Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth neges testun i’ch atgoffa i drefnu prawf MOT

Mae'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) wedi sefydlu gwasanaeth neges testun i atgoffa cwsmeriaid i drefnu prawf MOT. Drwy gofrestru, fe gewch chi negeseuon testun i ddweud wrthych chi erbyn pryd y mae angen i chi adnewyddu'ch MOT. Yma cewch wybod sut mae’r gwasanaeth yn gweithio, a sut gallwch chi gofrestru.

Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio?

Cofiwch:
Os byddwch chi’n tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn, byddwch yn dal yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod eich cerbyd wedi cael ei brawf MOT erbyn y dyddiad adnewyddu

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi gofrestru eich manylion gyda VOSA. Ar ôl i chi gofrestru, bydd tair neges testun yn cael eu hanfon i'ch ffôn symudol i'ch atgoffa o ddyddiad adnewyddu eich MOT.
Byddant yn cael eu hanfon:

  • bum wythnos cyn y dyddiad
  • pythefnos cyn y dyddiad
  • y diwrnod cyn y dyddiad

Bydd y negeseuon atgoffa yn cynnwys rhif cofrestru'r cerbyd a’r dyddiad adnewyddu MOT.

Bydd rhaid i chi dalu ffi untro o £1.50 i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn (yn cynnwys TAW). Caiff y ffi hon ei chasglu drwy ddarparwr eich rhwydwaith ffôn symudol ar ôl i’ch cofrestriad gael ei dderbyn.

Os byddwch chi’n tanysgrifio i'r gwasanaeth hwn, byddwch yn dal yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod eich cerbyd wedi cael ei brawf MOT erbyn y dyddiad adnewyddu. Mae hyn yn wir p’un ai a fyddwch chi’n cael y negeseuon atgoffa ai peidio.

Beth fydd ei angen arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn, mae gofyn bod gennych chi’r canlynol:

  • ffôn symudol sydd wedi’i gofrestru yn y DU
  • cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU
  • rhif prawf MOT diweddaraf y cerbyd
  • yr hawl i gronni ffioedd ar y ffôn symudol neu ganiatâd y sawl sy’n talu’r bil

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth

Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth drwy ddefnyddio’ch tystysgrif prawf MOT gyfredol. Bydd angen i chi nodi rhif eich prawf MOT mewn neges testun a'i hanfon at 66848 (MOT4U) o'ch ffôn symudol. Mae rhif y prawf MOT yn cynnwys 12 digid, ac mae i’w weld ar dystysgrif eich prawf MOT (VT20) yn y gornel chwith uchaf.

Yn ystod y broses gofrestru, bydd VOSA yn cymharu’r wybodaeth y byddwch chi’n ei darparu â chofnodion y cerbyd er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gywir, ac yn sicrhau y gellir cael y taliad. Os nad yw’r wybodaeth yn cyfateb neu os na ellir cael y taliad, ni fydd VOSA yn gallu darparu'r gwasanaeth ac ni chodir ffi. Ar ôl gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn cyfateb ac y gellir cael y taliad, bydd VOSA yn anfon neges testun (yn ddi-dâl) i gadarnhau eich bod wedi llwyddo i gofrestru neu i egluro pam nad ydych chi wedi gallu cofrestru.

Cofrestru eich cerbyd Er mwyn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, bydd angen i chi nodi rhif eich prawf MOT mewn neges testun a'i anfon at 66848 (MOT4U) o'ch ffôn symudol.

Rhoi’r rhif prawf MOT anghywir
Os byddwch chi’n anfon y rhif prawf MOT anghywir at 66848 (MOT4U) dair gwaith, bydd y system yn rhwystro rhif eich ffôn symudol rhag defnyddio’r gwasanaeth. Os digwydd hyn, bydd VOSA yn anfon neges testun atoch i egluro sut gallwch chi ddadwneud hyn er mwyn i'ch ffôn symudol allu defnyddio'r gwasanaeth.

Negeseuon atgoffa am MOT – telerau ac amodau
Os byddwch chi’n dewis defnyddio'r gwasanaeth hwn ac yn anfon eich manylion at 66848 (MOT4U), byddwch chi’n derbyn telerau ac amodau VOSA. Mae’r telerau ac amodau hyn i’w gweld ar wefan VOSA.

Am faint fydd eich cofrestriad yn para?

Dim ond i’r rhif ffôn a’r rhif cofrestru cerbyd a roddwyd wrth gofrestru y bydd eich cofrestriad yn berthnasol. Bydd yn para am hyd at 13 mis.

Ar ôl i’ch cerbyd basio prawf MOT neu ar ôl i ddyddiad adnewyddu eich MOT fynd heibio, bydd VOSA yn rhoi'r gorau i anfon negeseuon atgoffa atoch chi. Os hoffech gael eich atgoffa am fwy o brofion MOT, bydd angen i chi gofrestru eto a thalu'r ffi o £1.50 eto (yn cynnwys TAW).

Ni fydd modd trosglwyddo eich cofrestriad i gerbyd arall nac i rif ffôn symudol arall – bydd angen i chi gofrestru eto a thalu £1.50 (yn cynnwys TAW) am bob cofrestriad ychwanegol.

Pwyntiau i’w cofio wrth gofrestru ar gyfer negeseuon atgoffa

Pan fyddwch chi’n cofrestru ac yn defnyddio’r gwasanaeth, efallai y bydd angen i chi ystyried ambell beth.

1. Os oes gennych chi ffôn symudol talu wrth ddefnyddio, dylech wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o gredyd.

2. Os yw eich blwch derbyn yn llawn, efallai na fydd y broses gofrestru yn gweithio ac na chewch chi'r negeseuon atgoffa.

3. Os byddwch chi’n gwerthu eich cerbyd, dylech ganslo eich cofrestriad.

4. Os byddwch chi'n newid plât rhif eich cerbyd (e.e. yn cael rhif personol), mae’n bosib y bydd eich negeseuon atgoffa yn cyfeirio at eich hen blât rhif.

5. Pan fydd eich cerbyd yn pasio ei brawf MOT, bydd angen i chi gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth.

6. Gallwch gofrestru unrhyw nifer o gerbydau ar yr un ffôn, neu gofrestru'r un cerbyd ar wahanol ffonau am ffi o £1.50 bob tro.

7. Bydd pedwaredd neges testun yn cael ei hanfon ar ôl i’r cerbyd basio ei brawf MOT. Bydd y neges hon yn eich cymell i gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth atgoffa.

Canslo eich cofrestriad

Gallwch ganslo eich cofrestriad unrhyw bryd drwy anfon neges testun yn cynnwys y gair STOP at 66848 (MOT4U).

Os byddwch chi’n canslo o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl i chi lwyddo i gofrestru, byddwch chi'n gymwys i gael ad-daliad. Gallwch hawlio’r ad-daliad hwn ar yr amod nad ydych wedi cael y neges atgoffa gyntaf ar gyfer y cofrestriad hwnnw.

Ar ôl saith diwrnod gwaith neu os ydych wedi cael y neges atgoffa gyntaf o fewn y saith diwrnod cyntaf, ni fydd modd i chi hawlio ad-daliad. Os byddwch chi'n canslo eich cofrestriad unrhyw bryd, ni chaiff mwy o negeseuon atgoffa eu hanfon ar gyfer y cofrestriad hwnnw.

I hawlio eich ad-daliad, bydd angen i chi anfon y manylion canlynol i VOSA drwy'r post neu'r e-bost:

  • eich enw llawn
  • cyfeiriad post llawn
  • rhif ffôn cyswllt
  • rhif cofrestru’r cerbyd
  • rhif y prawf MOT cyfredol

Bydd VOSA yn dyrannu ad-daliadau ar ffurf siec o fewn 30 diwrnod i gael e-bost neu lythyr a gyflwynwyd yn briodol.

Manylion cyswllt ar gyfer ad-daliadau ac ymholiadau

Os oes gennych chi gwestiwn ynghylch eich cofrestriad, gallwch gysylltu â VOSA drwy'r post neu'r e-bost. Bydd angen i chi roi'r canlynol:

  • rhif cofrestru eich cerbyd
  • rhif eich ffôn symudol
  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn

E-bost

motreminders-refunds.it-solutions.gb@atos.net

Post

VOSA
Blwch Post 415
Durham
DH99 1YZ

Allweddumynediad llywodraeth y DU