Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gorchmynion rhyddhad o ddyledion – ffyrdd allan o fethdaliad

Mae gorchmynion rhyddhad o ddyledion yn ffordd o’ch helpu i ddelio â mathau penodol o ddyledion. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am orchymyn drwy gynghorydd dyledion wedi’i awdurdodi, ond dim ond os byddwch chi’n bodloni amodau a chostau penodol. Yma, cewch wybod sut maent yn gweithio, a lle i gael cymorth gyda’ch cais.

Sut mae gorchymyn rhyddhad o ddyledion yn gweithio?

Mae gorchymyn rhyddhad o ddyledion yn opsiwn arall heblaw am fethdaliad, a gall eich helpu i ddelio â mathau penodol o ddyled:

  • os nad ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun
  • os nad oes gennych chi lawer o incwm dros ben
  • os nad oes llawer o obaith y bydd eich sefyllfa ariannol yn gwella

Y Derbynnydd Swyddogol (un o swyddogion y llys methdaliad) fydd yn rhoi’r gorchymyn, a bydd hefyd yn ysgrifennu at eich credydwyr (pobl y mae arnoch arian iddynt) i egluro’r canlynol:

  • na allant gymryd dim camau i adennill eu harian heb ganiatâd y llys
  • na chewch wneud dim taliadau tuag at eich dyledion
  • byddwch yn cael eich rhyddhau o’ch dyled pan fydd y gorchymyn yn dod i ben – fel arfer, ar ôl 12 mis

Gellir diwygio neu ganslo gorchymyn rhyddhad o ddyledion os bydd eich sefyllfa ariannol yn gwella. Gallwch gael cyngor am ddim gan gyrff megis y Llinell Ddyled Genedlaethol ynghylch beth fydd yn digwydd os bydd eich sefyllfa ariannol yn gwella.

Yr amodau ar gyfer cael gorchymyn rhyddhad o ddyledion

I gael gorchymyn, mae’n rhaid i'r canlynol fod yn wir:

  • mae arnoch chi lai na £15,000
  • mae gennych chi lai na £50 y mis o incwm dros ben – ar ôl talu biliau hanfodol megis rhent neu fwyd
  • mae gennych chi werth llai na £300 o asedau – nid yw cerbydau modur yn cael eu cynnwys yn y terfyn hwn – fel arfer, gallwch gadw eich car os yw’n werth llai na £1000 neu os oes arnoch ei angen am fod gennych chi anabledd
  • rydych yn byw, yn rhedeg busnes neu’n berchen ar eiddo yng Nghymru neu Loegr – neu wedi gwneud hynny yn y tair blynedd diwethaf
  • nid ydych wedi gwneud cais am orchymyn rhyddhad o ddyledion yn y chwe blynedd diwethaf

Dylech gysylltu â chynghorydd dyledion wedi’i awdurdodi i gael help gyda’r amodau llawn, ac i gael gwybod pa opsiynau fydd gennych, os ydych chi eisoes yn rhan o weithdrefn ansolfedd ffurfiol arall (megis methdaliad).

Gall eich canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu’r Llinell Ddyled Genedlaethol roi rhestr i chi o gynghorwyr dyledion wedi’u hawdurdodi yn eich ardal chi.

Dyledion na ellir eu cynnwys yn eich gorchymyn rhyddhad o ddyledion

Ni ellir cynnwys rhai mathau o ddyled mewn gorchymyn rhyddhad o ddyledion, sef fel arfer:

  • dirwyon y llys
  • taliadau cynhaliaeth teulu
  • benthyciadau myfyrwyr
  • dyledion a grëwyd ar ôl i orchymyn rhyddhad o ddyledion gael ei roi

Gallwch gael help i adnabod a delio â’r mathau hyn o ddyled gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Y broses ymgeisio am orchymyn rhyddhad o ddyledion

Ewch i gael cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, i’ch helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch dyledion

I gael gorchymyn rhyddhad o ddyledion, mae’n rhaid i gynghorydd dyledion wedi’i awdurdodi anfon ffurflen gais at y Derbynnydd Swyddogol drosoch.

Cam un: cysylltwch â’ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu’r Llinell Ddyled Genedlaethol i gael rhestr o gynghorwyr dyledion wedi’u hawdurdodi yn eich ardal chi. Bydd y cynghorydd dyledion yn gwneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r amodau i fod yn gymwys i gael gorchymyn
  • eich helpu i lenwi’r ffurflen gais – er enghraifft, cyfrifo taliadau llog
  • anfon eich ffurflen gais at y Derbynnydd Swyddogol – ni chewch chi ei hanfon yn uniongyrchol

Cam dau: mae’n rhaid i chi dalu ffi o £90 cyn y bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ystyried eich cais. Gall eich cynghorydd dyledion wedi'i awdurdodi roi cyngor i chi ynghylch talu mewn rhandaliadau neu gysylltu â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol i gael gwybodaeth am elusennau a all helpu.

Cam tri: bydd y Derbynnydd Swyddogol yn asesu eich cais am orchymyn rhyddhad o ddyledion, a gall wneud y canlynol:

  • cyhoeddi gorchymyn rhyddhad o ddyledion
  • gofyn i chi am ragor o wybodaeth ariannol – er enghraifft, datganiadau banc
  • gwrthod eich cais

Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, gallwch gael cyngor am ddim ynghylch dyledion gan gyrff megis Cyngor Ar Bopeth a’r Llinell Ddyled Genedlaethol.

Cwynion

Os oes arnoch eisiau cwyno am gynghorydd dyledion wedi'i awdurdodi, dylech gysylltu â'i gorff awdurdodi. Gall eich cynghorydd dyledion roi’r manylion hyn i chi. Bydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn delio â chwynion am y Derbynnydd Swyddogol.

Sut bydd gorchymyn rhyddhad o ddyledion yn effeithio arnoch chi

Bydd eich gorchymyn yn cael ei restru ar y Gofrestr Ansolfedd Unigolion, sef cronfa ddata ar-lein a ddefnyddir gan asiantaethau gwirio credyd er mwyn diweddaru eich statws credyd. Bydd y cofnod yn cael ei ddileu dri mis ar ôl i’ch gorchymyn ddod i ben.

Bydd asiantaethau gwirio credyd yn cadw cofnodion o orchmynion rhyddhad o ddyledion am chwe blynedd, a bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i chi agor cyfrifon banc newydd neu gael credyd.

Eich cyfrifoldebau ar ôl i orchymyn rhyddhad o ddyledion gael ei roi

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu bod gennych chi orchymyn rhyddhad o ddyledion, ac yna, bydd yn penderfynu a allwch chi barhau i ddefnyddio’ch cyfrifon. Mae’n rhaid i chi gydweithredu â’r Derbynnydd Swyddogol ac adrodd am unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa ariannol, oherwydd gall hyn effeithio ar eich gorchymyn.

Mae’n drosedd torri unrhyw un o’r cyfyngiadau canlynol:

  • benthyg mwy na £500 heb ddweud wrth y benthyciwr am eich gorchymyn
  • cyfarwyddo cwmni
  • creu, rheoli neu hyrwyddo cwmni heb ganiatâd y llys
  • rheoli busnes heb ddweud wrth y rhai y byddwch yn gwneud busnes â nhw am eich gorchymyn
  • gweithio fel ymarferydd ansolfedd (arbenigwr dyledion wedi’i awdurdodi)

Dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu’r Llinell Ddyled Genedlaethol i gael cymorth a chyngor am ddim ynglŷn â sut gall y cyfyngiadau hyn effeithio arnoch chi.

Am ba hyd fydd cyfyngiadau’r gorchymyn rhyddhad o ddyledion yn para?

Bydd cyfyngiadau’r gorchymyn fel arfer yn dod i ben yr un pryd â'ch gorchymyn. Gallant barhau am hyd at 15 mlynedd os mai ymddygiad diofal, troseddol neu anonest (megis twyll) a wnaeth arwain at eich problem ddyled.

Cam un: bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ymchwilio i’r hyn sydd wrth wraidd eich problem ddyled. Mae’n rhaid i chi gydweithredu a darparu unrhyw wybodaeth ariannol y mae’n gofyn amdani.

Cam dau: os oes tystiolaeth o ymddygiad diofal, troseddol neu anonest, bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gofyn i chi gytuno i barhau â chyfyngiadau’r gorchymyn.

Os byddwch yn cytuno, ni fydd yn rhaid i chi fynd i’r llys, a gellir lleihau’r cyfnod y bydd y cyfyngiadau yn parhau. Gelwir y math hwn o gytundeb yn ymgymeriad cyfyngiadau rhyddhad o ddyledion.

Os na fyddwch yn cytuno, bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys. Bydd y Derbynnydd Swyddogol yn gofyn i’r llys roi gorchymyn i barhau â’r cyfyngiadau. Gelwir y gorchymyn hwn yn orchymyn cyfyngiadau rhyddhad o ddyledion. Dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol os byddwch yn mynd i’r llys.

Cam tri: bydd y Derbynnydd Swyddogol yn ysgrifennu atoch i gadarnhau am ba hyd fydd cyfyngiadau’r gorchymyn yn para. Bydd y manylion hyn hefyd yn cael eu cyhoeddi ar y Gofrestr Ansolfedd Unigolion.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU