Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae rhai pethau sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i'r cyflogwyr sy'n annog pobl anabl yn gadarnhaol i wneud cais am swyddi neu leoliadau profiad gwaith. Er enghraifft, efallai y byddant yn arddangos y symbol anabledd ar hysbyseb swydd.
Er bod cyflogwyr yn rhwym wrth y Ddeddf Gwahaniaethau ar Sail Anabledd i’ch trin yn deg, mae rhai ohonynt yn dangos eu bod yn gadarnhaol iawn o ran cyflogi a chadw pobl anabl.
Mae rhai cyflogwyr yn dangos hyn trwy osod symbol anabledd 'dau dic' y Ganolfan Byd Gwaith ar eu hysbysebion swyddi.
Golyga hyn bod y cyflogwr wedi gwneud rhai ymrwymiadau penodol yn gysylltiedig â chyflogi pobl anabl. Fel rhan o hyn, byddwch yn siŵr o gael cyfweliad os ydych yn bodloni meini prawf sylfaenol y swydd.
Mae gan lawer o gyflogwyr bolisïau cyfle cyfartal. Mae hynny’n golygu bod y cyflogwr yn cytuno i gyflogi pobl ar sail teilyngdod, ni waeth pethau megis anabledd, hil, rhyw neu oedran er enghraifft.
Mae hynny hefyd yn golygu bod y cyflogwr wedi ymrwymo i drin gweithwyr yn gyfartal ac i roi'r un cyfleoedd i bawb.
Efallai y byddwch yn teimlo'n fwy cyfforddus yn datgelu anabledd wrth gwmni sydd wedi datgan bod ganddo bolisïau o’r fath ar waith.
Gall cyflogwr gynnwys datganiad mewn hysbyseb swydd sy'n annog pobl anabl i wneud cais ac sy'n cadarnhau bod y cyflogwr yn glir am eu cyfrifoldebau cyfreithiol dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
Chwiliwch am y canlynol:
Os ydych yn pryderu am y mater olaf hwn ac am gael cyngor, siaradwch â'ch Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl. Gall eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau o esbonio eich addasrwydd i'r swydd. Gall hefyd gysylltu â’r cyflogwr ar eich rhan os dymunwch