Sut mae creu plât rhif
Mae'n rhaid arddangos rhif cofrestru'n gywir yn unol â'r gyfraith. Bydd angen i chi fynd at ddarparwr platiau rhif cofrestredig er mwyn cael platiau rhif newydd ar gyfer eich cerbyd. Bydd angen prawf o bwy ydych chi ar y darparwr cofrestredig, yn ogystal â phrawf mai chi sy'n berchen ar y rhif cofrestru.
Beth mae ei angen arnoch
Bydd yn rhaid i'r darparwr plât rhif weld o leiaf un ddogfen o bob un o'r rhestrau isod. Bydd hyn yn galluogi'r darparwr plât rhif i gadarnhau eich enw, eich cyfeiriad a'ch hawl i'r rhif cofrestru. Mae'n rhaid i bob dogfen fod yn wreiddiol, nid copïau.
Dogfennau i gadarnhau pwy ydych chi
Un o’r canlynol:
- trwydded yrru, wedi'i chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig (DU) ai peidio (gyda llun neu heb lun)
- bil gan eich cyflenwr dŵr, nwy neu drydan, bil llinell ffôn ddaearol, bil treth cyngor neu fil cyfraddau yng Ngogledd Iwerddon (a roddir o fewn y chwe mis diwethaf)
- cyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu (a roddir o fewn y chwe mis diwethaf)
- pasbort, wedi'i gyhoeddi yn y DU ai peidio
- cerdyn adnabod cenedlaethol a gyhoeddwyd gan lywodraeth gwladwriaeth neu diriogaeth arall heblaw'r DU
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd gan fanc neu gymdeithas adeiladu
- cerdyn gwarant yr heddlu
- cerdyn adnabod y lluoedd arfog
Dogfennau i sefydlu eich hawl i'r rhif cofrestru
Un o’r canlynol:
- tystysgrif cofrestru cerbyd (V5C neu V5CNI)
- atodiad ceidwad newydd (V5C/2 neu V5C/2NI)
- tystysgrif hawl (V750 neu V750NI) i rif cofrestru cerbyd
- dogfen cadw rhif (V778) (ddim yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon)
- ffurflen atgoffa am ddisg dreth neu Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (V11 neu V11NI)
- ffurflen cerdyn cofrestru cerbyd am ymweliad dros dro (V573)
- tystysgrif cofrestru dros dro (V379 neu V379NI)
- tystysgrif awdurdodi plât rhif (V948) gyda stamp swyddogol arni gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) neu'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)
- llythyr awdurdodi gan reolwr fflyd (gan gynnwys cwmni prydlesu/llogi) - rhaid dyfynnu cyfeirnod y ddogfen sydd ar y dystysgrif cofrestru ar y llythyr
Dod o hyd i'ch darparwr platiau rhif cofrestredig agosaf
Cofiwch, dim ond darparwr platiau rhif cofrestredig y dylech ei ddefnyddio. Bydd angen iddo weld y dogfennau gwreiddiol cyn y gall ddarparu platiau rhif newydd i chi.