Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau archwilio cerbyd

Cyn i chi brynu cerbyd ail-law, gallwch gael gwybod manylion y cerbyd ar-lein neu dros y ffôn drwy ddefnyddio gwasanaethau gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gall cwmnïau preifat sy'n archwilio cerbydau hefyd ddarparu gwasanaethau i weld os mae cerbyd wedi'i ddwyn, wedi'i ddifrodi tu hwnt i'w adfer neu sicrhau nad oes taliadau'n ddyledus arno.

Gwasanaethau y DVLA

Ymholiadau am gerbydau ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gael gwybodaeth benodol am gerbyd sydd gan y DVLA yn ei gronfa ddata, gan gynnwys:

  • blwyddyn gwneuthuriad
  • dyddiad cofrestru am y tro cyntaf
  • cynhwysedd yr injan
  • lliw
  • pryd y daw'r ddisg treth neu’r datganiad HOS cyfredol i ben
  • cyfradd treth cerbyd

Ymholiadau dros y ffôn

Mae yna ddau wasanaeth ffôn cyfradd uwch sy'n rhoi gwybodaeth am gerbydau. Cost y galwadau yw 51 ceiniog y funud (mae’n bosib y bydd costau gan ddarparwyr eraill y gwasanaeth yn amrywio). Mae'r llinellau ar agor yn ystod yr amseroedd canlynol:

Llinellau Cyffredinol Gyrwyr a Cherbydau – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 7.00 pm; dydd Sadwrn rhwng 8.00 am a 5.30 pm.

Trwyddedu Electronig ar-lein i Yrwyr – o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.30 pm; dydd Sadwrn 8.00 am a 5.30 pm.

Mae'r gwasanaeth archwilio cerbydau yn rhoi manylion y dyddiad cofrestru; blwyddyn gwneuthuriad; maint yr injan (cc); gollyngiadau CO2 a chadarnhau'r lliw.

Rhif Ffôn 0906 185 8585
Mae'r llinell dyddiad dyledus (dyddiad treth cerbyd yn dod i ben) yn rhoi gwybod pryd bydd y ddisg treth gyfredol yn dod i ben.

Rhif Ffôn 0906 765 7585

Er bod cofnodion y cerbydau'n cael eu diweddaru drwy'r amser, mae'n bosib bod cais am dreth cerbyd yn aros i gael ei phrosesu ac nad yw cofnod y cerbyd wedi'i ddiweddaru eto. Bydd y wybodaeth a roddir trwy'r gwasanaeth hwn yn gywir gan amlaf, ond ni ddylid ystyried hyn yn gadarnhad llwyr fod treth ar y cerbyd ar y pryd.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gallai ceidwad blaenorol y cerbyd fod yn gwneud cais am ad-daliad o’r ddisg treth a allai fod sgrin wynt eich car. Cyfrifoldeb ceidwad y cerbyd yw sicrhau bod y disg treth yn ddilys a bod y cerbyd wedi’i drethu’n ddi-dor tra bydd ar y ffordd.

Gallwch wirio statws y disg treth drwy ddilyn y ddolen isod.

Cwmnïau archwilio cerbydau preifat

Mae DVLA yn darparu gwybodaeth am gofrestru cerbydau i rai cwmnïau er mwyn amddiffyn y defnyddiwr a gwarchod rhag twyll.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd enw na manylion cyfeiriad unigolion yn cael eu darparu.

Mae'n bosibl y bydd cwmnïau'n ychwanegu manylion gan yr heddlu, cwmnïau cyllid ac yswiriant. Gall y cwmnïau isod ddarparu gwasanaeth archwilio cerbydau i'r cyhoedd ac i'r diwydiant ceir.

I gael gwybodaeth am brisiau a chynnyrch dylech gysylltu â hwy yn uniongyrchol.

CarweB Ltd, Pipers Business Centre, 220 Vale Road, Tonbridge, TN9 1SP. Ffôn 01732 373 002. Ffacs: 01732 373 001.

CDL Vehicle Information Services Limited, Strata House, Kings Reach Road, Stockport, SK4 2HD. Rhif Ffôn: 08444 821 965 Ffacs: 01436 821 875.

Experian, Talbot House, Talbot Street, Nottingham, NG1 5HF. Ffôn 0870 6000 838. Ffacs: 0115 934 4105.

HPI Limited, Dolphin House, P O Box 61, New Street, Salisbury, SP1 2TB. Ffôn 01722 422 422. Ffacs: 01722 412 164.

Vehicle Data Services Ltd, Unit 10, Stephenson House, Horsley Business Centre, Horsley, Northumberland, NE15 0NY. Ffôn 01661 854 388.

Cysylltiad DVLA

I wneud ymholiadau ynghylch prynu data cerbyd dienw gallwch ysgrifennu at neu ebostio'r canlynol:

Vehicle Business Support
Data Sharing Team
D12
DVLA
Abertawe
SA6 7JL

Ebost:

vehicle.business.support@dvla.gsi.gov.uk

Defnyddir y gwasanaethau hyn gan werthwyr ceir a fydd fel arfer wedi archwilio cerbydau cyn eu prynu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU