Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n rhaid cyflwyno ffurflen VIC1 i’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) cyn y gellir cynnal archwiliad adnabod cerbyd (VIC).
I wneud cais, dilynwch y ddolen isod i lwytho ffurflen gais VIC1 oddi ar y we.
Bydd angen fersiwn ddiweddaraf Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn i lawr am ddim ar gwarel dde'r dudalen hon.
Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch ei chyflwyno ar-lein, cyn belled â'ch bod yn bwriadu talu gyda cherdyn credyd neu ddebyd neu fod gennych Gyfrif Parod gyda VOSA. Ar hyn o bryd, ni all VOSA gymryd manylion eich cerdyn ar-lein a bydd yn cysylltu â chi i gael yr wybodaeth hon ar ôl cael eich ffurflen gais VIC1.
Fe'ch hysbysir am yr apwyntiad wedi i VOSA brosesu eich cais. Darperir y cyfarwyddiadau llawn a'r ‘Telerau ac Amodau’ ar dudalen tri.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes