Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich tystysgrif MOT

Cofnod o'r gronfa ddata MOT yw eich tystysgrif MOT. Mae'n cadarnhau bod eich cerbyd, heb ei ddatgymalu, wedi cyrraedd y safonau amgylcheddol a diogelwch ffyrdd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Nid yw'n golygu bod y cerbyd yn addas i'w ddefnyddio ar y ffyrdd ar gyfer oes y dystysgrif ac nid yw'n golygu nad oes angen gwneud gwaith cynnal a chadw arno'n rheolaidd

Newidiadau i'r dystysgrif MOT

Os yw eich cerbyd yn cael ei brofi ar 16 Hydref 2011 neu ar ôl hynny, byddwch yn cael tystysgrif MOT ar ffurf newydd. Caiff ei hargraffu ar bapur plaen ar ffurf tirlun yn hytrach nag ar ffurflen liw sydd wedi'i hargraffu ymlaen llaw. Mae'r newidiadau i'r tystysgrifau'n rhan o ymdrech barhaus i leihau costau a gwastraff.

Eich cofnod prawf MOT

Pan gaiff eich cerbyd ei brofi mewn gorsaf brofi, bydd cofnod eich prawf yn cael ei roi mewn cronfa ddata ganolog ddiogel. Yna byddwch yn cael tystysgrif MOT (wedi pasio) neu hysbysiad bod y cerbyd wedi methu'r prawf. Y dystysgrif yw eich derbynneb ar gyfer y prawf MOT ac mae'n nodi'r wybodaeth a gaiff ei chadw yn y gronfa ddata.

Dim ond at gyflwr eitemau y mae'n rhaid eu profi adeg y prawf y mae'r dystysgrif MOT yn cyfeirio ac ni ddylid ei hystyried:

  • fel tystiolaeth o'u cyflwr ar unrhyw adeg arall
  • fel tystiolaeth o gyflwr mecanyddol cyffredinol y cerbyd
  • fel tystiolaeth bod y cerbyd yn cydymffurfio'n llawn â phob agwedd ar y gyfraith mewn perthynas ag adeiladu a defnyddio cerbydau

Nid yw'r dystysgrif yn brawf o MOT mwyach ac ni ddylid dibynnu arni yn hyn o beth. Dim ond cofnod y gronfa ddata gyfrifiadurol MOT all brofi bod gan gerbyd MOT sy'n ddilys.

Gall eich tystysgrif MOT hefyd gynnwys gwybodaeth am ddiffygion cynghorol a ganfuwyd yn ystod y prawf nad ydynt yn cyfiawnhau hysbysiad bod y cerbyd wedi methu'r prawf ym marn bersonol y profwr. Gall y rhain gynnwys y canlynol:

  • eitemau y mae'n rhaid eu profi sydd wedi pasio o drwch blewyn ond y bydd angen sylw arnynt yn fuan o bosibl
  • eitemau nad ydynt yng nghwmpas y prawf MOT ac y bydd angen sylw arnynt o bosibl
  • unrhyw nodweddion arbennig sydd gan y cerbyd

Pryd y gallwch gael MOT i'ch cerbyd

Gallwch adnewyddu eich MOT hyd at fis cyn iddo ddod i ben heb effeithio ar eich dyddiad dod i ben blynyddol. Mae'r dyddiad cynharaf y gallwch gyflwyno eich cerbyd am brawf wedi'i nodi ar eich tystysgrif.

Pam fod angen tystysgrif MOT arnoch

Yn gyffredinol, mae defnyddio cerbyd o oedran sy'n golygu bod yn rhaid iddo gael ei brofi, nad oes ganddo dystysgrif prawf gyfredol, ar ffyrdd cyhoeddus yn drosedd, ac eithrio:

  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd i ganolfan brawf am brawf MOT sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw
  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd o ganolfan brawf ar ôl iddo fethu prawf MOT, i le iddo gael ei atgyweirio
  • pan fyddwch yn mynd â'r cerbyd i le lle gellir atgyweirio'r problemau a achosodd iddo fethu ei brawf MOT, os yw hynny wedi'i drefnu'n flaenorol
  • pan fyddwch yn ei yrru o le lle cafodd y problemau â'r cerbyd eu hatgyweirio

Hyd yn oed o dan yr amgylchiadau uchod, efallai y cewch eich erlyn o hyd am yrru cerbyd nad yw'n addas i'r ffyrdd os nad yw'n cydymffurfio â rheoliadau amrywiol sy'n effeithio ar y ffordd y cafodd ei adeiladu ac y caiff ei ddefnyddio. Efallai y bydd eich yswiriant car yn annilys hefyd.

Gall yr heddlu ofyn am gael gweld tystysgrif MOT ar gyfer cerbyd y mae angen un arno. Gallant hefyd edrych ar gofnodion cyfrifiadurol o ganlyniadau profion MOT a gallant ddweud a yw'r dystysgrif MOT ar gyfer eich cerbyd wedi dod i ben.

Eich cyfrifoldeb chi fel perchennog y cerbyd yw sicrhau y caiff y prawf MOT ei gynnal yn brydlon. Gallwch gofrestru i gael gwasanaeth atgoffa drwy negeseuon testun

Y gosb am yrru cerbyd ar y ffordd gyda thystysgrif MOT sydd wedi dod i ben yw hysbysiad cosb benodedig gan yr heddlu, sy'n £60 ar hyn o bryd, neu ddirwy o hyd at £1,000 gan y llys.

Ail brofion

Os bydd eich cerbyd yn methu ei MOT, dylai gael ei brofi eto yn yr un ganolfan brawf a gynhaliodd y prawf gwreiddiol, bydd yr hysbysiad ei fod wedi methu'r prawf yn cynnwys manylion pellach am y math o ail brawf sydd ei angen.

At ddibenion ail brofion, nid yw diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn, dydd Sul na Gwyliau Banc. Os bydd perchennog y ganolfan brawf yn newid, rhaid cynnal ail brawf llawn a gellir codi ffi prawf llawn. Dim ond un prawf arall rhannol y gellir ei gynnal mewn perthynas â'r hysbysiad gwrthod hwn - os bydd y prawf hwnnw'n anfoddhaol, rhaid cynnal ail brawf llawn pan gaiff y cerbyd ei archwilio nesaf.

Trethu eich cerbyd

Bydd angen i chi fynd â'ch tystysgrif gyda chi pan fyddwch yn gwneud cais am ddisg treth newydd mewn cangen o'r Swyddfa Post®. Ni fydd angen i chi wneud hyn os nad yw eich cerbyd yn destun prawf MOT oherwydd ei oedran neu ei fath. Gallwch hefyd drethu eich cerbyd ar-lein.

Cadarnhau bod eich tystysgrif MOT yn ddilys

Os oes gennych reswm dros gredu nad yw'r dystysgrif rydych wedi'i chael yn ddilys, cysylltwch â VOSA ar 0300 123 9 000. Codir cyfraddau cenedlaethol am alwadau.

Cael tystysgrifau MOT yn lle rhai sydd wedi'u colli neu eu difrodi

Os ydych wedi colli neu ddifrodi eich tystysgrif, gallwch gael copi arall ohoni gan unrhyw ganolfan brawf MOT.

Bydd angen i chi ddarparu marc cofrestru'r cerbyd a naill ai rhif y prawf MOT gwreiddiol neu rif cyfeirnod dogfen V5C - gellir cael hyd i hwn ar y dystysgrif cofrestru (V5C).

Y ffi fwyaf ar gyfer copi arall o'r dystysgrif ar gyfer car yw £10.

Allweddumynediad llywodraeth y DU