Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Problemau gyda'ch prawf neu'ch tystysgrif MOT

Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd y cynhaliwyd eich prawf MOT, neu os ydych chi wedi colli'ch tystysgrif prawf neu iddi gael ei difrodi, bydd angen i chi gysylltu â'ch gorsaf brofi MOT, neu swyddfa leol yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Beth i'w wneud os ydych yn anghytuno â chanlyniad eich prawf

Os ydych chi'n anghytuno â chanlyniadau'ch prawf MOT, bydd angen i chi eu trafod gyda chynrychiolydd o'r orsaf brofi MOT cyn i unrhyw un ddechrau atgyweirio'r cerbyd.

Apelio'n erbyn prawf a fethwyd

Os ydych chi'n dymuno apelio'n erbyn prawf a fethwyd, yna bydd angen i chi lenwi ffurflen apelio 'VT17', sydd ar gael mewn unrhyw orsaf brofi MOT, ar-lein, neu drwy ffonio VOSA ar 0300 123 9000.

Rhaid i'ch apêl gael ei dderbyn o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y prawf, a bydd ar VOSA angen ffi prawf llawn gennych. Bydd VOSA wedyn yn cynnig apwyntiad o fewn pum diwrnod gwaith i ail-brofi'ch cerbyd.

Os bydd eich apêl yn llwyddo, fe ad-delir rhan o’r ffi neu ffi'r prawf yn llawn.

Beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod eich car wedi pasio ar gam

Mae achosion hyn fel rheol yn ymwneud â cherbydau sydd newydd gael eu prynu a dylech roi gwybod i VOSA cyn gynted â phosibl.

Yn amodol ar dderbyn y gŵyn, bydd VOSA yn cynnig apwyntiad i chi ymhen pum diwrnod gwaith i archwilio eich cerbyd eto, am ddim, cyn belled:

  • nad oes mwy na thri mis wedi pasio ers y prawf MOT am broblem sy'n ymwneud â chyrydu
  • nad oes mwy na 28 diwrnod wedi pasio yn achos problemau eraill

Dangosir cyfeiriad eich swyddfa VOSA leol yn yr orsaf brofi MOT, neu gallwch ei gael drwy ffonio VOSA ar 0300 123 9000.

Mae VOSA yn cynnig y gwasanaeth hwn fel dull o fonitro’r Cynllun MOT a safonau diogelwch y ffordd. All VOSA ddim unioni unrhyw gam na gwneud cais am iawndal ar eich rhan - fodd bynnag, fe allwch chi gymryd camau ar y cyd â'ch adran Safonau Masnach leol, dwyn eich achos eich hun, neu gyfeirio’r mater i sylw’r Heddlu.

Ar ôl i'r cerbyd gael ei brofi, bydd VOSA yn rhoi adroddiad archwilio i chi sy'n rhestru unrhyw nam ar y cerbyd ac yn nodi'r eitemau y dylech gael gwybod amdanynt. Bydd unrhyw gamau pellach y gall VOSA benderfynu eu cymryd yn erbyn yr orsaf brofi a gynhaliodd y prawf ar eich cerbyd yn ôl eu doethineb eu hunain, ac ni ddylai hynny effeithio o gwbl ar unrhyw achos y byddwch chi'n penderfynu ei ddwyn.

Beth i'w wneud os credwch nad yw eich tystysgrif MOT yn ddilys

Gallwch weld os yw'ch tystysgrif MOT yn ddilys ar-lein neu drwy wirio'r statws MOT. Gallwch hefyd weld hanes MOT eich car (yn ddibynnol ar rai amodau penodol).

Os ydych wedi colli'ch tystysgrif prawf, neu iddi gael ei difrodi

Gallwch brynu copi arall o’r dystysgrif prawf gan unrhyw orsaf profi MOT.

Fodd bynnag, rhaid i chi ddangos bod gennych yr hawl i gael copi arall. Rhaid i chi gyflwyno rhif y prawf oddi ar y dystysgrif MOT wreiddiol, neu'r rhif unigryw oddi ar y dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C), yn ogystal â rhif cofrestru'r cerbyd. Fel arall, gallwch fynd â'r cerbyd i'r orsaf brofi MOT wreiddiol i fodloni'r prawf hwn.

Y ffi uchaf y gellir ei chodi am gopi o’r dystysgrif yw £10 neu hanner ffi'r prawf os yw'n llai na hynny.

Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth MOT

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y cynhaliwyd eich prawf, rhowch wybod i VOSA gan ei fod yn help i wybod a yw gorsafoedd profi MOT yn cynnig gwasanaeth da ai peidio. Cysylltwch â’r Rheolwr Ardal yn eich swyddfa VOSA leol. Mae’r cyfeiriad i’w weld ar y poster Ffioedd ac Apeliadau yn eich gorsaf brofi MOT neu gallwch ffonio VOSA ar 0300 123 9000.

Allweddumynediad llywodraeth y DU