Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y prawf MOT ar gyfer eich cerbyd

Mae'n rhaid i bawb sy'n defnyddio cerbyd ar y ffyrdd ei gadw mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer hynny. Mae'r prawf MOT yn cadarnhau bod cerbydau'n cyrraedd safonau diogelwch ffyrdd ac amgylcheddol. Mae'n ofynnol i'r prawf MOT cyntaf gael ei gynnal ar gerbyd pan fydd yn dair oed. Mae rheolau gwahanol ar waith os caiff ei ddefnyddio fel tacsi.

Y dystysgrif MOT

Mae'r dystysgrif MOT yn cadarnhau, ar adeg y prawf, fod y cerbyd, heb ei ddatgymalu, wedi cyrraedd y safonau amgylcheddol a diogelwch ffyrdd sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Nid yw'n golygu bod y cerbyd yn addas i'w ddefnyddio ar y ffyrdd am yr holl gyfnod y bydd y dystysgrif yn ddilys. Nid yw'r dystysgrif MOT ychwaith yn gwarantu cyflwr mecanyddol cyffredinol eich cerbyd. Nid yw'r prawf yn ymwneud â chyflwr yr injan, y cydiwr na'r blwch gêr.

Beth mae'r prawf MOT yn ei gwmpasu

Elfennau i’w harchwilio

Mae'r prawf MOT yn edrych ar rai eitemau pwysig ar eich car i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion cyfreithiol allweddol ar adeg y prawf.

Corff neu adeiladwaith y cerbyd ac eitemau cyffredinol

Dim cyrydiad na difrod gormodol mewn mannau penodol. Dim ymylau miniog sy'n debygol o achosi anaf. Diogelwch a chyflwr barrau halio, unrhyw atgyweiriadau neu addasiadau amhriodol iddynt. Bod y soced trydanol â 13 pin yn gweithredu'n gywir. Cyflwr y sbidomedr a'i fod yn gweithio. Mowntinau'r injan.

Y system danwydd

Dim tanwydd yn gollwng. Diogelwch a chyflwr peipiau neu bibellau. Bod y caead tanwydd yn cau ac yn selio. Noder y bydd angen agor y caead tanwydd. Sicrhau bod yr allwedd ar gael.

Allyriadau pibellau gwacáu

Bod y cerbyd yn bodloni'r gofynion o ran allyriadau pibellau gwacáu, yn dibynnu ar oedran y cerbyd a'r math o danwydd.

Y system wacáu

Ei bod yn ddiogel. Ei bod yn gyflawn. Bod y catalydd ar goll er bod un wedi'i osod yn safonol. Dim gollyngiadau difrifol ac nid yw'n rhy swnllyd.

Gwregysau diogelwch

Caiff yr holl wregysau diogelwch sydd wedi'u gosod eu harchwilio i nodi pa fath ydynt, eu cyflwr, eu bod yn gweithio a'u bod yn ddiogel. Mae'n rhaid i'r holl wregysau diogelwch gorfodol fod ar gael. Archwilio'r lamp sy'n dangos diffyg (MIL) ar gyfer bagiau aer a systemau rhagdynhau gwregysau diogelwch.

Seddi

Bod modd symud sedd y gyrrwr. Archwilio diogelwch pob un o'r seddi a sicrhau bod cefnau'r seddi yn gallu cael eu gosod yn ddiogel yn y safle unionsyth.

Drysau

Bod y glicied yn cau yn ddiogel. Dylid gallu agor y drysau blaen o'r tu mewn i'r cerbyd ac o'r tu allan. Dylid gallu agor y drysau cefn o'r tu allan i'r cerbyd. Archwilio'r colfachau a'r cliciedau.

Drychau

Archwilio bod y nifer ofynnol o ddrychau yno, eu cyflwr a'u diogelwch.

Diogelwch o ran llwyth

Bod modd cau'r bŵt neu'r dinddor yn sownd.

Breciau

Eu cyflwr gan gynnwys atgyweiriadau neu addasiadau amhriodol, eu gweithrediad a'u perfformiad (prawf effeithlonrwydd). Noder na chaiff olwynion ffyrdd na'r trimiau olwynion eu tynnu fel rhan o'r prawf. Archwilio system frecio wrth-gloi (ABS) neu system rheoli sefydlogrwydd electronig (ESC) lle y bo'n berthnasol. Archwilio'r MIL ar gyfer yr ABS, y system rheoli sefydlogrwydd electronig, y brêc parcio electronig a'r rhybudd hylif brecio.

