Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliad Tanwydd Gaeaf - rydych wedi'i gael o'r blaen

Dim ond os ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen y mae'r wybodaeth ganlynol yn berthnasol. Mynnwch wybod faint y gallwch ei gael, pryd y cewch eich talu a beth i'w wneud os bydd newid yn eich sefyllfa.

Nid oes angen i chi wneud cais

Os cawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf y llynedd a'ch bod yn gymwys o hyd, dylech gael eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig eleni. Nid oes angen i chi wneud cais eto.

Ond, os yw eich sefyllfa wedi newid, efallai y bydd angen i chi weithredu. Gweler 'Taliad Tanwydd Gaeaf - beth i'w wneud os bydd newid yn eich sefyllfa' am fwy o wybodaeth.

Faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu

Mae faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y gallwch ei gael ar gyfer gaeaf 2012/13 yn amrywio yn ôl eich sefyllfa bersonol. Mynnwch wybod pryd y cewch eich talu a faint y gallwch ei gael.

Sut y cewch eich talu

Cewch eich talu yn yr un ffordd â phan wnaethoch gais yn wreiddiol am Daliad Tanwydd Gaeaf neu pan wnaethoch ddechrau ei gael yn awtomatig. Caiff hwn ei dalu i'ch cyfrif banc dynodedig.

Os cawsoch daliad hwyr y llynedd

Os nad oes unrhyw newidiadau i'ch manylion, dylech gael eich talu cyn y Nadolig eleni. Dylech gael eich talu cyn y Nadolig hyd yn oed os cawsoch daliad hwyr y llynedd drwy siec neu i mewn i'ch cyfrif banc.

Beth i'w wneud os yw eich sefyllfa wedi newid

Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei wneud a phwy i gysylltu â nhw os yw eich sefyllfa wedi newid.

Beth i'w wneud os ydych yn credu bod eich taliad yn anghywir

Caiff taliadau eu gwneud ar gyfer y cartref fel arfer. Gall y swm a gewch newid:

  • os bydd rhywun yn eich cartref yn gymwys am y tro cyntaf eleni
  • os oes rhywun sy'n gymwys wedi symud i mewn neu allan o'ch cartref

Gallwch gadarnhau symiau'r taliad yn 'Taliad Tanwydd Gaeaf - faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu’.

Pwy i gysylltu â nhw

Os ydych eisoes yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf, yna bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa sy'n gwneud eich taliadau fel arfer.

Bydd y manylion cyswllt ar unrhyw ohebiaeth rydych wedi'i chael ynghylch y Taliad Tanwydd Gaeaf.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.

Apelio

Os byddwch yn apelio mewn perthynas â'ch Taliad Tanwydd Gaeaf, defnyddiwch y ffurflen ganlynol.

Nid ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen

Os nad ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen, yna nid yw'r dudalen hon yn berthnasol i chi. Gweler y dudalen ganlynol.

Additional links

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am Daliad Tywydd Oer

Cymorth gwresogi ac insiwleiddio

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol gallech fod yn gymwys i gael cymorth i wresogi ac insiwleiddio eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU