Dyma'r cwestiynau a ofynnir amlaf am rifau cofrestru personol cyn prynu. Cliciwch ar y cwestiwn neu bwnc perthnasol o'r rhestr isod i gael gweld yr atebion i'r cwestiynau o ofynnir amlaf cyn prynu platiau rhif.
Mae'r holl rifau cofrestru ar-lein sydd i'w prynu ar unwaith yn cynnwys TAW a'r ffi ddyrannu £80. Mae hyn yn golygu nad oes dim byd arall i'w dalu ac eithrio costau gwneud y platiau eu hunain. DIM COSTAU CUDD!
Prisiau cadw yw'r prisiau a hysbysebir ar gyfer rhifau cofrestru sy'n cael eu cynnig i'w gwerthu yn ein hocsiynau / gwerthiannau ocsiwn ar-lein. Bydd y cynnig yn cychwyn o'r prisiau hyn ac nid ydynt yn cynnwys y ffi ddyrannu, TAW a phremiwm y prynwr.
Nid ydym yn cynnig unrhyw ffurf ar gynllun talu neu gynllun talu bob yn gyfran. Rhaid talu yn llawn.
Os ydych yn prynu marc cofrestru o un o ocsiynau'r DVLA yna bydd y Telerau Ac Amodau Gwerthu llawn yng nghatalog yr ocsiwn. Pan fyddwch yn prynu rhif cofrestru yn uniongyrchol gan ein busnes ar-lein mae'r Telerau ac Amodau Gwerthu llawn i'w gweld yn ystod y broses brynu Gweld y telerau ac amodau gwerthu hyn
Ydyn, mae'r holl rifau cofrestru sydd ar gael i'w prynu ar unwaith yn cynnwys TAW a'r ffi ddyrannu £80. Mae hyn yn golygu nad oes dim byd arall i'w dalu ac eithrio costau gwneud y platiau eu hunain. DIM COSTAU CUDD! Prisiau cadw yw'r prisiau a hysbysebir ar gyfer rhifau cofrestru sydd ar werth yn ein hocsiynau/ocsiynau ar-lein. Bydd y cynigion yn cychwyn ar y prisiau hyn ac nid ydynt yn cynnwys y ffi ddyrannu, TAW a phremiwm y prynwr.
Os byddwch yn prynu rhif cofrestru personol y DVLA i, neu ar ran rhywun arall byddwch chi'n cael eich cofnodi fel y prynwr a'r unigolyn y prynwyd y rhif cofrestru ar ei gyfer yn cael ei gofnodi fel yr enwebai. Yna gellir rhoi'r marc cofrestru ar gerbyd a gofrestrwyd yn eich enw chi neu yn enw'r enwebai.
Os byddwch yn prynu rhif cofrestru ar ran cwmni fe fyddwn yn cofnodi enw'r cwmni fel y prynwr.
Os byddwch yn prynu marc cofrestru yn un o ocsiynau'r DVLA yna bydd Amodau a Thelerau Gwerthu llawn yng nghatalog yr ocsiwn. Wrth brynu rhif cofrestru yn uniongyrchol gan ein busnes ar-lein gellir gweld yr amodau a'r telerau yn llawn yn ystod y broses brynu.
Dim ond i gerbydau a gofrestrwyd ar dir mawr Prydain y gellir dyrannu'r holl rifau cofrestru sydd ar werth, h.y. Lloegr, yr Alban, Cymru.
Ar l i'r rhif cofrestru gael ei aseinio yn briodol i gerbyd o Brydain gellir ei drosglwyddo i gerbyd gwahanol a gofrestrwyd ym Mhrydain neu Ogledd Iwerddon (ond nid Ynysoedd y Sianel nag Ynys Manaw).
Dim ond ar-lein y gellir prynu'r rhifau cofrestru sydd ar gael yn uniongyrchol ar ein gwefan. Yn anffodus ni allwch brynu dros y ffn.
Ar l i chi ddod o hyd i'r rhif cofrestru yr ydych yn ei ddymuno trwy ein cyfleuster chwilio, cliciwch ar prynu yn awr a dilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich pryniant.
Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich pryniant cyn pen 24 awr. Ar l i chi dderbyn hwn, byddwch yn medru gweld eich rhif cofrestru gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein.
Nid ydym yn cynnig unrhyw ffurf ar gynllun talu na thalu bob yn gyfran. Rhaid talu yn llawn.
Cyfyngu'r canlyniadau i'r arddull cofrestru sydd orau gennych.
Arddull Presennol
Arddull Rhagddodiad
Arddull yr Ocsiwn
Cyfyngu'r canlyniadau i'r ystod prisiau a ddewiswyd.
Y platiau arddull presennol yw'r rhifau cofrestru sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhifau cofrestru newydd ac maent ar y ffurf; 2 lythyren, 2 rif ac yna 3 llythyren. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Platiau arddull rhagddodiad yw'r rhifau cofrestru a ddefnyddiwyd cyn 2001 ac maent yn cynnwys; 1 lythyren, 1-3 rhif ac yna 3 llythyren. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Platiau ocsiwn yw'r rhai a neilltuwyd i'w rhoi ar ocsiwn mewn ocsiwn fyw ar-lein. Cliciwch i gael rhagor o wybodaeth
Yn caniatáu i chi fireinio eich chwilio a dod o hyd i gyfatebiaeth fwy penodol â'ch meini prawf chwilio am blât.
Gweld eich rhif cofrestru personol ar gar neu feic.
Anfonwch e-bost at eich ffrind am y rhif cofrestru personol hwn.
Ychwanegwch y rhif cofrestru hwn at eich rhestr o blatiau a ddymunwch.
Dim ond tan 31 Rhagfyr y mae'r rhif cofrestru hwn ar gael i'w brynu.