Teiars ac olwynion

Cyflwr, diogelwch, maint y teiars, eu math a dyfnder eu gwadn. Ni chaiff teiars sbâr eu harchwilio. Noder: yn achos cerbydau a gaiff eu defnyddio gyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2012 - caiff yr MIL ar gyfer monitro pwysedd y teiars ei harchwilio.

Platiau cofrestru

Eu cyflwr, eu diogelwch, eu lliw, bod y llythrennau a'r rhifau wedi'u ffurfio'n gywir a bod digon o le rhyngddynt.

Goleuadau

Eu cyflwr, eu gweithrediad gan gynnwys goleuadau blaen HID ac LED o ran glanhau, hunanlefelu a diogelwch. Cyfeiriad golau'r brif lamp flaen. Golau rhybudd y goleuadau llawn.

Boned

Bod ei chlicied yn cau'n sownd.

Sychwyr ffenestri a wasieri

Eu bod yn gweithio er mwyn rhoi golwg glir i'r gyrrwr o'r ffordd o'i flaen.

Ffenestr flaen

Ei chyflwr a golwg y gyrrwr o'r ffordd.

Corn

Ei bod yn gweithredu'n gywir ac o fath priodol.

Llywio a hongiad

Cyflwr, lefel olew llywio, gweithrediad, archwilio am atgyweiriadau neu addasiadau amhriodol gan gynnwys cyrydiad i beipiau neu bibellau pŵer-lywio. Bod mecanwaith y cylch troi yn gweithredu. Archwilio'r MIL ar gyfer pŵer-lywio electronig a'r cylch troi.

Rhif adnabod y cerbyd (VIN)

Mae'r rhif hwn ar gael ar gerbydau a gafodd eu defnyddio gyntaf ar neu ar ôl 1 Awst 1980. Dim ond un VIN unigryw sy'n cael ei arddangos heblaw ar gerbydau lluosran.

Ble i fynd am brawf MOT

Mae oddeutu 19,000 o garejys wedi'u hawdurdodi fel canolfannau prawf MOT ledled y wlad a all gynnal prawf MOT ar eich cerbyd. Mae canolfannau prawf awdurdodedig yn arddangos y logo gyda'r tri thriongl glas. Mae'n rhaid i'r ffi fwyaf ar gyfer y prawf gael ei harddangos ar boster ym mhob canolfan brawf. Fodd bynnag, gall y ganolfan godi ffi sy'n llai na'r hyn sydd ar y poster os yw am wneud hynny.

Sut mae cerbydau'n cael eu profi

Mae gan ganolfannau prawf MOT leoedd prawf dynodedig i gynnal y prawf, gan ddefnyddio amrywiaeth o offer sy'n bodloni'r fanyleb ofynnol ar gyfer prawf MOT. Mae gweithdrefnau'r prawf safonol wedi'u nodi mewn llawlyfr archwilio y dylai'r ganolfan brawf ei ddangos i chi ar gais.

Os yw eich cerbyd wedi methu'r prawf, cewch ddogfen fethu sy'n cyfeirio at y llawlyfr hwn. Gallwch wylio'r prawf o ardal wylio ddynodedig ond ni chaniateir i chi dorri ar draws y profwr pan fydd wrth ei waith.

Mae pob un o'r profwyr MOT wedi bod ar gwrs hyfforddi gyda'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) a chaiff canlyniadau eu profion eu harchwilio'n rheolaidd.

Pwy sy’n goruchwylio’r cynllun?

VOSA yw asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am oruchwylio'r cynllun MOT. Gwna hyn drwy:

  • awdurdodi canolfannau prawf MOT a chymeradwyo profwyr MOT
  • pennu safonau ar gyfer y prawf a gofynion o ran awdurdodi canolfannau prawf MOT a'r profwyr
  • hyfforddi arholwyr awdurdodedig a phrofwyr MOT
  • ymweld â chanolfannau prawf MOT a chynnal archwiliadau i sicrhau y caiff safonau profi eu cynnal ac y caiff cyfleusterau profi eu cynnal a'u cadw
  • rhoi cyngor a chymryd camau disgyblu yn yr achosion hynny lle na chynhelir profion yn unol â'r safonau gofynnol
  • ymdrin ag apeliadau a chwynion gan gwsmeriaid MOT

Darparwyd gan Vehicle and Operator Services Agency (VOSA)

Allweddumynediad llywodraeth y DU