Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad ydych chi wedi gwneud datganiad HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) ac nid yw eich cerbyd wedi’i drethu, bydd cosb awtomatig o £80 yn berthnasol. Hefyd gallai eich cerbyd gael ei glampio a’i gymryd oddi arnoch chi.
Does dim rhaid i’ch cerbyd gael ei weld ar y ffordd cyn y byddwch wedi cyflawni trosedd. Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn archwilio ei chofnodion bob mis i ganfod cerbydau heb dreth. Mae gan DVLA yr awdurdod i gymryd camau gorfodi yn eich erbyn gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd ganddynt ar eu cofnodion.
Yn ogystal â hyn, mae DVLA yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu ac awdurdodau lleol i weithredu cynlluniau clampio olwynion. Gan ddefnyddio system Adnabod Platiau Rhif Awtomatig (ANPR), maent yn canfod, clampio a chludo ymaith unrhyw gerbydau heb dreth.
Gall aelodau’r cyhoedd hefyd roi gwybod am gerbyd heb dreth ar-lein neu drwy ffonio’r llinell ffôn genedlaethol gyflym ar gyfer rhoi gwybod am gerbydau heb dreth.
Os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd neu’n gwneud datganiad HOS gallai eich cerbyd gael ei stopio gan yr heddlu.
Byddwch yn cael cosb awtomatig o £80, yn ogystal â thalu am ddisg treth newydd.
Gallech hefyd gael Dyfarniad yn eich erbyn yn y Llys Sirol, a chael dirwy am o leiaf £1,000.
Y gosb uchaf am wneud datganiad HOS ffug, pan yw’r cerbyd mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus, yw £5,000 a charchar.
Gallai eich cerbyd gael ei glampio gan un o bartneriaid clampio olwynion DVLA. Bydd rhaid i chi dalu am ryddhau’ch cerbyd a dangos disg treth ddilys neu ernes os nad oes disg ar gael. Os na fyddwch yn talu, bydd eich cerbyd yn cael ei roi dan glo mewn ffald, ac fe godir tâl storio. Os na fyddwch yn talu’r ffioedd rhyddhau neu storio, gallai eich cerbyd gael ei falu neu ei werthu.