Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynilo ar gyfer eich ymddeoliad

Fwy na thebyg y byddwch wedi ymddeol am ugain mlynedd. Mae pensiwn y gweithle yn ffordd hawdd o ddechrau cynilo ar gyfer y cyfnod hwn. Mae sawl ffordd o gynyddu eich incwm ar gyfer eich bywyd yn y dyfodol. Cymerwch y camau syml hyn i weld sut y gall eich blociau cynilo gronni.

Cam un - mynnwch wybod faint y byddwch yn ei gael o Bensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn un math o bensiwn. Mae'n incwm rheolaidd y gallwch ei dderbyn gan y llywodraeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth yn 2012/13 yw £107.45 yr wythnos i berson sengl. Mynnwch ragor o wybodaeth am faint y gallech ei gael a phryd.

Cam dau - cyfrifwch faint o arian yr hoffech ei gael o bosibl yn ystod eich ymddeoliad

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn sail ar gyfer eich ymddeoliad. Os byddwch am gael rhagor o incwm yn y dyfodol, bydd angen i chi gynilo mwy yn ystod eich bywyd gwaith. Defnyddiwch yr adnodd waled ar gyfer y dyfodol i gael syniad o ba arian y gallai fod ei angen arnoch pan fyddwch yn ymddeol.

Cam tri - gofynnwch pryd y cewch eich cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gwaith

Yn dechrau o fis Hydref 2012, caiff miliynau o weithwyr eu cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gwaith. Mae'n ffordd hawdd o ddechrau cynilo. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn cyfrannu. A bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth. Mynnwch ragor o wybodaeth er mwyn gweld pa un a gewch eich cofrestru.

Cam pedwar - ystyriwch bensiwn personol

Os nad ydych yn cael eich cofrestru ar gyfer pensiwn yn y gwaith, mae pensiynau eraill y gallwch eu trefnu eich hunain ar unrhyw adeg.

Yn eu plith, mae pensiwn personol. Unwaith y byddwch wedi trefnu pensiwn o'r fath, gallwch reoli faint o arian rydych yn cyfrannu ato. Bydd y llywodraeth hefyd yn ychwanegu arian ato ar ffurf rhyddhad treth.

Cam pump - ystyriwch ffyrdd eraill o gynilo

Mae ffyrdd eraill o gynilo ar gyfer ymddeoliad. Mae llawer o bobl yn dewis cyfrifon cynilo, ISAs a mathau eraill o fuddsoddiadau.

Maent oll yn flociau adeiladu y gallwch eu defnyddio i ariannu eich ymddeoliad.

Nesáu at ymddeoliad

Hyd yn oed os byddwch yn ymddeol cyn bo hir, mae'n bosibl y bydd mwy o opsiynau ar gael nag y byddech yn ei ddisgwyl.

Os credwch nad oes gennych hawl i Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth o bosibl, mae'n werth ystyried a allwch ychwanegu ato. Gallwch wneud hyn drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Mae'n bosibl y gallech gynyddu eich incwm ymddeol drwy weithio ychydig yn hwy neu drwy ohirio'r dyddiad y byddwch yn dechrau hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth - neu'r ddau. Cofiwch nad oes oedran ymddeol penodedig yn y DU.

Edrychwch ar unrhyw hen bensiynau gwaith neu bersonol a allai fod gennych. Bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn eich helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt.

Pan fyddwch yn barod i hawlio unrhyw bensiwn personol a allai fod gennych, gallech gael gwell cynnig drwy ystyried gwahanol opsiynau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU