Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archwiliad Adnabod Cerbyd

Bwriad y cynllun Archwiliad Adnabod Cerbyd (VIC) yw helpu i atal ceir sydd wedi’u dwyn rhag cael eu disgrifio fel ceir sydd wedi’u trwsio ar ôl damwain. Gelwir hyn yn ‘ringing’ yn Saesneg. Gallwch weld a oes angen VIC ar gerbyd a chyflwyno eich cais ar-lein.

Sut mae marciwr VIC yn cael ei osod

Dylai yswirwyr hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am bob car a bennir yn anadferadwy yng nghategorïau adfer A, B neu C. Bydd yr hysbysiad hwn yn gosod 'marciwr VIC' ar gofnod DVLA y cerbyd. Tra bydd marciwr VIC wedi'i osod, ni fydd DVLA yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru V5C, na ffurflen atgoffa am drwydded cerbyd V11.

Rhaid i'r car basio VIC cyn y gellir tynnu’r marciwr VIC.

Cadarnhau manylion adnabod y cerbyd

Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) fydd yn cynnal yr archwiliad adnabod cerbyd. Mae wedi'i gynllunio i gadarnhau manylion adnabod y car ac mae'n helpu i sicrhau y rhoddir y car cywir yn ôl ar y ffordd.

Mae'n cymryd tua 20 munud i gwblhau’r archwiliad, ac mae'n golygu cymharu'r manylion ar gofnod DVLA y cerbyd â'r car dan sylw. Prawf adnabod yw'r VIC, nid yw'n edrych ar ansawdd y gwaith atgyweirio nac yn cadarnhau bod y cerbyd yn addas i fod ar y ffordd. Os oes gennych chi unrhyw bryderon sy'n ymwneud â'r agweddau hyn, dylech geisio barn arbenigwr annibynnol.

Wedi i gar basio VIC, anodir y V5C i ddangos ‘wedi'i atgyweirio'n sylweddol a/neu wedi’i ddifrodi mewn damwain; wedi cael archwiliad adnabod ar dd/mm/ccbb’.

Cadarnhau a oes marciwr VIC wedi'i osod

Gallwch weld a oes marciwr VIC wedi’i osod drwy wneud ymholiad am gerbyd drwy’r adran Ymholiadau Cerbydau ar wasanaethau cerbydau DVLA ar y we. I wneud eich ymholiad, bydd angen i chi wybod beth yw rhif cofrestru’r cerbyd a math y cerbyd.

Pan fyddwch wedi gwneud ymholiad, dim ond os yw wedi cael ei osod yn erbyn cofnod cerbyd gan DVLA y bydd y marciwr VIC i’w weld.

Dros y ffôn

Gallwch hefyd weld a oes marciwr VIC wedi’i osod drwy gysylltu â VOSA ar 0300 123 9000.

Gwneud cais am VIC

Mae VIC ar gael mewn nifer o leoliadau VOSA. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais VIC1 a'i hanfon i VOSA, ynghyd â'r ffi gywir (gweler y tabl isod).

Gallwch gyflwyno’r ffurflen ar-lein, cyn belled â'ch bod yn talu naill ai gyda cherdyn credyd neu ddebyd neu fod gennych Gyfrif Parod gyda VOSA. Ni all VOSA gymryd manylion eich cerdyn ar-lein, ond bydd yn cysylltu â chi i gael yr wybodaeth hon ar ôl cael eich ffurflen gais VIC1.

Pan fydd eich cais wedi’i brosesu, bydd VOSA yn eich hysbysu am eich apwyntiad.

Mae’r cyfarwyddiadau llawn a’r telerau ac amodau i’w gweld ar dudalen tri ar ffurflen gais VIC1.

Math o brawf

Ffi arferol

Ffi y tu allan i oriau gwaith

Archwiliad Adnabod Cerbyd £41.00 £50.00

Apeliadau

£41.00 £50.00

Mynd â'r car i gael VIC

Wrth fynd â'ch car i gael VIC, rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol:

  • rhaid gwneud gwaith atgyweirio a rhaid i'r car fod yn addas i fod ar y ffordd a rhaid bod modd ei yrru dan ei bŵer ei hun
  • os yw'n hŷn na thair blwydd oed, mae’n ofynnol bod gan y car dystysgrif MOT dilys os yw’n cael ei yrru i gael VIC
  • mae’n ofynnol bod yr unigolyn sy’n gyrru’r car wedi’i yswirio
  • mae’n rhaid i’r car arddangos y platiau rhif blaen ac ôl os yw’n cael ei yrru am VIC – am gymorth i gael gafael ar blatiau rhif, cysylltwch â VOSA ar 0300 123 9000

Gellir gyrru car yn uniongyrchol i gael VIC a drefnwyd ymlaen llaw, ac oddi yno, heb dreth ffordd.

Ar ôl VIC

Os bydd VOSA yn cadarnhau manylion adnabod eich cerbyd

Os yw VOSA yn fodlon bod manylion adnabod eich car yn gywir, rhoddir VIC20 i chi, sef tystysgrif pasio. Hysbysir DVLA yn electronig am y canlyniad pasio.

Gallwch wneud cais i DVLA am V5C drwy ddefnyddio ffurflen V62W. Os oedd eich car yn anadferadwy yng nghategori C, dylech ddatgan hyn wrth lenwi'r ffurflen, gan eich bod wedi'ch eithrio rhag talu’r ffi ymgeisio V62W.

Os anfonoch chi ffurflen V62W i DVLA cyn mynd â'ch car i gael VIC, byddwch wedi derbyn llythyr hysbysiad am VIC gan DVLA. Dylid dychwelyd y llythyr hwn i DVLA yn awr, gyda'r datganiad wedi'i lenwi.

Os na all VOSA gadarnhau manylion adnabod eich cerbyd

Os na all VOSA gadarnhau manylion adnabod eich car, rhoddir hysbysiad methiant VIC i chi (VIC21), a fydd yn rhoi'r rhesymau am y methiant. Bydd VOSA yn cyfeirio'r achos naill ai at yr heddlu neu at DVLA i archwilio’r mater ymhellach. Bydd VOSA yn monitro hynt yr achos ac yn eich hysbysu am y canlyniad ar ôl ei gwblhau. Gallai hyn gymryd rhai wythnosau.

Os, yn dilyn archwiliad, y gellir cadarnhau mai'r car hwnnw yw'r car gwreiddiol, bydd VOSA yn cyhoeddi canlyniad pasio. Fodd bynnag, os nad oes modd adnabod y car, bydd y marciwr VIC yn aros ar gofnod y cerbyd a ni fydd DVLA yn rhoi tystysgrif cofrestru.

Apeliadau VIC

Os nad ydych chi’n cytuno â chanlyniad y prawf, gallwch wneud apêl i VOSA. Rhaid cyflwyno apeliadau ar ffurflen VIC17, ynghyd â'r ffi gywir.

Allweddumynediad llywodraeth y DU