Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am anabledd

Does dim rheidrwydd arnoch i roi gwybod am anabledd - chi sydd i benderfynu. Fodd bynnag, efallai y dylech chi ystyried rhai pethau wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

A ddylech chi roi gwybod i gyflogwr posibl ynghylch eich anabledd?

Er y byddwch yn ansicr sut y bydd cyflogwr yn ymateb, mae rhesymau da dros ddweud wrth gyflogwr posibl am anabledd.

Mae cyflogaeth yn dod o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Golyga hyn ei fod yn anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl wrth recriwtio a dewis.

Dan y Ddeddf, rhaid i gyflogwyr hefyd ystyried gwneud 'addasiadau rhesymol' y gallai fod eu hangen arnoch er mwyn ichi allu gweithio iddynt. Os na fyddwch yn rhoi gwybod am eich anabledd, gallai tribiwnlys cyflogaeth benderfynu nad oedd bai ar eich cyflogwr am beidio â gwneud addasiadau ar eich cyfer. Ond, gallai benderfynu hefyd y byddai wedi bod yn rhesymol i'ch cyflogwr wybod am eich anabledd hyd yn oed os nad oeddech wedi rhoi gwybod amdano.

Mae’n bwysig cofio os nad yw eich cyflogwr yn gwybod am eich anabledd, ni allant wneud unrhyw addasiadau i’ch helpu chi i lwyddo yn eich swydd.

Penderfynu sut a phryd i ddatgan anabledd

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw'r gyfraith, ond ystyriwch y pwyntiau hyn wrth benderfynu rhoi gwybod am eich anabledd neu beidio.

Os gofynnir i chi mewn cyfweliad neu ar ffurflen gais a oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd, atebwch yn syml. Gwahaniaethwch rhwng cyflwr iechyd ac anabledd.

Os byddwch yn llofnodi datganiad yn dweud nad oes gennych anabledd pan fo gennych un mewn gwirionedd, gall beri problemau'n ddiweddarach.

Ffurflenni cais a holiaduron meddygol

Mae rhai ffurflenni cais yn gofyn cwestiynau uniongyrchol am anabledd ac felly, gallwch roi'r holl fanylion sy'n bwysig yn eich barn chi wrth lenwi'r ffurflen.

Os oes raid, esboniwch sut y byddai eich anabledd yn effeithio arnoch mewn amgylchedd gwaith - neu ddweud nad yw'n cael unrhyw effaith ymarferol. Canolbwyntiwch ar eich galluoedd a pham mai chi yw'r person iawn ar gyfer y swydd.

Os teimlwch fod eich anabledd, neu eich profiad o fywyd oherwydd eich anabledd, yn gwella'ch gallu i wneud y swydd, gallwch grybwyll hyn ar y rhan o'r ffurflen gais sy'n gofyn i chi pam eich bod yn addas i'r swydd. Os na fyddwch yn datgelu anabledd, gall fod yn fwy anodd esbonio'i agweddau cadarnhaol yn ddiweddarach.

Hefyd, efallai y gofynnir cwestiynau uniongyrchol am anabledd ac iechyd ar holiadur meddygol. Gall yr angen i lenwi un o'r rhain neu beidio, ac ar ba gam, ddibynnu ar y math o swydd neu'r cyflogwr.

Mynd i gyfweliadau

Os cewch eich rhoi ar restr fer am gyfweliad ac os bydd angen cymorth ymarferol arnoch, megis dehonglydd iaith arwyddion neu gymorth i gyrraedd y cyfweliad, dylech gysylltu â'r cyflogwr i drefnu hyn.

Mae'n llawer haws i gyflogwyr ymateb i'ch anghenion os gallant baratoi o flaen llaw. Mae'n syniad da rhoi gwybod am anabledd cyn cyfweliad, er nad yw hyn yn ofyniad cyfreithiol.

Os byddwch yn aros tan y cyfweliad i roi gwybod am eich anabledd i gyflogwr, efallai y byddant wedi synnu ryw ychydig. Efallai y byddant yn gofyn cwestiynau amherthnasol am eich anabledd y gallech fod wedi'u hateb yn syml ar y ffurflen gais. Dylid treulio'r amser yn esbonio sut a pham mai chi yw'r person iawn ar gyfer y swydd, ac nid ar drafod materion anabledd.

Cyflogwyr gydag ymrwymiad i gyflogi pobl anabl

Efallai y dylanwadir hefyd ar eich penderfyniad i roi gwybod am eich anabledd gan eich barn am agwedd cyflogwr neilltuol. Efallai y gall y pwyntiau isod eich helpu i wneud y penderfyniad hwnnw.

Mae gan lawer o gyflogwyr bolisïau cyfle cyfartal. Bydd gan y sefydliadau hyn rywfaint o ymrwymiad i recriwtio a chyflogi heb ragfarn. Efallai y byddwch yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth ddatgelu anabledd os oes gan y mudiad polisi cyfle cyfartal.

Dylech hefyd edrych am symbol anabledd 'dau dic' y Ganolfan Byd Gwaith ar hysbysebion swyddi. Mae'r symbol hwn yn golygu bod y cyflogwr wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac y byddwch yn sicr o gael cyfweliad am y swydd os ydych yn bodloni meini prawf sylfaenol manyleb y person ar gyfer y swydd honno.

Tribiwnlysoedd cyflogaeth

Pa un a ydych yn rhoi gwybod am eich anabledd neu beidio, os teimlwch i chi gael eich trin yn annheg yn ystod y broses ymgeisio o ganlyniad i anabledd, gallwch gwyno i dribiwnlys cyflogaeth. Rhaid cwyno o fewn tri mis. Gall tribiwnlys cyflogaeth wneud y canlynol:

  • penderfynu a oedd y driniaeth a gawsoch yn torri'r gyfraith
  • argymell i'r cyflogwr weithredu mewn ffordd arbennig, er enghraifft, cynnig eich cyflogi neu newid ei bolisi
  • gorchymyn i'r cyflogwr dalu iawndal i chi. Os ydych wedi rhoi gwybod am anabledd, ni chaiff y cyflogwr yn gyfreithlon wrthod eich cyflogi, heb reswm da, dim ond oherwydd eich bod yn anabl.

Cael gwybod mwy yn y Ganolfan Byd Gwaith

Os ydych yn pryderu am roi gwybod am eich anabledd ac am gael help, siaradwch â'ch Ymgynghorydd Cyflogaeth i Bobl Anabl yn y Ganolfan Byd Gwaith. Gallant eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau i esbonio eich addasrwydd i'r swydd neu, petai hynny'n ddefnyddiol i chi, gallant gysylltu â'r cyflogwr ar eich rhan.

Allweddumynediad llywodraeth y DU