Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae p’un a gewch eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gwaith yn dibynnu ar eich oedran a faint rydych yn ei ennill. Mae'r enghreifftiau canlynol yn esbonio sut mae eich oedran yn effeithio ar eich pensiwn yn y gwaith.
Nid ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr, rydych yn ennill mwy na £8,105 y flwyddyn, rydych yn 22 oed neu drosodd ond o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Cewch eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle gan eich cyflogwr. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn cyfrannu ato. Byddwch hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth.
Nid ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr, rydych yn ennill £5,564 neu lai y flwyddyn, rydych yn 16 oed neu drosodd ond o dan 75 oed
Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer ei bensiwn y gweithle. Ond mae gennych yr hawl i ofyn iddo eich cofrestru ar gyfer pensiwn os hoffech wneud hynny. Nid oes rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu ato ond gall ddewis gwneud hynny. Gallech hefyd gael rhywfaint o ryddhad treth gan y llywodraeth - cadarnhewch hyn gyda phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.
Nid ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr, rydych yn ennill mwy na £5,564 a hyd at £8,105 y flwyddyn, rydych yn 16 oed neu drosodd ond o dan 75 oed
Ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer ei bensiwn y gweithle. Ond mae gennych yr hawl i ymuno â'r pensiwn os hoffech wneud hynny. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn cyfrannu ato. Gallech hefyd gael rhywfaint o ryddhad treth gan y llywodraeth - cadarnhewch hyn gyda phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.
Nid ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr, rydych yn ennill mwy na £8,105 y flwyddyn ond rydych yn iau na 22 oed
Os byddwch rhwng 16 a 21 oed, ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer ei bensiwn y gweithle. Ond mae gennych yr hawl i ymuno os hoffech wneud hynny. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn cyfrannu ato. Byddech hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth.
Nid ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr, rydych yn ennill mwy na £8,105 y flwyddyn ond rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu'n hŷn
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond rydych o dan 75 oed, ni fydd eich cyflogwr yn eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer ei bensiwn y gweithle. Ond mae gennych yr hawl i ymuno os hoffech wneud hynny. Byddwch chi a'ch cyflogwr yn cyfrannu ato. Gallech hefyd gael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf rhyddhad treth.
Rydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr
Ni fyddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle eich cyflogwr, am eich bod eisoes yn rhan ohono. Mae hyn ar yr amod bod pensiwn y gweithle yn cyrraedd safonau newydd y llywodraeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch cyflogwr neu â phwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn.
Os bydd eich incwm yn amrywio yn ystod y flwyddyn
Os byddwch fel arfer yn ennill llai na £8,105 y flwyddyn (sef £156 yr wythnos neu £676 y mis), ni fyddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle. Fodd bynnag, os ydych yn cael enillion ychwanegol (er enghraifft goramser â thâl) sy'n golygu y bydd eich cyflog mewn un pecyn cyflog yn fwy na hyn, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle.
Rydych yn hunangyflogedig neu'n 'gyfarwyddwr un person'
Nid oes rhaid i chi gofrestru'ch hun ar gyfer pensiwn y gweithle. Fodd bynnag, mae'n syniad da meddwl am yr incwm y bydd gennych i fyw arno pan fyddwch yn ymddeol. Efallai yr hoffech roi rhai cynlluniau ar waith ar gyfer cyfnod yn ddiweddarach yn eich bywyd, fel dechrau pensiwn personol, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Gallech ddewis pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid sydd ar gael gan amrywiaeth o ddarparwyr pensiwn. Fel arall efallai y byddwch am ystyried defnyddio'r Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol (NEST). Mae NEST hon yn gynllun pensiwn y gweithle sy'n seiliedig ar ymddiriedolaeth a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion y rhan fwyaf o bobl.
Dylech ystyried gofyn am gyngor ariannol annibynnol. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor ar Arian neu'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.
Rydych yn 'gyfarwyddwr un person' os mai chi yw cyfarwyddwr cwmni a'r unig weithiwr yn y cwmni hwnnw.
Os ydych yn ennill mwy na £8,105.00 y flwyddyn (dim ond un ceiniog yn fwy hyd yn oed) ac rydych yn bodloni'r meini prawf eraill, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer ei bensiwn y gweithle.
Os ydych yn ennill mwy na £5,564.00 y flwyddyn (dim ond un ceiniog yn fwy hyd yn oed) a'ch bod yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle, mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu ato. Os ydych yn ennill £5,564.00 neu lai y flwyddyn, nid oes yn rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu, ond gall ddewis gwneud hynny.
Nodwch y gall y ffigur enillion a restrir uchod (£8,105 y flwyddyn a £5,564 y flwyddyn) newid bob mis Ebrill. Os bydd yn newid, caiff y dudalen hon ei diweddaru. Mae'r ffigurau enillion hyn yn berthnasol ni waeth pa mor rheolaidd y cewch eich talu, er enghraifft, yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol neu bob pedair wythnos.