Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi’n ymddeol, fel arfer bydd eich incwm yn llai na phan oeddech yn gweithio. Er mwyn eich helpu i ymdopi, efallai y cewch rai budd-daliadau a chymorth ariannol yn ychwanegol at Bensiwn y Wladwriaeth. Rhoddir rhai budd-daliadau ar sail oed, bydd rhai eraill yn dibynnu ar eich prawf incwm.
Mae'n bosib bod gan unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd Ei Mawrhydi, gan gynnwys gwragedd a gwŷr gweddw a'u dibynyddion, hawl i gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys pensiynau, iechyd, gwaith a thaliadau eraill.
Os ydych chi'n bensiynwr sy’n byw ym Mhrydain Fawr, mae'n bosib bod gennych hawl i Gredyd Pensiwn ar ben eich incwm. Mae dwy ran i'r pensiwn – yr elfen 'Credyd Gwarant' a'r elfen 'Credyd Cynilion' (a all fod ar gael pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed).
Mae’r oedran ar gyfer gallu hawlio’r Credyd Gwarant yn codi’n raddol yn unol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod. I gael gwybod pryd y gallwch chi wneud cais am Gredyd Pensiwn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. I gael gwybod mwy, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.
Mae gan blant y mae eu rhieni, eu gofalwyr neu’u gwarcheidwaid yn cael elfen credyd gwarant y Credyd Pensiwn, hawl i gael llaeth neu brydau ysgol am ddim. Rhaid i adran addysg eich awdurdod lleol ddarparu prydau ysgol am ddim i fyfyrwyr sy'n gymwys, os gwneir cais.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer i'ch helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol pan fydd y tywydd yn oer iawn. Gwneir y taliadau'n awtomatig – does dim angen i chi hawlio.
Efallai y cewch chi Daliad Tanwydd Gaeaf i helpu gyda biliau tanwydd. Mae’n rhaid i chi fod wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso erbyn diwedd trydedd wythnos mis Medi. Mae’r oedran ar gyfer cael y Taliad Tanwydd Gaeaf - yr oedran cymhwyso - yn codi’n unol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod.
I gael gwybod pryd y gallwch chi wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf, defnyddiwch gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Fel arfer, telir y budd-dal di-dreth blynyddol hwn o fis Tachwedd ymlaen – a chaiff y rhan fwyaf o'r taliadau eu gwneud erbyn y Nadolig.
Mae'r Gronfa Gymdeithasol yn darparu taliadau un-tro a benthyciadau di-log i helpu gyda threuliau mewn rhai sefyllfaoedd.
Benthyciadau di-log yw'r Benthyciadau Argyfwng os oes angen cymorth ariannol arnoch chi mewn argyfwng neu drychineb.
Mae'n bosib y gallech chi fod yn gymwys i gael Grant Gofal yn y Gymuned os oes angen help ariannol arnoch i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi a'ch teulu. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Mae'n bosib y darperir Benthyciadau Cyllidebu i helpu pobl ar incwm isel i dalu am bethau megis dodrefn, dillad a theithio.
Taliadau Angladd
Os oes angen help ariannol arnoch i dalu am angladd rydych chi'n ei drefnu, mae'n bosibl y gallwch gael Taliad Angladd untro. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw.
Os ydych ar eich colled o ran eich pensiwn neu os na fydd eich cwmni'n gallu ariannu ei gynllun pensiwn, efallai fod ffordd o gael mynediad at eich pensiwn.