Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y symbol anabledd

Wrth wneud cais am swyddi, chwiliwch am gyflogwyr sy'n defnyddio'r symbol anabledd. Mae'n dangos bod ganddynt agwedd gadarnhaol at geisiadau am swyddi gan bobl anabl.

Ynghylch y symbol anabledd

Cynrychiolir y symbol anabledd gan 'ddau dic' a'r geiriau 'yn gadarn o blaid pobl anabl'. Fe welwch y symbol wedi'i arddangos ar hysbysebion swydd a ffurflenni cais.

Os bydd cyflogwr yn defnyddio’r symbol hwn, mae hynny’n golygu eu bod yn gadarnhaol iawn o ran cyflogi pobl anabl ac y byddant yn awyddus i wybod am eich galluoedd.

Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n dyfarnu'r symbol anabledd i gyflogwyr yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ac sydd wedi cytuno i gyflogi, cadw a datblygu galluoedd staff anabl.

Y pum ymrwymiad

Mae cyflogwyr sy’n defnyddio’r symbol anabledd yn cytuno i wneud pum ymrwymiad gyda golwg ar recriwtio, hyfforddi, cadw staff, ymgynghori ac ymwybyddiaeth o anabledd.

Dyma'r ymrwymiadau:

  • cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag a'u hystyried ar eu galluoedd
  • i drafod gyda gweithwyr anabl, unrhyw bryd ond o leiaf unwaith y flwyddyn, beth y gall y ddau barti ei wneud i sicrhau bod gweithwyr anabl yn gallu datblygu a defnyddio'u galluoedd
  • ymdrechu i'r eithaf pan fydd gweithwyr yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros yn y gwaith
  • gweithredu i sicrhau bod pob gweithiwr yn datblygu'r lefel briodol o ymwybyddiaeth o anabledd sy'n angenrheidiol i sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn gweithio
  • adolygu'r pum ymrwymiad yn flynyddol a'r hyn sydd wedi'i gyflawni, cynllunio ffyrdd o wella arnynt a rhoi gwybod i'r gweithwyr a'r Ganolfan Byd Gwaith am y cynnydd sy'n cael ei wneud a chynlluniau'r dyfodol

Gofynnwch i'ch Canolfan Waith leol am wybodaeth ynghylch pa gyflogwyr yn eich ardal sydd wedi cael eu dyfarnu â’r symbol anabledd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU