Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llwybrau at Waith

Mae'r cynllun Llwybrau at Waith yn helpu pobl i gael gwaith os ydynt yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu fudd-dal analluogrwydd oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd. Mae’r cymorth wedi ei gynllunio’n benodol am bob person sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.

Llwybrau at Waith - gwybodaeth

Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n rhedeg y rhaglen Llwybrau at Waith, a'i nod yw annog pobl sy'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu fudd-daliadau analluogrwydd i gael gwaith.

Bydd gofyn i chi gymryd camau i ddod o hyd i waith neu baratoi am waith oni bai bod gennych gyflwr neu anabledd iechyd sy’n effeithio’n ddifrifol ar eich gallu i wneud hynny.

Yn ogystal â chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith, mae'n bosib y cewch gymorth ychwanegol gan un o'u sefydliadau partner sy'n gweithio gyda hwy o’u sectorau preifat a gwirfoddol. Gelwir y sefydliadau hynny yn ‘darparwyr’.

Mae'n bosib y bydd gennych hawl i arian ychwanegol pan fyddwch yn dechrau gweithio neu'n aros mewn gwaith.

Pwy sy’n gymwys

Os ydych chi rhwng 18 a 60 oed ac yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu fudd-daliadau analluogrwydd, byddwch yn awtomatig yn cael eich ystyried ar gyfer Llwybrau at Waith. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n hawlio am y tro cyntaf, neu’n hawlio eto ar ôl peidio â chael y budd-dal am gyfnod.

Mae budd-daliadau analluogrwydd yn cynnwys:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm ar sail analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm tra byddwch yn apelio yn erbyn penderfyniad nad ydych yn analluog i weithio
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Hyd yn oed os nad ydych chi’n cael eich ystyried yn awtomatig, gallwch ddal gwneud cais am gymorth gan Lwybrau at Waith os ydych chi’n gymwys am fudd-daliadau penodol oherwydd eich cyflwr neu anabledd iechyd.

Sut mae'n gweithio

Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth i unigolion a mynediad at gymorth eang.

Cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith

Yn ystod y saith mis cyntaf o'ch cyfnod hawlio budd-daliadau analluogrwydd, fel arfer, cewch eich gwahodd i chwe chyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith. Byddwch yn cael eich cyfweliadau gyda chynghorydd personol a fydd yn:

  • eich helpu i ddal ati i ganolbwyntio ar eich gallu i weithio
  • eich helpu i ddatblygu cynllun gweithredu personol i’ch helpu chi i gael y swydd yr ydych eisiau
  • trafod cyfleoedd gwaith gyda chi
  • egluro'r cymorth a all fod ar gael i fynd i'r afael â'r prif rwystrau sy'n ymwneud ag iechyd a'r rheini nad ydynt yn ymwneud ag iechyd – gan gynnwys, rheoli dyled
  • rhoi gwybod i chi am unrhyw fudd-daliadau ariannol y gallech fod â hawl iddynt pan fyddwch yn dechrau gweithio
  • cyfrifo faint well yn ariannol y byddwch wrth weithio

Mae mynychu a chymryd rhan yn y cyfweliadau yn amod ar gyfer derbyn cyfanswm llawn y budd-dal.

Y Rhaglen Rheoli Cyflyrau

Nod y Rhaglen Rheoli Cyflyrau yw eich addysgu, eich cefnogi a'ch cynghori ynghylch sut i reoli'ch cyflwr a'ch helpu i ymgymryd â'ch swyddogaethau'n well, drwy ddefnyddio egwyddorion ac ymagwedd Therapi Ymddygiadol Gwybyddol. Nid yw'r rhaglen yr un fath â'r driniaeth a roddir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar hyn o bryd.

Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyflwyno'r rhaglen ac yn ei theilwra i ddiwallu'ch anghenion.

Yn y cynllun Llwybrau at Waith a redir gan y Ganolfan Byd Gwaith, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Adran Iechyd sy'n darparu'r Rhaglen Rheoli Cyflyrau ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae'r cynlluniau Llwybrau at Waith a redir gan ddarparwyr eraill yn cynnwys Rhaglen Rheoli Cyflyrau debyg. Bydd naill ai'n cael ei chynnal gan y darparwr neu gan arbenigwr arall.

Isod, ceir mwy o wybodaeth am gynlluniau Llwybrau at Waith y Ganolfan Byd Gwaith a chynlluniau Llwybrau at Waith darparwyr eraill.

Credyd Dychwelyd i'r Gwaith

Taliad di-dreth o £40 yr wythnos yw'r Credyd Dychwelyd i'r Gwaith. Gellir ei dalu am hyd at 52 wythnos cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • disgwylir i'ch swydd bara pum wythnos o leiaf
  • rydych yn gweithio 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • nid ydych yn ennill mwy na £15,000, gros, y flwyddyn
  • rydych yn ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf
  • rydych wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd am 13 wythnos neu ragor yn ddi-dor

Cynlluniau Llwybrau at Waith y Ganolfan Byd Gwaith a darparwyr eraill

Mae'r cynllun Llwybrau at Waith yn cael ei ddarparu gan y Ganolfan Byd Gwaith mewn 18 rhanbarth. Yn rhanbarthau eraill y Ganolfan Byd Gwaith, darperir y cynllun Llwybrau at Waith gan fudiadau o’r sector preifat a'r sector gwirfoddol. Gelwir y mudiadau sy'n cyflwyno'r rhaglen yn 'ddarparwyr'.

Llwybrau at Waith - y Ganolfan Byd Gwaith

Cynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith sy'n cynnal yr holl gyfweliadau gorfodol.

Gall eich cynghorydd ddefnyddio pecyn o raglenni cyflogaeth, hyfforddi ac adsefydlu i ddarparu cymorth wedi'i deilwra'n arbennig ar eich cyfer chi. Mae'r pecyn hwn, a elwir yn 'Dewisiadau', yn cynnwys y Rhaglen Rheoli Cyflyrau a'r Credyd Dychwelyd i'r Gwaith, yn ogystal â mynediad at raglenni eraill y Ganolfan Byd Gwaith.

Cynlluniau Llwybrau at Waith - Darparwyr

Un o gynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith fydd yn cynnal y cyfweliad cyntaf. Darparwyr lleol fydd yn cynnal y pum cyfweliad gorfodol arall sy'n canolbwyntio ar waith, ac yn rhoi cymorth i chi ddychwelyd i'r gwaith.

Bydd unrhyw gymorth a gynigir i chi wedi'i deilwra ar eich cyfer ac yn cynnwys Rhaglen Rheoli Cyflyrau a mynediad at Gredyd Dychwelyd i'r Gwaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU