Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliad Tanwydd Gaeaf - nid ydych wedi'i gael o'r blaen

Mae'r wybodaeth ganlynol ond yn berthnasol os nad ydych erioed wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen. Mynnwch wybod a allwch ei hawlio, sut mae ei hawlio a faint y gallwch ei gael. Mae gwybodaeth hefyd am beth i'w wneud os oes newid yn eich sefyllfa.

Pwy all ei gael

Efallai y cewch Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2012/13 os yw'r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cyrraedd yr oedran cymwys (wedi'ch geni ar neu cyn 5 Gorffennaf 1951)
  • rydych yn byw ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon fel arfer ar unrhyw ddiwrnod yn ystod yr wythnos 17-23 Medi 2012

Mewn rhai amgylchiadau gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn byw mewn gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir.

Ond ni fyddwch yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os yw un o'r pwyntiau canlynol yn berthnasol, yn ystod yr wythnos 17-23 Medi 2012:

  • roeddech yn yr ysbyty am fwy na 52 wythnos yn flaenorol, yn cael triniaeth am ddim fel claf mewnol
  • roeddech yn y carchar yn bwrw dedfryd llys
  • roeddech yn destun rheolaeth fewnfudo ac nid oeddech yn gymwys i gael help gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • roeddech yn byw mewn cartref gofal, ysbyty annibynnol neu Gartref Adsefydlu Pwylaidd Ilford Park (ac wedi bod yno am y 12 wythnos flaenorol neu fwy), ac roeddech yn cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm

Sut y cewch eich talu

Caiff Taliad Tanwydd Gaeaf ei dalu ar gyfer y cartref.

Cewch eich talu'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc neu drwy siec yn dibynnu ar eich dewis ffordd o dalu.

Sut y cewch eich talu os cewch fudd-daliadau

Cewch eich Taliad Tanwydd Gaeaf yr un ffordd ag a gewch eich Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal fel arfer. Ar wahân i Fudd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant, bydd un taliad ar gyfer y ddau ohonoch os ydych yn gwpl a bod y ddau ohonoch yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm

Os yw eich partner yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau uchod ar gyfer y ddau ohonoch, eich partner fydd yn cael y swm cyfan ar gyfer y ddau ohonoch.

Faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu

Mae faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y gallwch ei gael ar gyfer gaeaf 2012/13 yn amrywio yn ôl eich sefyllfa bersonol. Mynnwch wybod faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu.

Cymhwyso ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf yn y dyfodol

Os nad ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto, mae'r tabl canlynol yn egluro pryd y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf.

Dyddiadau cymhwyso ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf

Gaeaf Mae'n rhaid i chi gael eich geni ar neu cyn y dyddiad hwn i fod yn gymwys
2012/13 5 Gorffennaf 1951
2013/14 5 Ionawr 1952
2014/15 5 Gorffennaf 1952

Pwy nad oes angen ei hawlio

Os cewch Bensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau penodol eraill, cewch eich talu'n awtomatig felly nid oes angen i chi ei hawlio.

Nid oes angen i chi ei hawlio os ydych yn gymwys ac yn cael o leiaf un o'r canlynol (yn ystod yr wythnos 17-23 Medi 2012):

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Budd-dal Ymddeol Graddedig
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Pensiwn Rhyfel
  • Budd-dal Gwraig Weddw

Os ydych yn byw mewn gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir efallai y bydd angen i chi wneud hawliad – gweler ‘Sut mae hawlio o dramor’.

Ni fydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill ac ni fydd angen i chi dalu Dreth Incwm arno.

Pwy sydd angen ei hawlio

Bydd angen i chi hawlio eich Taliad Tanwydd Gaeaf os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn gymwys
  • nid ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau uchod yn ‘Pwy nad oes angen ei hawlio’
  • rydych yn cael Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant yn unig

Bydd angen i chi ei hawlio os ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen ond bod eich amgylchiadau wedi newid. Er enghraifft, nid ydych mwyach yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau uchod yn ‘Pwy nad oes angen ei hawlio' neu'ch bod wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Bydd angen i chi ei hawlio hyd yn oed os yw eich partner eisoes yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer eich cartref.

