Dyma'r cwestiynau a ofynnir amlaf am rifau cofrestru personol ar ôl prynu. Cliciwch ar y cwestiwn neu bwnc perthnasol o'r rhestr isod i gael help mwy manwl ar ddefnyddio gwefan Rhifau Cofrestru Personol y DVLA.
Ar l i chi brynu gan y DVLA byddwn yn anfon Tystysgrif Hawl (V750W) atoch. Cadwch hon yn ddiogel, gan mai dyma'r ffurflen y bydd arnoch ei hangen pan fyddwch yn barod i roi eich marc cofrestru personol ar eich cerbyd.
Caniatewch 2 wythnos i dderbyn eich tystysgrif cyn gofyn am un arall.
Na. Mae gennych hyd y dyddiad dod i ben a ddangosir ar eich V750W i roi'r marc ar gerbyd.
Os byddwch yn dal ddim yn barod i roi eich marc cofrestru ar eich cerbyd cyn y dyddiad cau a argreffir ar eich tystysgrif hawl, yna gallwch ymestyn cyfnod yr hawl am flwyddyn arall, dwy flynedd neu dair blynedd am ffi o £25 y flwyddyn. Gallwch wneud cais ar-lein trwy "Fy Nghyfrif" am 1 flwyddyn neu lofnodi adran 2 ar y dystysgrif hawl ac anfon eich cais a'ch siec yn daladwy i DVLA yn Rhifau Cofrestru Personol y DVLA, Abertawe, SA99 1DN. Rhaid i'ch cais gael ei wneud cyn i'r dystysgrif ddod i ben ond dim ond o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y daw i ben.
Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y nifer o amseroedd y gallwch ymestyn eich cyfnod hawl.
Gallwch wneud cais am gopi arall AM DDIM ar-lein trwy 'Fy Nghyfrif'. Ar yr amod bod o leiaf 1 wythnos ar l ar y dystysgrif hawl cyn y dyddiad y daw i ben ac nad yw'r marc erioed wedi cael ei roi ar gerbyd.
Yn syml ewch i 'Fy Nghyfrif'. Mae ffi o £25 am ychwanegu neu newid y manylion hyn.
Fel arall os ydych hefyd yn barod i aseinio'r rhif cofrestru i'ch cerbyd gallwch wneud cais i ychwanegu enwebai ar yr un pryd ag y byddwch yn aseinio eich marc cofrestru mewn Swyddfa leol y DVLA trwy lenwi Adrannau 1, 2 a 6 o'r Dystysgrif Hawl [V750].
Yn syml ewch i 'Fy Nghyfrif'. Sylwer y bydd hyn hefyd yn newid eich cyfeiriad cyfrif ar-lein.
Os byddwch yn dal ddim yn barod i roi eich marc cofrestru ar eich cerbyd cyn y dyddiad cau sydd wedi ei argraffu ar eich Tystysgrif Hawl, yna gallwch ymestyn y cyfnod hawl am un flwyddyn, ar-lein trwy 'Fy Nghyfrif' am ffi o £25. Byddwch yn cael y dewis i wneud hyn am 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw eich tystysgrif i ben.
Fel arall gallwch ymestyn eich hawl am 1, 2 neu 3 blynedd trwy lenwi adrannau 3 a 6 ar y dystysgrif hawl ac anfon eich cais a'ch siec (£25 y flwyddyn) yn daladwy i'r DVLA yn Rhifau Cofrestru Personol y DVLA, Abertawe, SA99 1DN. Os nad yw eich tystysgrif yn rhoi'r dewis i chi gael estyniad 2/3 blynedd dylech gyflwyno cais ysgrifenedig ynghyd 'ch tystysgrif a'r ffi berthnasol. Rhaid i chi wneud eich cais cyn i'r dystysgrif ddod i ben ond dim ond o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y daw i ben.
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch ymestyn y cyfnod hawl.
Bydd angen i chi roi esboniad ysgrifenedig pam bod eich cais yn hwyr ynghlwm wrth y Dystysgrif Hawl V750W ac amgau siec yn daladwy i'r DVLA am y ffi briodol. Y cyfeiriad yw Rhifau Cofrestru Personol y DVLA, Abertawe, SA99 1DN. Fe fyddwn wedyn yn cysylltu i roi gwybod i chi os derbyniwyd eich cais.
Bydd raid i chi wneud cais i'ch swyddfa DVLA leol. Gallwch wneud cais trwy'r post neu yn bersonol, ond yn ystod amseroedd prysur efallai y bydd raid i chi gasglu eich dogfennau yn hwyrach. Bydd cefn eich tystysgrif dan adran B yn disgrifio'r dogfennau y bydd arnoch eu hangen i fynd gyda'ch cais. Sylwer y bydd raid i brynwr y marc cofrestru lofnodi adran 1 o'r V750W. Sylwer bod y V750W wedi cael ei diwygio yn ddiweddar. Os oes gennych dystysgrif ar y ffurf flaenorol dylech lenwi adran 4.
Mae Swyddfeydd Lleol y DVLA ar agor rhwng 9yb a 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mannau parcio i gwsmeriaid ar gael. Nid oes raid i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw.
Caniatewch 3 wythnos cyn derbyn Tystysgrif Cofrestru V5CW yn dilyn aseiniad.
Gweld sampl o dystysgrif V750W
Dod o hyd i'ch swyddfa leol DVLA agosaf.
Sut i gofrestru eich cerbyd
Er mwyn gwneud eich platiau rhif bydd raid i chi fynd at gyflenwr platiau rhif cofrestredig. Gweler Sut i wneud eich platiau rhif am ragor o wybodaeth.
Gweler y ddogfen PDF ar sut i arddangos rhif cofrestru yn gywir am ragor o wybodaeth.
Sylwer os gwelwch yn dda: Mae'n drosedd newid, ail drefnu neu gam gynrychioli rhif cofrestru. Mae uchafswm o ran dirwy o £1000 a gall y rhif cofrestru gael ei dynnu yn l heb unrhyw iawndal.
Dim ond os gwnaethoch chi brynu'r marc ar l 1 Mai 1993 ac nad yw'r marc erioed wedi cael ei roi ar gerbyd. Dim ond ar l y dyddiad cau a ddangosir ar eich tystysgrif hawl (V750W) y gallwch wneud hyn hefyd a hyd at chwe blynedd ar l y dyddiad hwn. Er mwyn gwneud hyn dylech lenwi adrannau 5 a 6 ar eich tystysgrif a'i dychwelyd at Rifau Cofrestru Personol y DVLA, Abertawe, SA99 1DN. Ar l i chi wneud hyn ni fydd gennych hawl pellach ar y marc cofrestru.
Er mwyn gwirio dilysrwydd bydd angen i chi gael y rhif cofrestru, a rhif y dystysgrif o'r dystysgrif hawl V750W i wneud hyn.
Os byddwch am werthu eich rhif cofrestru rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu gwerthwr preifat neu hysbysebu'r rhif cofrestru ar werth eich hun. Mae cynllun gwerthu'r DVLA yn gyfyngedig i werthu ei rifau cofrestru oedd heb eu cyhoeddi o'r blaen. Nid ydym yn cymeradwyo neu argymell unrhyw unigolyn neu gwmni penodol.
Bydd raid i chi lenwi Cais V317W i drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru cerbyd. Y gost i gadw rhif cofrestru yw £105.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth gan gynnwys sut i gael ffurflen gais.
Gallwch wneud cais am gopi arall ar-lein AM DDIM trwy 'Fy Nghyfrif'. Ar yr amod bod gan y dystysgrif hawl o leiaf un wythnos cyn y bydd yn dod i ben ac nad yw'r marc wedi cael ei roi ar unrhyw gerbyd erioed.
Os mai chi yw'r enwebai ar y V750W, gallwch ysgrifennu i ofyn am fanylion y prynwr gyda ffi o £5.00. Rhaid i chi esbonio pam eich bod yn gofyn am y manylion a phryd y gwnaethoch brynu'r marc cofrestru. Ysgrifennwch at:
Rhifau Cofrestru Personol y DVLA
Rhyddhau Gwybodaeth
DVLA
Abertawe
SA99 1DN
Bydd raid i chi lenwi Cais V317W i drosglwyddo neu gadw rhif cofrestru cerbyd. Y gost am gadw rhif cofrestru yw 105.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth gan gynnwys sut i gael ffurflen gais.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am aseinio'r marc cofrestru hwn, gallwch ganslo eich pryniant trwy anfon e-bost atom yn cancellations@dvla.gsi.gov.uk cyn pen 10 diwrnod gwaith ar l dyddiad y pryniant. Ni fydd ceisiadau i ganslo a wneir ar l 10 diwrnod yn cael eu derbyn.
Yn eich e-bost a wnewch chi gynnwys:
Byddwch yn derbyn ateb cyn pen 10 diwrnod gwaith o'ch cais, ac os cewch eich cymeradwyo, bydd ad-daliad yn cael ei wneud i'r cerdyn talu a ddefnyddiwyd ar adeg y pryniant. Nid oes ffi canslo ond sylwer nad ydym yn ad-dalu unrhyw ffoedd y byddwch wedi eu talu am ymestyn y cyfnod aseinio neu newid manylion yr enwebai.
Cyfyngu'r canlyniadau i'r arddull cofrestru sydd orau gennych.
Arddull Presennol
Arddull Rhagddodiad
Arddull yr Ocsiwn
Cyfyngu'r canlyniadau i'r ystod prisiau a ddewiswyd.
Y platiau arddull presennol yw'r rhifau cofrestru sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhifau cofrestru newydd ac maent ar y ffurf; 2 lythyren, 2 rif ac yna 3 llythyren. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Platiau arddull rhagddodiad yw'r rhifau cofrestru a ddefnyddiwyd cyn 2001 ac maent yn cynnwys; 1 lythyren, 1-3 rhif ac yna 3 llythyren. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Platiau ocsiwn yw'r rhai a neilltuwyd i'w rhoi ar ocsiwn mewn ocsiwn fyw ar-lein. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Yn caniatáu i chi fireinio eich chwilio a dod o hyd i gyfatebiaeth fwy penodol â'ch meini prawf chwilio am blât.
Gweld eich rhif cofrestru personol ar gar neu feic.
Anfonwch e-bost at eich ffrind am y rhif cofrestru personol hwn.
Ychwanegwch y rhif cofrestru hwn at eich rhestr o blatiau a ddymunwch.
Dim ond tan 31 Rhagfyr y mae'r rhif cofrestru hwn ar gael i'w brynu.