Cliciwch ar y cwestiwn neu bwnc perthnasol o'r rhestr isod i gael help mwy manwl ar ddefnyddio gwefan Rhifau Cofrestru Personol y DVLA.
Er mwyn dechrau chwilio, rhowch rai llythrennau i mewn, eich enw, neu rywbeth arall y byddech yn hoffi ei gael ar eich platiau rhif, yn y blwch chwilio melyn uchod. Bydd y canlyniadau wedyn yn rhoi detholiad bychan o'r dewisiadau sydd ar gael i chi.
Os na fydd unrhyw un o'r platiau yn y detholiad yn union yr hyn yr ydych yn chwilio amdano, gallwch glicio ar y botwm 'gweld rhagor o ganlyniadau' i weld rhagor o rifau cofrestru. Fel arall, os oes platiau sy'n agos i'r plt yr ydych yn chwilio amdano, gallwch fireinio eich chwiliad trwy glicio ar y botwm 'rhagor o blatiau fel hyn'. O'r fan hon gallwch ddewis pa elfennau o'r plt sy'n berthnasol ac ail chwilio gan ddefnyddio eich gwelliannau.
Mae'r dewis Chwiliad Rhagddodiad a Chwiliad Presennol ar y bar chwilio yn caniatu i chi chwilio am blt penodol os byddwch yn gwybod beth sydd arnoch ei eisiau neu eich bod am gael y canlyniadau ar fformat arbennig. Er mwyn defnyddio'r rhain cliciwch ar y botwm perthnasol ar y bar chwilio a byddwch yn cael plt wedi ei fformatio gyda phob adran fel cyfatebiaeth 'unrhyw un'. Oddi yma cliciwch ar yr adrannau a amlygir fel 'unrhyw un' i ddewis y rhifau neu lythrennau ar y plt y mae arnoch chi ei heisiau. Gallwch lenwi'r holl feysydd i ddod o hyd i'r union blt yr ydych yn chwilio amdano, neu gallwch adael rhai gyda'r dewis 'unrhyw un' i ganiatu i'n chwiliad ddod o hyd i'r holl ddewisiadau.
Ynghyd 'r rhifau cofrestru rhagddodiad ac arddull presennol gall y canlyniadau ddangos marciau a fydd ar gael ar werth yn ocsiynau'r dyfodol. Os byddwch yn cofrestru eich diddordeb, byddwn yn cysylltu chi cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw wybodaeth bellach. Bydd hyn yn cynnwys dyddiad yr ocsiwn, sut i gynnig a'r pris cadw.
Peidiwch phoeni os na fyddwch wedi clywed gennym am gyfnod, byddwn yn cysylltu cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw wybodaeth bellach.
Rydym yn cynnig rhifau cofrestru rhagoddodiad, steil presennol, l-ddodiad a diddyddiad trwy ein sianel werthu ar-lein ac mewn ocsiynau.
Nid yw yr un o'r rhifau cofrestru yr ydym yn eu cynnig ar werth wedi cael eu cyhoeddi na'u defnyddio o'r blaen. Nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaeth ailwerthu neu brisio i gwsmeriaid.
Mae rhifau cofrestru steil presennol yn cynnwys dwy lythyren, dau rif i ddynodi oedran, lle gwag ac yna tair llythyren ar y diwedd. Er enghraifft:
Rhifau cofrestru rhagddodiad yw'r rhai sy'n cynnwys modd o ddynodi'r flwyddyn ar ddechrau'r rhif cofrestru. Maent yn cynnwys llythyren, un i dri rhif, gofod ac yna yn olaf, tair llythyren.
Rhifau cofrestru l-ddodiad yw'r rhai sy'n cynnwys modd o ddynodi'r flwyddyn ar ddiwedd y rhif cofrestru. Maent yn cynnwys tair llythyren, gofod, ac un i dri rhif, ac yna yn olaf un lythyren.
Nid yw rhifau cofrestru diddyddiad yn cynnwys modd o ddynodi'r flwyddyn a gallant gynnwys cyfuniad o rifau ac yna cyfuniad o lythrennau a fel arall. Mae gofod rhwng y rhifau a'r grwp o lythrennau.
Rhifau cofrestru rhagddodiad yw'r rhai sy'n cynnwys y nodwr blwyddyn ar ddechrau'r rhif cofrestru. Maent yn cynnwys llythyren, un i dri rhif, gofod ac yna yn olaf tair llythyren. Er enghraifft:
Mae rhifau cofrestru steil presennol yn cynnwys dwy lythyren, dau rif i ddynodi oedran, gofod ac yna, yn olaf, tair llythyren. Er enghraifft:
Platiau ocsiwn yw'r rhai sy'n cael eu dewis yn arbennig i'w gwerthu oherwydd eu cyfuniadau sy'n eu gwneud yn unigryw iawn ac yn rhai addas i'w casglu.
Nid yw rhifau cofrestru diddyddiad yn cynnwys modd o ddynodi'r flwyddyn a gallant gynnwys cyfuniad o rifau ac yna cyfuniad o lythrennau neu fel arall. Mae gofod rhwng y rhif a'r grwp o lythrennau.
Gwerthir rhifau cofrestru diddyddiad trwy ein busnes ocsiynnau ar-lein a byw. Er mwyn gweld a phrynu'r rhifau cofrestru hyn gweler yr adran ocsiynau.
Gallwch chwilio'r wefan hon am yr holl rifau cofrestru a'u prisiau sydd ar gael ar hyn o bryd trwy'n busnes ar-lein. Gellir prynu'r data hefyd am ffi o £143 ddwywaith y flwyddyn yn ystod Mai a Thachwedd yn unig. Os oes gennych ddiddordeb, ysgrifennwch at Rifau Cofrestru Personol y DVLA, Abertawe, SA99 1DN. Bydd y rhifau cofrestru sy'n cael eu cynnig ar werth ym mhob ocsiwn ac ocsiwn ar-lein hefyd yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan gan gynnwys eu prisiau cadw.
Os byddwch yn methu dod o hyd i'r marc cofrestru y mae arnoch ei eisiau neu bod gennych gais penodol cysylltwch ni yn y DVLA ac fe fyddwn yn ceisio eich helpu wrth i chi chwilio.
Os byddwch yn dal i fethu dod o hyd i'r marc cofrestru y mae arnoch ei eisiau fe allech roi tro ar un o'r gwerthwyr rhifau annwyl. Sylwer na fydd y DVLA yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw broblemau sy'n deillio o'r cyfeiriad hwn na chynnwys gwefannau trydydd parti.
Os byddwch yn prynu marc cofrestru o un o ocsiynnau'r DVLA yna mae'r Amodau a Thelerau Gwerthu llawn yn cael eu cynnwys yng nghatalog yr ocsiwn. Wrth brynu rhif cofrestru yn uniongyrchol o'n busnes ar-lein gellir gweld y telerau a'r amodau llawn yn ystod y broses o brynu Gweld amodau a thelerau gwerthu
Cofiwch y gallwch wneud i'ch cerbyd edrych mor hen ag y mynnwch ond ni allwch wneud iddo edrych yn fwy newydd nag ydyw mewn gwirionedd. Er enghraifft ni allwch roi rhif cofrestru Y ar gerbyd a gofrestrwyd yn T ond fe allech ddewis unrhyw ystod rhagddodiad o A hyd at T. Am ragor o wybodaeth, gweler y cwestiwn isod Beth yw dyddiadau cyhoeddi gwreiddiol rhifau cofrestru? i weld y dyddiadau cyhoeddi.
Dyddiadau cyhoeddi platiau rhif yw'r cyfnod pan fydd cerbydau newydd yn cael eu cofrestru. Isod mae dolenni i'r rhestr o ddyddiadau cofrestru ar gyfer pob arddull o rif cofrestru.
Dyddiadau cyhoeddi ar gyfer rhifau cofrestru arddull presennol
Dyddiadau cyhoeddi ar gyfer rhifau cofrestru rhagddodiad
Yn anffodus nid ydym yn atgyfodi hen rifau cofrestru i'w gwerthu, er nad ydynt ar gerbyd bellach. Petai'r sefyllfa hon yn newid bydd y manylion llawn yn ymddangos ar ein gwefan. Ond efallai y byddwch yn dymuno anfon e-bost atom gyda'ch manylion cyswllt a byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau yn y polisi.
Penderfynodd yr Asiantaeth na fydd yn rhyddhau marciau cofrestru Q i'w gwerthu. Fe ddaeth i'r golwg y byddai'r costau i gynnig cyfleusterau gwerthu a throsglwyddo yn fwy nag unrhyw incwm, o ystyried y nifer gyfyngedig o gerbydau a fyddai'n gymwys i gymryd rhan. Yn ychwanegol, fe wnaeth yr adolygiad diweddar ar ddulliau archwilio rhifau cofrestru ddynodi cefnogaeth gref iawn i gadw'r polisi presennol ar farciau Q, am resymau diogelu defnyddwyr.
Cyfyngu'r canlyniadau i'r arddull cofrestru sydd orau gennych.
Arddull Presennol
Arddull Rhagddodiad
Arddull yr Ocsiwn
Cyfyngu'r canlyniadau i'r ystod prisiau a ddewiswyd.
Y platiau arddull presennol yw'r rhifau cofrestru sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhifau cofrestru newydd ac maent ar y ffurf; 2 lythyren, 2 rif ac yna 3 llythyren. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Platiau arddull rhagddodiad yw'r rhifau cofrestru a ddefnyddiwyd cyn 2001 ac maent yn cynnwys; 1 lythyren, 1-3 rhif ac yna 3 llythyren. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Platiau ocsiwn yw'r rhai a neilltuwyd i'w rhoi ar ocsiwn mewn ocsiwn fyw ar-lein. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Yn caniatáu i chi fireinio eich chwilio a dod o hyd i gyfatebiaeth fwy penodol â'ch meini prawf chwilio am blât.
Gweld eich rhif cofrestru personol ar gar neu feic.
Anfonwch e-bost at eich ffrind am y rhif cofrestru personol hwn.
Ychwanegwch y rhif cofrestru hwn at eich rhestr o blatiau a ddymunwch.
Dim ond tan 31 Rhagfyr y mae'r rhif cofrestru hwn ar gael i'w brynu.