Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Mae'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn helpu rhai pobl sy'n agored i niwed gyda'u costau ynni. Mynnwch wybod am yr help a fydd ar gael yn ystod gaeaf 2012/2013.

Pwy all gael y gostyngiad hwn yn 2012/2013

Cwsmeriaid Credyd Pensiwn a gaiff eu hystyried yn awtomatig i gael y gostyngiad

Efallai y byddwch yn gymwys i gael y gostyngiad ynni hwn o £130 os ydych, ar 21 Gorffennaf 2012 (y dyddiad cymhwyso), naill ai:

  • o dan 80 oed a dim ond yn cael elfen Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn (dim Credyd Cynilion)
  • yn 80 oed neu'n hŷn a'ch bod yn cael elfen Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych yn cael Credyd Cynilion hefyd)

Ac mae pob un o'r canlynol yn gymwys:

  • mae eich bil trydan yn nodi eich enw chi, enw eich partner neu enw eich penodai
  • mae eich cyfrif trydan gydag un o'r cyflenwyr ynni sy'n rhan o'r cynllun hwn - gweler 'Cyflenwyr ynni sy'n rhan o'r cynllun hwn' isod

Os ydych yn bodloni'r amodau uchod nid oes angen i chi wneud unrhyw beth am y tro er mwyn cael eich gostyngiad yn 2012/2013.

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y gostyngiad uchod, mae’n bosib y byddwch yn gymwys am elfennau eraill o’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi cynnes. Gweler ‘A all pobl eraill gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes’ isod.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd y Llywodraeth yn ysgrifennu at bob un a allai fod yn gymwys i gael gostyngiad yn ystod gaeaf 2012/2013, yn dweud wrthych os oes angen i chi gymryd camau pellach. Os byddwch yn derbyn llythyr yn gofyn i chi ffonio’r llinell gymorth i gadarnhau os allech dderbyn y gostyngiad, mae’n rhaid i chi ffonio cyn 13 Mawrth 2013. Os na fyddwch yn ffonio, ni fyddwch yn gallu derbyn y gostyngiad.

Faint y gallwch ei gael

Os byddwch yn gymwys, cewch £130 tuag at eich bil trydan yn ystod gaeaf 2012/13.

Pryd y cewch eich gostyngiad

Caiff gostyngiadau ynni ar gyfer 2012/2013 eu gwneud yn ystod misoedd y gaeaf. Os byddwch yn gymwys, cewch lythyr yn cadarnhau hyn. Os credwch eich bod yn gymwys ond nad ydych wedi cael llythyr am y cynllun erbyn mis Chwefror 2013, ffoniwch Linell Gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Ffoniwch 0845 603 9439 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm).

Sut mae'r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn gweithio

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a chyflenwyr trydan sy'n rhan o'r cynllun yn rhannu rhywfaint o wybodaeth gyfyngedig am eu cwsmeriaid. Mae hyn yn galluogi cyflenwyr trydan sy'n rhan o'r cynllun i roi'r gostyngiad ynni yn awtomatig i gwsmeriaid sy'n gymwys.

Bydd y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gael am bedair blynedd o aeaf 2011/2012.

Caiff ad-daliadau eu talu a'u hariannu gan gyflenwyr trydan sy'n rhan o'r cynllun.

Cyflenwyr ynni sy'n rhan o'r cynllun

Dyma'r cyflenwyr trydan sy'n rhan o'r cynllun hwn: Atlantic, EDF Energy, E.ON, Equipower, Equigas, Manweb, M&S Energy, npower, Nwy Prydain, Sainsbury's Energy, Scottish Gas, Scottish Hydro, ScottishPower, Southern Electric, SSE, Swalec ac Utility Warehouse.

Taliad Tywydd Oer a Thaliad Tanwydd Gaeaf

Ni fydd y gostyngiadau a delir o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn effeithio ar unrhyw Daliad Tywydd Oer neu Daliad Tanwydd Gaeaf y gallwch eu cael.

Rhagor o help

Nid oes angen i chi ffonio am y tro i gael eich gostyngiad.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynglŷn â'r cynllun, ffoniwch Linell Gymorth y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Ffoniwch 0845 603 9439 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm).

A all pobl eraill gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes?

Efallai y bydd cyflenwyr ynni hefyd yn rhoi gostyngiad o £130 i rai cwsmeriaid mewn grwpiau agored i niwed (sef y grŵp ehangach). Mae gan bob cyflenwr trydan feini prawf cymhwysedd gwahanol y bydd yn eu defnyddio i benderfynu pwy all gael y gostyngiad. Gweler 'Cymorth ariannol gan gyflenwyr ynni' am ragor o wybodaeth

Additional links

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am Daliad Tywydd Oer

Cymorth gwresogi ac insiwleiddio

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol gallech fod yn gymwys i gael cymorth i wresogi ac insiwleiddio eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU