Rhifau Cofrestru Personol y DVLA
Chwiliwch o blith miliynau o blatiau rhif personol, yn uniongyrchol gan y DVLA, yn gyflym a hawdd gyda'n 'Chwiliad Uwch' newydd, deallus uchod.
Yr holl brisiau yn cynnwys TAW a'r ffi ddyrannu £80 felly nid oes dim byd arall i'w dalu.
Prisiau yn cychwyn o £250
Oes gennych gwestiwn am blatiau rhif neu sut i ddod o hyd i'ch plât rhif delfrydol? Porwch ein hadran Cwestiynau ac Atebion am ragor o wybodaeth.
Dod o hyd i'ch plât delfrydol
Mae gan Rhifau Cofrestru Personol y DVLA dros 30 miliwn o rifau cofrestru ar gael i'w prynu ar-lein, felly fe all dod o hyd i'ch plât delfrydol ymddangos yn dasg anferth ar y dechrau, ond mae'r broses yn syml iawn.
Beth yw cyfanswm y gost?
Mae'r holl rifau cofrestru yn cynnwys TAW a'r ffi ddyrannu £80. Mae hyn yn golygu nad oes dim arall i'w dalu ac eithrio costau gwneud y platiau rhif eu hunain. DIM COSTAU CUDD!
Beth sy'n digwydd ar ôl prynu?
Ar ôl i chi brynu eich rhif cofrestru fe fyddwn yn anfon Tystysgrif Hawl (V750) atoch. Cadwch hi'n ddiogel, gan mai dyma'r ffurflen y bydd arnoch ei hangen pan fyddwch yn barod…