Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhaid i chi ddychwelyd eich dogfen cadw rhif (V778) i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i'w hadnewyddu os yw ar fin dod i ben, neu i'w diweddaru os yw'r manylion a ddangosir wedi newid. Os yw'r ddogfen ar goll neu wedi'i dwyn, bydd angen i chi gael un arall.
Rhaid i'r grantî lofnodi'r ddogfen cadw rhif (os yw ar gael). Os mai chi yw'r enwebai, bydd angen i chi gael llofnod y grantî ar y ddogfen cadw rhif.
Adnewyddu dogfen cadw rhif
Tua pedair wythnos diwrnod cyn y dyddiad y daw'r ddogfen i ben anfonir llythyr atgoffa at y grantî i ymestyn yr hawl cadw am flwyddyn, dwy flynedd neu dair blynedd.
Llenwch y ddogfen cadw rhif ac amgaewch ffi o £25 am flwyddyn, £50 am ddwy flynedd neu £75 am dair blynedd. Nid oes modd ad-dalu'r ffi.
Os yw'r ddogfen cadw rhif wedi dod i ben, rhaid i'r grantî ddychwelyd y ddogfen a'r ffi briodol gyda llythyr yn egluro pam mae'r cais yn hwyr. Bydd y cais yn cael ei ystyried.
Ychwanegu neu newid manylion enwebai
Gall y grantî ychwanegu neu newid manylion yr enwebai unrhyw adeg neu pan fydd yn aseinio'r rhif cofrestru personol i gerbyd yr enwebai yn un o swyddfeydd lleol DVLA.
Dylech lenwi'r ddogfen cadw rhif ac amgáu'r ffi o £25. Rhaid i'r grantî lofnodi'r ddogfen.
Bydd angen i'r grantî lenwi'r ddogfen a'i dychwelyd i DVLA gyda llythyr esboniadol gan amgáu unrhyw ddogfennau perthnasol i gefnogi'r newidiadau. Ni chodir tâl am hyn.
Bydd angen i'r grantî ddychwelyd y ddogfen i DVLA gyda llythyr esboniadol yn rhoi manylion am y camgymeriadau, ee gwallau sillafu. Ni chodir tâl am hyn.
Cael dogfen cadw rhif newydd yn lle un sydd ar goll neu wedi'i dwyn
Bydd angen i'r grantî wneud cais am ddogfen arall yn ysgrifenedig. Ni chodir tâl am hyn
Dychwelwch y ddogfen cadw rhif:
Os nad yw'r ddogfen cadw rhif gennych am ba bynnag reswm, anfonwch lythyr esboniadol wedi'i lofnodi gan y grantî.
Bydd dogfen cadw rhif newydd yn cael ei phostio at y grantî. Caniatewch dair i bedair wythnos iddi gyrraedd cyn cysylltu â gwasanaeth ymholiadau cwsmeriaid DVLA.
Os yw'r grantî wedi marw, gall yr ysgutor neu'r buddiolwr wneud y canlynol:
ei anfon i'r Adran Trosglwyddo Rhifau Arbennig, A2, DVLA, Abertawe, SA99 1BW