Os ydych yn byw mewn gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir ac nad ydych yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf, bydd angen i chi wneud hawliad. Bydd ffurflen hawlio ar gael o fis Awst gan y Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol neu gallwch ei lawrlwytho o’r ddolen ganlynol.

Sut i'w hawlio o’r DU

I wneud cais am y Taliad Tanwydd Gaeaf gallwch lawrlwytho’r ffurflen hawlio o’r ddolen ganlynol:

Ble mae angen i chi anfon y ffurflen

Mae angen dychwelyd y ffurflenni wedi'u cwblhau i:

Winter Fuel Payment Team
Department for Work and Pensions
PO Box 10142
Annesley
Nottingham
NG15 5WY

Cael ffurflen drwy’r post

Os na allwch lawrlwytho’r ffurflen ar-lein, gallwch gael ffurflen hawlio drwy’r post. Ffoniwch y Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf ar 0845 9 15 15 15.

Beth sy'n digwydd nesaf

Os bydd eich hawliad yn llwyddiannus a'n bod yn cael eich ffurflen hawlio cyn 21 Medi 2012, dylech gael eich talu cyn y Nadolig.

Os byddwch wedi cwblhau eich ffurflen hawlio yn gywir, a'ch bod wedi darparu unrhyw ddogfennau angenrheidiol, fel eich tystysgrif geni, cewch lythyr yn cydnabod hynny.

Bydd rhywun yn cysylltu â chi os nad ydych wedi llenwi'r ffurflen yn gywir neu os bydd angen mwy o wybodaeth.

Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen yn llawn ac yn darparu'r holl wybodaeth ofynnol, efallai na chewch eich taliad cyn y Nadolig.

Caiff y rhan fwyaf o'r taliadau eu talu rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Yna, cewch lythyr arall yn rhoi gwybod i chi faint a gewch a phryd y mae hwn yn debygol o gael ei dalu.

Caiff unrhyw hawliadau a wneir ar ôl 21 Medi eu talu yn 2013.

Sut mae hawlio o dramor

Os ydych yn byw mewn gwlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir neu wedi symud i fyw yno a hoffech hawlio, bydd y Tîm Tanwydd Gaeaf yn y Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol yn eich cynghori ar sut mae hawlio.

Ni fyddwch yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf os byddwch yn symud i wlad arall (tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir).

Hawlio ar gyfer gaeafau blaenorol

Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio Taliadau Tanwydd Gaeaf ar gyfer y blynyddoedd 1997/98 i 1999/2000.

Cyflwynwyd terfynau amser ar gyfer hawliadau o 2000/01 ymlaen. Mae hyn yn golygu na wneir taliadau ar gyfer hawliadau hwyr ar gyfer unrhyw aeaf o 2000/01 ymlaen.

Roedd angen i hawliadau ar gyfer y gaeafau hyn gael eu derbyn erbyn 31 Mawrth ar gyfer y gaeaf perthnasol. Er enghraifft, mae angen derbyn hawliad ar gyfer gaeaf 2012/13 erbyn 31 Mawrth 2013.

Argraffwch y ffurflen hawlio hon a'i chwblhau mewn inc du.

Ble mae angen i chi anfon y ffurflen

Mae angen dychwelyd y ffurflenni wedi'u cwblhau i:

Winter Fuel Payment Centre
Department for Work and Pensions
PO Box 22
Gateshead
NE92 1BX

Beth i'w wneud os ydych yn credu bod eich taliad yn anghywir

Darllenwch y wybodaeth am y taliad yn 'Taliad Tanwydd Gaeaf - faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu’.

Gyda phwy y dylech gysylltu os yw eich taliad yn anghywir

Os ydych yn hawlio am y tro cyntaf a bod y wybodaeth yn eich ffurflen hawlio yn anghywir bellach, bydd angen i chi roi gwybod am hynny. Bydd angen i chi gysylltu â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.

Rydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen

Os ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o'r blaen, nid yw'r dudalen hon yn berthnasol i chi. Gweler y dudalen ganlynol.

Additional links

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am Daliad Tywydd Oer

Cymorth gwresogi ac insiwleiddio

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol gallech fod yn gymwys i gael cymorth i wresogi ac insiwleiddio eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU