Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod am gerbyd sydd heb dreth

Os digwydd i chi weld cerbyd ar ffordd gyhoeddus gyda disg treth sydd wedi dod i ben, fe allwch chi roi gwybod amdano ar-lein neu drwy'r post. Does dim rhaid i chi roi eich enw. Bydd eich adroddiad yn arwain at ymchwiliad a chymerir camau gorfodi priodol, os bydd angen.

Sut mae gwybod a ydy cerbyd wedi’i drethu

Gallwch ganfod a ydy cerbyd wedi’i drethu ar hyn o bryd drwy ddefnyddio gwasanaeth ymholi am gerbydau’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Bydd angen i chi wybod rhif cofrestru a gwneuthuriad y cerbyd.

Beth sydd angen i chi roi gwybod amdano

Darparwch fanylion am y cerbyd:

  • rhif cofrestru
  • gwneuthuriad, model y cerbyd a’i liw

Darparwch fanylion am leoliad y cerbyd:

  • ee y tu allan i 24 Unrhyw Stryd, Unrhyw Dref, Unrhyw God Post
  • unrhyw dirnod penodol, ee gyferbyn â blwch ffôn

Os oes modd, darparwch:

  • yr amser pryd y gellir gweld y cerbyd ar y ffordd gyhoeddus
  • enw a chyfeiriad y perchennog

Rhoi gwybod i DVLA am y cerbyd

Ar-lein

Defnyddiwch wasanaeth ar-lein yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Drwy'r post

Anfonwch lythyr at
Yr Adran Orfodi, E89/A2
DVLA
Longview Road
Abertawe
SA7 0XZ

Beth mae DVLA yn ei wneud ynghylch cerbydau heb dreth

Unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod i DVLA am gerbyd heb dreth, bydd yr wybodaeth yn cael ei chofnodi mewn cronfa ddata ganolog. Er nad yw’r cyhoedd yn ymwybodol o’r holl waith gorfodi sy’n cael ei wneud, mae DVLA wedi ymrwymo i leihau nifer y bobl sy’n osgoi talu treth cerbyd.

Mae DVLA yn gweithio gyda VEAS (Vehicle Enforcement and Ancillary Services), gyda fflyd o gerbydau clampio olwynion mewn 24 pownd ledled y DU. Targedir cerbydau heb dreth fesul ardal, o’r pownd VEAS agosaf.

Os byddwch yn rhoi gwybod i DVLA am gerbyd sydd heb dreth, ni ellir gwarantu y bydd olwynion y cerbyd yn cael eu clampio. Mae’n bosib gweithredu ‘y tu ôl i’r llenni’ hefyd, gan fod y gyfraith yn caniatáu gorfodi cosb o £80 ar berchnogion cerbydau sydd dros fis yn hwyr yn cael treth.

Mae DVLA yn sganio cofnodion cerbydau am gerbydau heb dreth yn gyson ac mae’n rhoi 90,000 o gosbau bob mis. Golyga hyn y gallai rhai cerbydau heb dreth yn eich ardal chi fod wedi cael cosb benodedig ac ni fyddant yn cael eu clampio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU