Ansolfedd Unigolion, sef cronfa ddata ar-lein a ddefnyddir gan asiantaethau gwirio credyd er mwyn diweddaru eich statws credyd. Bydd yn anoddach i chi agor cyfrifon banc newydd, cael benthyciadau neu brynu ar gredyd os bydd gennych chi drefniant gwirfoddol unigol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU