Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gorchmynion Gweinyddu – ffyrdd allan o ddyled

Mae Gorchmynion Gweinyddu yn ffordd o ddelio â dyledion o £5,000 neu lai. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am orchymyn drwy eich llys sirol lleol, ac mae amodau a chostau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni. Yma, cewch wybod sut mae Gorchmynion Gweinyddu yn gweithio, a lle i gael cymorth i wneud eich cais.

Sut mae Gorchymyn Gweinyddu yn gweithio?

Os gallwch chi fforddio i wneud taliadau rheolaidd er mwyn talu eich dyledion, mae’n bosib y gallwch wneud cais i’r llys i gael Gorchymyn Gweinyddu. Dyma lle byddwch yn cytuno i wneud taliadau wythnosol neu fisol rheolaidd o’ch incwm i’r llys. Gall hyn fod am y swm llawn sy’n ddyledus gennych, neu am ganran ohono. Bydd y llys yn rhannu’r arian hwn rhwng eich credydwyr (pobl y mae arnoch arian iddynt).

Pan fydd gennych chi Orchymyn Gweinyddu, ni fyddwch yn parhau i dalu llog na chostau eraill. Hefyd, ni fydd eich credydwyr yn cael cymryd camau pellach yn eich erbyn heb ganiatâd y llys.

Gallwch ganfod ai Gorchymyn Gweinyddu yw’r opsiwn gorau i chi drwy gael cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, yn ymwneud â dyled.

Cost Gorchymyn Gweinyddu

Bydd y llys yn codi ffi arnoch bob tro y byddwch yn gwneud taliad. Ni fydd cost y ffi hon yn fwy na 10 y cant o gyfanswm eich dyledion. Er enghraifft, os bydd arnoch chi £5,000, yr uchafswm y bydd yn rhaid i chi dalu'r llys fydd £500.

Yr amodau ar gyfer Gorchymyn Gweinyddu

I gael Gorchymyn Gweinyddu, mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • mae’n rhaid bod llai na £5,000 yn ddyledus gennych chi, gan gynnwys unrhyw log a chostau eraill
  • mae’n rhaid bod arnoch chi arian i ddau gredydwr o leiaf
  • mae’n rhaid i chi brofi eich bod yn gallu fforddio gwneud ad-daliadau rheolaidd – er enghraifft, rhoi manylion eich incwm a'ch costau
  • mae’n rhaid bod gennych chi un ai ddyfarniad llys sirol neu ddyfarniad Uchel Lys yn eich erbyn, ac na allwch ei dalu’n llawn

Sut mae cael Gorchymyn Gweinyddu

I gael Gorchymyn Gweinyddu, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r llys. Bydd y llys yn gwneud y canlynol:

  • penderfynu faint allwch chi fforddio ei dalu yn rhesymol bob wythnos neu bob mis
  • cadarnhau am ba hyd fydd y Gorchymyn Gweinyddu yn para, sef fel arfer, nes bydd y swm a bennir gan y llys yn cael ei ad-dalu
  • penderfynu a fyddwch yn ad-dalu eich dyledion yn llawn, neu ddim ond canran ohonynt

Os mai dim ond canran o’ch dyledion y gallwch fforddio ei dalu, mae’n bosib mai Gorchymyn Cyfansoddiad y bydd y llys yn ei roi i chi. Dim ond am hyd at dair blynedd y gall hwn bara.

Gall eich credydwyr ofyn i’r llys am beidio â chael eu cynnwys yn y Gorchymyn Gweinyddu neu’r Gorchymyn Cyfansoddiad.

Dylech gysylltu â’ch canolfan Cyngor Ar Bopeth leol neu’r Llinell Ddyled Genedlaethol i gael cyngor annibynnol, rhad am ddim, ynglŷn â sut i wneud cais am Orchymyn Gweinyddu.

Eich cyfrifoldebau ar ôl cael Gorchymyn Gweinyddu

Mae’n rhaid i chi lwyddo i dalu’r ad-daliadau ar amser neu gall y llys wneud y canlynol:

  • canslo eich Gorchymyn Gweinyddu – os caiff ei ganslo, gall eich credydwyr gymryd camau yn eich erbyn i adennill yr arian y mae arnoch iddynt
  • rhoi ‘Gorchymyn Atafaelu Enillion’ – bydd hyn yn caniatáu i’r llys roi gwybod i’ch cyflogwr am eich dyledion, a chymryd arian yn uniongyrchol o’ch cyflog

Os na allwch dalu’r ad-daliadau, mae’n bosib y gellir newid eich Gorchymyn Gweinyddu, neu efallai y cewch Orchymyn Cyfansoddiad. Dylech gael cyngor annibynnol, am ddim, yn ymwneud â dyled er mwyn cael gwybod beth yw'ch opsiynau os na allwch chi dalu'r ad-daliadau.

Sut bydd Gorchymyn Gweinyddu yn effeithio ar eich statws credyd

Bydd Gorchmynion Gweinyddu yn cael eu rhestru yn y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon sydd ar gael i'r cyhoedd.

Bydd asiantaethau gwirio credyd yn cadw manylion eich Gorchymyn Gweinyddu am chwe blynedd. Bydd yn anoddach i chi agor cyfrifon banc newydd, cael benthyciadau neu brynu ar gredyd os bydd gennych chi Orchymyn Gweinyddu.

Os gwnaethoch dalu eich dyledion yn llawn, gallwch ofyn i’r llys roi marc ar eich cofnod yn y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon eich bod 'wedi ad-dalu'. Ni ellir marcio eich bod wedi ad-dalu ar eich cofnod yn y gofrestr os oedd gennych chi Orchymyn Cyfansoddiad (gan na wnaethoch dalu eich dyledion yn llawn).

Gallwch gael cofnod swyddogol yn dangos bod y Gorchymyn Gweinyddu wedi dod i ben drwy ofyn i'r llys am 'dystysgrif ad-dalu'. Pris y dystysgrif yw £15.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU