Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliad Tanwydd Gaeaf - faint y gallwch ei gael a phryd y cewch eich talu

Gall faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y gallwch ei gael bob gaeaf amrywio yn ôl eich sefyllfa bersonol. Mynnwch wybod pryd y cewch eich talu a faint y gallwch ei gael.

Faint y gallwch ei gael

Dyma'r Taliadau Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2012/13 wedi'u rhestru yn ôl eich sefyllfa bersonol.

Sefyllfa Fe'ch ganwyd ar neu cyn 5 Gorffennaf 1951 Rydych yn 80 oed neu'n hŷn ar neu cyn 23 Medi 2012
Rydych yn byw ar eich pen eich hun £200 £300
Chi yw'r unig berson yn y cartref sy'n gymwys i'w gael £200 £300
Rydych yn byw gydag unigolyn arall sy'n gymwys i'w gael sydd o dan 80 oed £100 £200
Rydych yn byw gydag unigolyn arall sy'n gymwys i'w gael sy'n 80 oed neu'n hŷn £100 £150
Rydych yn cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm.
Taliad cyfradd lawn yw hwn p'un a oes pobl gymwys eraill yn y cartref ai peidio.
£200 £300

Rydych yn cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm. Ac rydych yn byw gyda rhywun arall yn y cartref sy'n gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf.


Os oes rhywun arall yn y cartref yn gymwys i'w gael, ond nad yw'n cael y budd-daliadau uchod, ac nad eich partner/partner sifil ydyw, bydd yn cael taliad a rennir.

£200 £300

Rydych yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf ac yn byw gyda rhywun sy'n cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm.

Os mai eich partner/partner sifil ydyw, bydd yn cael y taliad ar eich rhan.

£0 £0
Rydych yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf ac yn byw gyda rhywun sy'n cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm.
Os nad eich partner/partner sifil ydyw, byddwch yn cael taliad a rennir.

£100

£150

Os yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw mewn cartref gofal, ysbyty annibynnol neu Gartref Adsefydlu Pwyleg Ilford Park (ac wedi bod yn byw yno ers 12 wythnos neu fwy cyn yr wythnos gymhwyso)
  • nid ydych yn cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
£100 £150

Os yw'r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw mewn cartref gofal, ysbyty annibynnol neu Gartref Adsefydlu Pwyleg Ilford Park (ac wedi bod yn byw yno ers 12 wythnos neu fwy cyn yr wythnos gymhwyso)
  • rydych yn cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
Nid ydych yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf Nid ydych yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf

Pryd y cewch eich talu

Caiff y rhan fwyaf o daliadau eu gwneud rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2012. Caiff dros ddeuddeg miliwn o daliadau eu gwneud yn ystod y cyfnod hwn. Nid yw'n bosibl bod yn fwy manwl ynghylch pryd y byddwch yn cael eich Taliad Tanwydd Gaeaf. Byddwch yn cael llythyr hysbysu a bydd hwn yn rhoi dyddiad talu amcangyfrifedig mwy penodol i chi.

Oherwydd y ffordd y caiff taliadau eu gwneud, gallech gael eich taliad ar adeg wahanol i rywun yn eich cartref neu rywun sy'n byw'n agos atoch.

Peidiwch â chysylltu â'r llywodraeth ynghylch pryd y byddwch yn cael eich taliad - oni bai na fyddwch wedi ei gael erbyn mis Ionawr 2013.

Additional links

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am Daliad Tywydd Oer

Cymorth gwresogi ac insiwleiddio

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol gallech fod yn gymwys i gael cymorth i wresogi ac insiwleiddio eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU