Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio cyfandaliad

Drwy ddewis oedi cyn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallwch gael cyfandaliad. Cyn i chi benderfynu a ydych chi am ohirio, dylech chi gael gwybod mwy am y cyfandaliad a sut mae’n effeithio ar etifeddiaeth, ar dreth ac ar fudd-daliadau eraill.

Faint o arian gewch chi

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol, efallai y gallwch gael cyfandaliad a delir unwaith yn unig yn lle hynny. Bydd hyn yn ychwanegol i’ch Pensiwn y Wladwriaeth arferol. Rhaid i’r 12 mis yn olynol fod wedi digwydd ar ôl 5 Ebrill 2005.

Wrth hawlio eich taliad, bydd yn seiliedig ar y Pensiwn y Wladwriaeth y byddech wedi'i gael bob wythnos yn arferol, yn ogystal â'r adlog ychwanegol ar gyfer pob wythnos.

Hawlio budd-daliadau eraill

Os byddwch yn dewis cyfandaliad a’ch bod yn hawlio Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor, ni fydd hyn yn effeithio arnynt.

Os ydych chi wedi gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, yna ni fydd rhai diwrnodau yn cyfri tuag at unrhyw gyfandaliad, er enghraifft:

  • os ydych chi’n cael budd-daliadau eraill
  • os bydd rhywun yn cael cynnydd mewn dibyniaeth yn unrhyw un o’r budd-daliadau hyn ar eich rhan

Bydd hyn ond yn berthnasol os ydych chi’n byw gyda’r unigolyn sy’n cael y cynnydd mewn dibyniaeth, oni bai ei bod nhw’n ŵr neu’n wraig i chi.

Dyma rai o'r budd-daliadau hynny:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Atodiad i’r Anghyflogadwy
  • unrhyw fath o Bensiwn y Wladwriaeth

O fis Ebrill 2011 ymlaen, ni fydd unrhyw ddiwrnodau y byddwch chi neu’ch partner yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol yn cyfri tuag at unrhyw gyfandaliad:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

Ni fyddwch chi’n cronni cyfandaliad am unrhyw ddiwrnodau y byddwch chi yn y carchar.

Bydd y diwrnodau y cewch chi Fudd-dal Ymddeol Graddedig neu Bensiwn Ychwanegol a Rennir yn cyfri tuag at gyfandaliad.

Treth a chredydau treth

Treth

Codir treth ar eich cyfandaliad ar y gyfradd dreth uchaf sy’n berthnasol i’ch incwm arall. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd y cyfandaliad yn eich gwneud yn gymwys i’r band treth cyfradd uwch.

Er enghraifft, codir treth o 20 y cant ar eich cyfandaliad os mai’r gyfradd dreth uchaf i’ch incwm arall yw 20 y cant. Gwneir hyn yn hytrach na’i gyfrif gyda’ch incwm arall a allai olygu mynd â chi i’r band treth 40 y cant.

Os byddwch yn dewis cyfandaliad, gofynnir i chi lenwi datganiad syml. Bydd hyn yn sicrhau y gellir tynnu treth oddi ar eich taliad cyn y caiff ei dalu i chi. Mae’r swyddfa dreth yn gwirio’r swm ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Byddant yn ad-dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi os byddwch wedi talu gormod neu’n gofyn i chi dalu’r gwahaniaeth os na fyddwch wedi talu digon.

Gallwch ddewis cymryd y cyfandaliad pan fyddwch yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth neu yn y flwyddyn dreth ganlynol. Mae hyn yn debygol o helpu os bydd eich incwm yn gostwng ar ôl i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft gan nad ydych yn gweithio bellach.

Bydd yr effeithiau treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol. Cysylltwch â’ch swyddfa dreth os oes gennych ymholiadau penodol ynghylch treth.

Credydau treth

Gall cyfandaliad gyfrif fel taliad o incwm at ddibenion Credydau Treth.

Gall hyn ddigwydd pan fyddwch yn cael Credydau Treth ar gyfer yr un flwyddyn dreth ag y byddwch yn cychwyn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ac yn dewis cyfandaliad.

Gallwch ofyn am ohirio cyfandaliad tan ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf os dymunwch.

Os nad ydych yn cael Credydau Treth yn y flwyddyn ddiweddarach honno, ni fydd yn effeithio ar eich hawl i gael Credydau Treth.

Etifeddiaeth

Efallai y bydd eich gweddw neu’ch partner sifil yn cael ychwanegu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth at ei Bensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi farw. Gallai hyn ddigwydd os oeddech chi eisoes wedi hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dewis Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth cyn eich marwolaeth.

Os hawlioch eich Pensiwn y Wladwriaeth, dewisoch gyfandaliad ac yna marw, bydd unrhyw swm sydd gennych ar ôl yn ffurfio rhan o’ch ystâd yn y ffordd arferol.

Cyn 2010

Tan fis Ebrill 2010, roedd rhaid i weddwon a phartneriaid sifil gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth i fod â hawl i’r cyfandaliad.

Faint allwch chi ei etifeddu?

Bydd swm y cyfandaliad a fydd yn daladwy i weddw neu bartner sifil yn seiliedig ar y canlynol:

  • cyfanswm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yr ymadawedig
  • rhwng 50 a 100 y cant o unrhyw Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a fyddai wedi cael ei dalu i’r ymadawedig (gan ddibynnu ar y dyddiad y cyrhaeddodd yr ymadawedig oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu'r dyddiad y byddai wedi gwneud hynny)

Os ydych chi’n wraig weddw a gollodd ei gŵr tra roeddech chi’n dal o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd modd i chi gael cyfandaliad ar sail cyfraniadau eich diweddar ŵr os byddwch chi'n ailbriodi cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi’n wraig weddw ac yn colli eich gŵr tri rydych chi’n dal o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dim ond o dan amgylchiadau penodol y byddwch chi’n cael cyfraniadau eich gŵr. Ni fyddwch chi’n cael cyfandaliad ar sail cyfraniadau eich diweddar ŵr os byddwch chi'n ailbriodi cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Bydd rheolau tebyg yn berthnasol i wŷr gweddw a phartneriaid sifil sy’n goroesi o fis Ebrill 2010 ymlaen.

Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Os byddwch chi’n gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi hawlio Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn lle cyfandaliad.

Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU