Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

'Gwaith a Ganiateir' - gweithio a chithau'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd

Gallwch wneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau wrth hawlio Budd-dal Analluogrwydd. Ceir rhai rheolau am waith y gallwch ei wneud a’r oriau y gallwch weithio. Mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm ar eich enillion.

Amdano Gwaith a Ganiateir

Fel arfer, chewch chi ddim gweithio wrth hawlio Lwfans Analluogrwydd. Efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith, ac o fewn terfynau penodol. Gelwir hyn yn ‘Waith a Ganiateir’ ac mae’n fodd i chi brofi eich gallu eich hun i wneud rhywfaint o waith, a dysgu sgiliau newydd o bosibl.

Nid oes arnoch angen caniatâd i wneud Gwaith a Ganiateir, ond mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod y gwaith yr ydych eisiau ei wneud yn cael ei ganiatáu o dan y rheolau . Dylech drafod hyn gyda’ch ymgynghorydd personol.

Nid oes rhaid cael cymeradwyaeth eich meddyg na phrawf meddygol dim ond am eich bod yn gwneud gwaith a ganiateir. Os ydych i fod i gael prawf meddygol fel rhan o'r adolygiad sy'n ymwneud â'ch budd-daliadau, bydd yn dal i gael ei gynnal.

Mae Gwaith a Ganiateir yn drefniant budd-dal – nid yw cyflogwyr yn cynnig ‘gwaith a ganiateir’.

Mae’r rheolau ‘Gwaith a Ganiateir’ hefyd yn gymwys i bobl sy’n derbyn Lwfans Anabledd Difrifol. Cafodd y budd-dal hwn ei ddiddymu o 6 Ebrill 2001. Gall y bobl a oedd yn ei dderbyn cyn y dyddiad hwnna barhau i’w dderbyn, ar yr amod eu bod yn bodloni’r amodau cymhwysedd.

Rheolau’r Gwaith a Ganiateir

O dan reolau’r Gwaith a Ganiateir, gallwch:

  • weithio am lai na 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, am gyflog o hyd at a chan gynnwys £97.50 yr wythnos am gyfnod o 52 wythnos
  • weithio am lai na 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd, ac ennill hyd at a chan gynnwys £97.50 yr wythnos cyhyd ag yr ystyrir bod eich salwch neu'ch anabledd yn ddigon difrifol i chi gwrdd â'r trothwy analluedd heb gael asesiad meddygol
  • weithio am gyflog o hyd at a chan gynnwys £20.00 yr wythnos am gyfnod amhenodol, cyhyd ag eich bod yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd
  • gwneud Gwaith a Ganiateir â Chymorth ac ennill hyd at a chan gynnwys £97.50 yr wythnos cyhyd ag eich bod yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd

Mae Gwaith a Ganiateir gyda Chymorth yn golygu gwaith a oruchwylir gan rywun a gyflogir gan gyngor cyhoeddus neu leol, neu fudiad gwirfoddol sydd â'r rôl o drefnu gwaith i bobl anabl. Gall hwn gynnwys gwaith a wneir yn y gymuned neu mewn gweithdy cysgodol. Mae hefyd yn cynnwys gwaith dan oruchwyliaeth feddygol fel rhan o raglen driniaeth mewn ysbyty.

Treth Incwm

Os byddwch yn dechrau mewn gwaith a ganiateir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich incwm ychwanegol. Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Mae rheolau i’w cael os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor ac yn gwneud Gwaith a Ganiateir Efallai y bydd unrhyw enillion dros £20 yn cael eu hystyried wrth asesu’r budd-daliadau hyn.

Cael gwybod mwy am Waith a Ganiateir

Bydd eich cynghorydd personol neu Gynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn eich Canolfan Waith l lleol yn gallu rhoi fwy o wybodaeth i chi ynghylch Gwaith a Ganiateir.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU